Roedd y neuadd fwyd a lolfa fasnach yn y Sioe Frenhinol Cymru yn ganolbwynt bywiog o weithgaredd bwyd a diod eleni gyda chynhyrchwyr adeiladu ar gyfnod llwyddiannus o dwf i’r diwydiant.
Mae ymchwil yn dangos fod gweithgarwch dros y ddwy flynedd ddiwethaf ym maes penodol masnach a busnes, a drefnir gan Bwyd a Diod Cymru, wedi arwain yn uniongyrchol at werthiannau cynhyrchwyr gwerth cyfanswm o fwy na £2 miliwn. Gwelodd y digwyddiad eleni 250 o gwmnïau yn arddangos eu cynhyrchion i fwy na 200 o fanwerthwyr mawr, cyfanwerthwyr, allforwyr a phrynwyr eraill.
Roedd llawer o gynhyrchwyr yn ychwangeu at y momentwm a gafwyd o ddigwyddiad Blas Cymru / Taste Wales a gynhaliwyd yn y gwanwyn. Mae’r ffigyrau cychwynnol yn dangos fod y digwyddiad masnach rhyngwladol cyntaf erioed yng Nghymru yn llwyddiant mawr, gyda bron i £3.5 miliwn o werthiannau cadarn yn golygu fod mwy fyth o gynnyrch o Gymru ar gael ym mhedwar ban byd, gan gynnwys Denmarc, Hong Kong a’r Emiraethau Arabaidd Unedig.
Un o’r prynwyr o’r diwydiant sy'n chwilio am gynnyrch blasus o Gymru yn y Sioe Frenhinol Cymru oedd Simon Dryell, Pennaeth Amredu yn y Co-op, a ddywedodd,
“Mae mynd i lolfa fusnes Sioe Frenhinol Cymru wastad yn gyfle gwych i rwydweithio a datblygu partneriaethau gyda chynhyrchwyr, ac rwyf yn edrych ymlaen yn fawr iawn at y cyfleoedd y bydd arddangosiad eleni yn eu cynnig.”
Wrth gyfeirio at waith parhaus Bwyd a Diod Cymru yn gyrru twf yn y diwydiant, dywedodd Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
“Mae ein harddangosiad yn ystod Wythnos Sioe Frenhinol Cymru yn chwarae rhan allweddol yn ein gwaith datblygu masnach ehangach. Rydym yn awyddus i adeiladu ar lwyddiant Blas Cymru / Taste Wales ac rwyf yn siŵr y bydd prynwyr ac arweinwyr y diwydiant yn parhau i gael yr argraff orau bosib o’r cynnyrch sydd gennym ar gael, wrth inni barhau â’n hawydd i dyfu’r diwydiant 30% erbyn 2020.”