Wrth i uchafbwynt y calendr amaethyddol agor ei ddrysau’r wythnos hon, cyhoeddodd Bwyd a Diod Cymru ffigyrau yn dangos fod y digwyddiad yn parhau i fod yn lle hollbwysig i’r diwydiant er mwyn cyfarfod â manwerthwyr a chwblhau cytundebau allai fod yn rhai gwerthfawr iawn.

Mae ffigyrau a gyhoeddwyd heddiw, yn dilyn ymarferiad tracio dros gyfnod o ddeuddeg mis, yn dangos y gellir priodoli gwerthiannau gwerth £1.4 miliwn yn uniongyrchol i berthnasoedd busnes a ddatblygwyd o lolfa fusnes Bwyd a Diod Cymru yn ystod digwyddiad 2015.

A hwythau’n benderfynol o beidio llaesu dwylo, mae Bwyd a Diod Cymru yn bwriadu cynnig mwy o gyfleoedd eleni yn y Lolfa Fusnes i’r cwmnïau hynny sy’n awyddus i arddangos eu cynhyrchion i fanwerthwyr a phrynwyr masnach blaenllaw o bob rhan o wledydd Prydain.

Roedd Edwards o Gonwy yn un o’r busnesau a elwodd yn 2015:

“Mae Wythnos y Sioe Frenhinol wastad wedi bod yn lle gwych i gyfarfod cydweithwyr a chyfeillion. Ond diolch i’r gefnogaeth a gafwyd gan dîm Bwyd a Diod Cymru y llynedd llwyddwyd i sicrhau cytundeb pwysig oedd yn ein galluogi i ddatblygu ein busnes ymhellach a chynyddu gwerthiannau ein cynnyrch selsig a byrgyrs moethus. Y gobaith yw y gallwn adeiladu ar hynny eleni.”

Roedd y cwmnïau eraill a fanteisiodd ar gyfleoedd tebyg yn cynnwys Llaeth y Llan a Puffin Produce, a gafodd gytundebau gyda’r Co-op diolch i gyfarfodydd cychwynnol a drefnwyd gyda phrynwyr masnach.

Eleni gwelodd Bwyd a Diod Cymru y nifer fwyaf erioed o fusnesau bwyd yn awyddus i drin a thrafod gyda phrynwyr masnach yn ystod yr wythnos.

Wrth gyfeirio at y gwaith a gyflawnir yn lolfa fusnes y Neuadd Fwyd, dywedodd Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd Cabinet yr Amgylchedd a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru:

“Mae ein gwaith yn ystod Wythnos y Sioe Frenhinol yn chwarae rhan allweddol yn ein gwaith datblygu masnach ehangach. Mae’n ddigwyddiad allweddol sy’n denu prynwyr o bell ac agos, ac mae’n bwysig ein bod yn manteisio’n llawn ar gyfleoedd o’r fath. Mae’n gymorth, wrth reswm, pan fod gennym gynnyrch mor wych i’w arddangos.”