Mae Gwobrau Great Taste y Deyrnas Unedig, sydd ymhlith y gwobrau pwysicaf ym maes bwyd a diod, wedi cyhoeddi’r nifer uchaf erioed o enillwyr o Gymru eleni. Llwyddodd deg o wahanol gynhyrchion Cymreig i ennill gwobr 3 seren yn 2015, o’i gymharu â thri y llynedd.

Am y tro cyntaf, yng Nghymru y daeth beirniaid arbenigol Great Taste ynghyd i bwyso a mesur yr ymgeiswyr. Ym mhlith y beirniaid yr oedd Xanthe Clay, Charles Campion a llu o gogyddion, prynwyr, perchnogion bwytai ac awduron. Cytunodd y panel yn unfrydol bod y deg cynnyrch canlynol yn meddu ar y rhinwedd arbennig, annisgrifiadwy, sy’n deilwng o’r teitl Pencampwr Great Taste 2015.

Daeth 10,000 o wahanol gynnyrch gerbron y beirniaid, ond dim ond 130 a lwyddodd i ennill gwobr 3 seren Great Taste.

Y cwmnïau o Gymru a enillodd 3 seren oedd:

  •        Seidr Lled Sych ‘Vilberie’ gan yr Apple County Cider Company
  •        Hagis gan gwmni cigyddion A.J. Pugh
  •        Marmalêd Mêl Coles Family Brewers
  •        Ham L’Antico Nero sydd wedi’i halltu am 36 mis, gan Districts of Italy
  •        Blodau Siwgr Grisial gan Eat My Flowers
  •        Hufen Iâ Mascarpone a Ffigys wedi’u carameleiddio gan Forte’s
  •        Menyn Hallt Shir Gâr gan gwmni Gower View Foods Ltd
  •        Cacen Foron ‘Mrs O’ gan Mrs O’s Kitchen & Pop-up Tearoom
  •       Seidr Lled Sych gan Pant-Du Cyf
  •        Menyn Hallt Tŷ Tanglwyst gan Hufenfa Tŷ Tanglwyst

Aeth cyfanswm o 165 gwobr Great Taste i gynhyrchion o Gymru eleni – nifer rhagorol, o gofio pa mor uchel eu bri yw’r gwobrau hyn. Dyfarnwyd 1 seren i 108 o ymgeiswyr, 2 seren i 47 ohonynt a 3 seren i ddeg cwmni. Roedd 25% yn fwy o ymgeiswyr o Gymru eleni, o 99 cwmni â 374 o gynhyrchion yn 2014 i 143 o gwmnïau â 491 o gynhyrchion yn 2015.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans, “Mae’r ffaith fod y nifer uchaf  erioed o ymgeiswyr o Gymru wedi ennill 3 seren eleni yn tystio ein bod wedi cymryd camau breision ymlaen ac wedi  codi proffil ein gwlad a lledaenu enw da Cymru ym maes bwyd a diod.

A’r gwobrau hyn yn cael eu beirniadu yng Nghymru am y tro cyntaf, cawsom gyfle gwych i arddangos y gorau o’n cynnyrch Cymreig ni – ond yn fwy na hynny mae’r gwobrau hyn yn rhoi sbardun i’n cwmnïau ni lwyddo’n well byth yn y dyfodol ac mae’n rhoi’r hygrededd i ni gyflwyno Cymru fel cyrchfan fwyd i’w chymryd o ddifri’. Bydd hyn yn rhoi hwb inni gyflawni ein targed uchelgeisiol i sicrhau 30% o dwf yn y sector bwyd a diod erbyn 2020, a dod â  £7 biliwn i mewn i’r economi.”

Esboniodd John Farrand, rheolwr-gyfarwyddwr Urdd y Bwydydd Da (Guild of Fine Food): “Mae wedi bod yn bleser gweld mwy o gwmnïau’n ennill 3 seren eleni. Mae’r cwrw a seidr, yn enwedig, wedi creu cryn argraff ar ein beirniaid talentog ni. Hoffwn annog rhagor o gynhyrchwyr bwyd a diod Cymru  i ymgeisio am wobr Great Taste yn 2016 ac ar ôl hynny – bydd yn helpu i godi proffil cynnyrch Cymreig ledled y byd, gan fod llawer o gwsmeriaid rhyngwladol yn awyddus i brynu gan gwmnïau sydd wedi cael sêr Great Taste.

Y cam nesaf fydd cyhoeddi’r 50 bwydydd gorau ar Twitter, rhwng 1 a 5 Medi; gweler @guildoffinefood #Top50foods. Yna, cyhoeddir  enillydd y brif wobr, sef y ‘Great Taste Supreme Champion’, a noddir gan Harrods, yn Llundain ar 8 Medi.

Ceir rhestr lawn o’r enillwyr ar www.greattasteawards.co.uk

 

Share this page

Print this page