Bydd un o’r dirprwyaethau masnach mwyaf erioed o Gymru yn gadael y mis yma i fynychu un o arddangosfeydd bwyd a diod mwyaf y byd yn Dubai. Cynhelir Gulfood yng Nghanolfan Masnach Byd Dubai rhwng 26 Chwefror – 2 Mawrth 2017.
Bydd 25 cwmni o bob rhan o’r sector bwyd a diod yng Nghymru yn cymryd rhan o dan adain presenoldeb Cymru/Wales Llywodraeth Cymru.
Mae Gulfood yn un o’r sioeau bwyd, diod a lletygarwch pwysicaf yn y byd. Gan fod 5,000 o arddangoswyr yn cymryd rhan o fwy na 120 o wledydd, a thros 90,000 o brynwyr yn bresennol, mae’n un o’r sioeau bwyd a lletygarwch mwyaf yn y flwyddyn.
Bydd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths AC yn bresennol, ac meddai,
“Gwyddom oll fod ansawdd bwyd a diod o Gymru cystal â’r goreuon yn y byd, ond mae angen inni barhau i fod yn weladwy ac arddangos ein cynhyrchion blaengar mewn digwyddiadau masnach rhyngwladol allweddol. Mae Gulfood yn cynnig cyfle cyffrous ac unigryw i’n holl gwmnïau, yn fach a mawr, i gynyddu eu gweithgarwch allforio trwy gysylltu â phrynwyr o bedwar ban byd.
“Mae’n ddigwyddiad allweddol i’r sector ac rydym yn awyddus i gynorthwyo busnesau newydd a phrofiadol o Gymru i fynd iddo a llwyddo mewn digwyddiadau masnach fel Gulfood.”
Mae cyfleoedd yn yr UAE ar gyfer cwmnïau bwyd a diod o Gymru yn y rhan fwyaf o sectorau cynnyrch, ond yn arbennig felly gynhyrchion melysion, diodydd ysgafn gan gynnwys dŵr potel, cynhyrchion oer/llaeth a chynhyrchion groser.
Un cwmni sy’n gobeithio gwneud argraff yn Gulfood yw Meet the Alternative o’r Gogledd, sy’n cynhyrchu cynhyrchion rhew yn lle cig/dim cig o ansawdd.
Mae Alison Compitus, Rheolydd Allforion Meet the Alternative yn credu fod y digwyddiad masnach hwn yn gyfle gwych i archwilio marchnadoedd newydd a hyrwyddo eu cynhyrchion yn uniongyrchol i gynulleidfa fyd-eang.
“Rydym yn gyffrous iawn am fynd i Dubai ac am fynd i un o ddigwyddiadau bwyd mwyaf y byd. Bydd Gulfood yn rhoi cyfle heb ei ail inni gyflwyno ein cynhyrchion soia, dim cig, uchel eu protein i farchnad y Dwyrain Canol ac i gael cyswllt uniongyrchol â phrynwyr, dosbarthwyr a chyflenwyr. Y gobaith yw y down yn ôl i Gymru gyda digon o gysylltiadau a phrynwyr posib.”
Mae’r cwmni dŵr potel arobryn o’r Canolbarth, Tŷ Nant, yn frand adnabyddus ledled y byd, ac mae’r Cyfarwyddwr Gwerthiant, Steven Gatto, yn gwybod beth yw gwerth mynychu digwyddiadau masnach,
"Mae’r Dwyrain Canol yn farchnad bwysig i Tŷ Nant Spring Water Ltd ac mae Gulfood 2017 yn cynnig y llwyfan delfrydol i arddangos ein dewis o ddŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon.
Gan ein bod wedi arddangos yn Gulfood yn y gorffennol, rydym yn deall fod yr arddangosfa allweddol hon yn ein galluogi i gefnogi ein cwsmeriaid ffyddlon a dod o hyd i gyfleoedd newydd mewn marchnad gystadleuol."
Cynhelir Gulfood yng Nghanolfan Masnach Byd Dubai rhwng 26 Chwefror – 2 Mawrth 2017. Mae’r cwmnïau o Gymru fydd yn bresennol yn amrywio o ddŵr potel, cynnyrch llaeth a bara i gynhyrchion groser a chynhyrchion cig.
Ewch i stondinau Cymru/Wales S-N10 yn Sector Bwyd y Byd, stondinau B2-18 yn y sector Llaeth a stondinau Z6-B20 yn y sector Diodydd.