Bydd cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn troi eu golygon at farchnad allforio bwysig yr UDA y mis nesaf i chwilio am gyfleoedd allforio newydd a chystadleuol.

Fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i godi proffil busnes Cymru ar y llwyfan byd-eang, mae’n cefnogi pymtheg o gwmnïau bwyd a diod o Gymru ar ymweliad ag Efrog Newydd a New Jersey rhwng 17-20 Medi.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths AC:

“Mae gan ein gwlad enw da iawn am gynhyrchu bwyd a diod o ansawdd, ac rydym yn cydnabod y gwerth enfawr a gynigia i’n heconomi. Mae gennym uchelgais clir i dyfu’r diwydiant yng Nghymru 30% i £7 biliwn erbyn y flwyddyn 2020 trwy weithio mewn partneriaeth â’r diwydiant.

“Tyfodd allforion y sector dros y ddegawd ddiwethaf ac maent yn dal i dyfu. Rwyf wrth fy modd ein bod yn cefnogi’r grŵp hwn o gynhyrchwyr i fynd i’r UDA i archwilio marchnadoedd newydd drostynt eu hunain a datblygu rhagor o gysylltiadau gyda busnesau rhyngwladol.”

Mae’r cynhyrchwyr yn amrywio o gig, caws, gwymon a bara lawr i gwmnïau dŵr a bragu.

Yr UDA yw’r economi fwyaf, fwyaf cystadleuol a thechnolegol ddatblygedig yn y byd, ac fel marchnad allforio fwyaf Cymru ar draws pob sector, mae werth £2.7 biliwn i economi Cymru. Gan fod gwerthiannau bwydydd arbenigol yn yr UDA werth $110 biliwn, mae’r ymweliad hwn ag Efrog Newydd a New Jersey yn gyfle delfrydol i gynhyrchwyr o Gymru gael troedle yn y farchnad enfawr hon. Mae diffyg rhwystrau iaith a mynediad at gadwyni cyflenwi byd-eang, all arwain at allforion i farchnadoedd eraill, hefyd yn gwneud marchnad yr UDA yn ddeniadol iawn i allforwyr.

Mae’r UDA hefyd yn un o’r marchnadoedd mwyaf yn y byd ar gyfer cynhyrchion llaeth, cynhyrchion rhydd o a chynhyrchion cwrw crefft.

Mae Castle Dairies yn frand cynhyrchion llaeth adnabyddus o dde Cymru sy’n ceisio ail-ymuno â marchnad allforio’r UDA. Arferai’r cwmni cynhyrchu menyn, a sefydlwyd yn 1966, allforio i’r UDA yn yr 1990au a dechrau’r 2000oedd ac maent yn chwilio am gyfleoedd i adeiladu ymhellach ar eu busnes allforio.

Meddai Nigel Lloyd o Castle Dairies:

“Rydym yn croesawu’r gefnogaeth a roddwyd inni gan Lywodraeth Cymru i ehangu a dechrau allforio ein cynhyrchion i America. Mae’n garreg sarn berffaith i’n helpu i gael rhywfaint o brofiad yn y maes yma. Mae’n rhoi cyfle gwych inni gyfarfod â phrynwyr allweddol a chasglu cynghorion ar y ffordd er mwyn sefydlu contractau cadarn i roi hwb i hyder a gwerthiannau.”

Cyn yr ymweliad dywedodd Mark Roberts o Wrexham Lager:

“Gan y buom ar dri ymweliad datblygu masnach yn y gorffennol, gallaf ddweud, fel cwmni, ei fod yn gyfle amhrisiadwy i drefnu fod eich cynhyrchion yn cael eu blasu ac i gyfarfod â’r bobl iawn yn y wlad honno. Y gobaith yw dechrau gwerthu yn y farchnad allforio, a hyd yn oed os na ddaw archebion yn syth, y tebygrwydd yw y deuant yn y pendraw.”

Bydd John Rodger o’r cwmni mewnforio bwyd yn yr UDA Atalanta Corporation yn cyfarfod  â chynrychiolwyr wedi iddo gymryd rhan yn nigwyddiad diweddar BlasCymru a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru, a arddangosodd fwy nac 800 o gynhyrchion bwyd a diod o Gymru i brynwyr o bedwar ban byd.

Wrth gyfeirio at lwyddiant BlasCymru yn ogystal â’r ymweliad sydd ar fin digwydd dywedodd John Rodger:

“Bûm ar ymweliad masnach llwyddiannus iawn yng Nghymru ynghynt eleni yn y digwyddiad BlasCymru cyntaf erioed, lle y cefais gyfle i gyfarfod â nifer o gynhyrchwyr bwyd diddorol iawn a swyddogion masnach o Gymru. Rwyf yn edrych ymlaen at dalu’r ffafr yn ôl ym mis Medi, pan fyddwn ni yn Atalanta (cwmni mewnforio bwyd preifat mwyaf yr UDA) yn croesawu grŵp dethol yn cynhyrchu bwyd a masnach o Gymru. Rydym eisoes yn mewnforio rhai cynhyrchion gwych o Gymru a bydd hyn yn parhau ein deialog gyda chynhyrchwyr sy’n cynnig potensial da iawn.”

Yn ystod yr ymweliad pedwar diwrnod, caiff y cwmnïau gyfle i arddangos cynhyrchion i brynwyr, mewnforwyr a dosbarthwyr dethol o’r marchnadoedd manwerthu a gweini bwyd a datblygu busnes newydd trwy gyfres o weithdai ar gefndir y farchnad, ymweliadau â siopau a chyfleoedd cwrdd â’r prynwyr. Mae digwyddiad rhwydweithio i’r diwydiant yn dathlu bwyd a diod o Gymru hefyd yn cael ei drefnu, ar y cyd â swyddfa Gogledd America Llywodraeth Cymru, o’r enw ‘Blas o Gymru yn Efrog Newydd’ a bydd yn gyfle arall i arddangos cynhyrchion bwyd a diod o Gymru ym marchnad Gogledd America.  

Share this page

Print this page