Cyfeirir at Wobrau Great Taste fel Oscars y byd bwyd, ac fe’u cynhaliwyd yn Llundain neithiwr. Am yr ail flwyddyn yn olynol enillodd Apple County Cider wobr y Fforc Aur o Gymru.
Eleni, dyfarnwyd tair seren i Apple County Cider, enillydd gwobr y Fforc Aur o Gymru y llynedd am ei seidr Sych Canolig Vilberie, gan Great Taste am eu seidr Canolig Dabinett, oedd hefyd ymhlith y 50 Bwyd Gorau, ac un seren am eu Gellygwin Coch Blakeney.
Seidr pefriog canolig ysgafn yw’r Dabinett, sy’n boblogaidd iawn am ei flas ffrwythau, a chaiff ei wneud o 100% sudd ffres wedi’i wasgu o afalau eiconig chwerwfelys Dabinett, gyda blas ffrwyth ysgafn ac elfen fach o sbeis a gorffeniad glân a hir.
“Ffres, ysgafn a glân” oedd disgrifiad y beirniaid o’r seidr un math hwn. “Cydbwysedd perffaith gyda llawnder y ffrwyth a nodau mêl caramel/taffi deniadol yn cyd-fynd â gorffeniad hir heb syrffed.” Roedd hyd yn oed y beirniaid hynny nad ydyn nhw’n hoffi seidr wedi mwynhau’r blas llawn – “ddim yn rhy drwm nac yn rhy felys – gyda thannin yn ei angori yn hytrach nag asidrwydd.”
Busnes teuluol bach yw Apple County Cider, sy’n cael ei redeg gan y pâr priod Ben a Steph Culpin, yn cynhyrchu amrywiaeth o seidr a gellygwin premiwm un math a wneir gyda 100% sudd afal, gan gynnwys Dabinett, Vilberie a Brown Stout. Caiff yr afalau eu cynaeafu o’u perllannau a’u gwasgu ar eu fferm.
Mae Ben a Steph Culpin yn hynod o falch o’u llwyddiannau parhaus:
“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi ennill y wobr anhygoel hon a bod ein hymdrechion yn cael eu cydnabod yn y ffordd hon. Mae ennill gwobr y Fforc Aur o Gymru am yr ail flwyddyn yn olynol yn anghredadwy, ac yn benllanw i’n holl waith caled dros y blynyddoedd.
Mae’n deimlad gwych i wybod bod rhai o’r arbenigwyr mwyaf craff wedi blasu amrywiaeth enfawr o gynhyrchion yn ddall, ac wedi dewis rhoi canmoliaeth arbennig i’n cynnyrch ni.”
Wrth longyfarch Cwmni Apple County Cider ar y llwyddiant, roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Lesley Griffiths AC, yn teimlo bod hyn yn adlewyrchu cryfder y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru:
“Hoffwn longyfarch Apple County Cider yn gynnes ar eu llwyddiant diweddaraf yng ngwobrau Great Taste, dylen nhw fod yn falch iawn o’r hyn maen nhw’n ei gyflawni a hoffwn ddymuno’r gorau iddyn nhw wrth iddyn nhw symud ymlaen â’u busnes rhagorol.
“Mae’r diwydiant bwyd a diod yn rhan hanfodol o’r economi a gydag ymrwymiad a gwaith caled gallwn weld gwir botensial i gael cynnydd o 30% mewn trosiant erbyn 2020 a chyflawni ein targed uchelgeisiol.”
Dros y misoedd diwethaf, mae’r cwmni hefyd wedi sicrhau cytundeb dosbarthu gyda’r dosbarthwyr Buckley & Beale, a chael eu rhestru yn B Street Deli yn Bermondsey, Llundain, yn ogystal â denu sylw mewnforwyr yn Nenmarc a’r Iseldiroedd.
Roedd cyfanswm o 125 o gynhyrchion buddugol o bob rhan o Gymru yng ngwobrau Great Taste eleni, gyda 96 o geisiadau’n ennill un seren, 26 yn cael dwy seren a thri’n cael eu pennu’n deilwng o dair seren, sy’n profi bod enw da haeddiannol gan fwyd a diod ledled Cymru am ansawdd a blas.
Trefnir Great Taste gan y Guild of Fine Food, a dyma’r meincnod cydnabyddedig ar gyfer bwyd a diod o safon. Mae paneli gyda thros 400 o feirniaid arbenigol, gan gynnwys awduron bwyd sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig, yn profi’r cynhyrchion yn ddall. Dyfernir cymeradwyaeth i fwydydd a diodydd rhagorol sy’n amrywio o un seren ‘cwbl ddanteithiol’, i ddwy seren ‘eithriadol’ hyd at dair seren sy’n cynrychioli ‘wow – rhaid i chi flasu hwn!’