Mae cyfle newydd ar gael i siopwyr Nadolig ledled Cymru wrth i Cywain lansio profiad digidol arloesol o siopa ar y stryd fawr.

Menter fanwerthu newydd yw Ffenestr Siop Cywain i ddarparu ffenestr siop ehangach i gynhyrchwyr bwyd a diod Cymru, a chyfle I gwsmeriaid gael mynediad hawdd at ddewis gwych o gynhyrchion, cyn tymor yr Ŵyl.

Gyda safleoedd masnachol mewn pump o leoliadau siopa proffil uchel, mae prosiect Ffenestr Siop Cywain yn cynnwys ffenestri wedi'u llenwi â chynhyrchion bwyd a diod lleol – pob un yn dangos cod QR.

Yn hytrach na mynd i mewn i'r siop i brynu, gall y cyhoedd bori drwy'r ffenestr, a thrwy anelu eu camera ffôn clyfar at god QR cynnyrch penodol, byddant yn cael eu cyfeirio at wefan y cynhyrchydd.

Datblygwyd y siopau gan Cywain, prosiect Menter a Busnes sy'n cefnogi datblygiad busnesau sy'n canolbwyntio ar dwf yn y sector bwyd a diod yng Nghymru.

Mae Ffenestri Siop Cywain wedi dechrau gweithredu o amgylch Cymru, yn y lleoliadau canlynol: Caerdydd (Canolfan Siopa St David’s Dewi Sant), Caerfyrddin (Rhodfa Santes Catrin), Aberystwyth (Ffordd y Môr), Caernarfon (Ffordd Bangor), a Llandudno (Canolfan Siopa).

Mae menter Ffenestr Siop Cywain yn dilyn llwyddiant Deli Myrddin. Yn ystod y prosiect hwn sefydlodd Cywain siop yng Nghaerfyrddin yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig yn 2019, lle rhoddwyd cyfle gwerthfawr i gynhyrchwyr bwyd a diod lleol ddod i gysylltiad â’r cyhoedd.

Meddai Rolant Tomos, Arweinydd Tîm Arloesedd a Mynediad i Farchnadoedd Newydd Cywain, "Cawsom ymateb gwych i Deli Myrddin, felly i ddechrau, y bwriad oedd efelychu'r prosiect mewn mwy o leoliadau yng Nghymru. Fodd bynnag, oherwydd Covid-19 rydym wedi gorfod addasu ein model manwerthu. Felly, datblygwyd y syniad o greu ffenestri siop go iawn ond gan ddefnyddio technoleg i brynu nwyddau.

Rydym yn gyffrous iawn o fod yn lansio prosiect Ffenestr Siop Cywain. Mae'n syniad newydd iawn ac yn cynnig cyfle i siopwyr siopa ar y stryd fawr a gweld anrheg drostynt eu hunain cyn ei brynu ar-lein. Mae'r fenter fanwerthu hon yn dwyn ynghyd y gorau o'r ddau fyd, a hoffem ddiolch i'n holl sefydliadau partner sydd wedi ein helpu i greu Ffenestri Siop Cywain mewn lleoliadau penodol ledled Cymru."

Mae Ffenestr Siop Cywain yn ategu gwaith Cywain sy'n helpu busnesau bwyd a diod Cymru i gael mynediad i farchnadoedd newydd, ac yn annog y cyhoedd i gefnogi cynhyrchwyr lleol yn y cyfnod anodd hwn.

Yn gynharach eleni, lansiodd Cywain ei ymgyrch #CefnogiLleolCefnogiCymru. Mae'n cynnwys map (cywain.cymru), yn nodi cynhyrchwyr bwyd a diod ledled Cymru sy'n cynnig gwasanaethau siopa a dosbarthu ar-lein.

 Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, "Mae'r cyfnod yn arwain at y Nadolig yn wahanol eleni, ond mae ffyrdd y gall pobl gael gafael ar ddewis eang o fwyd a diod o Gymru yn hawdd.

"Mae Ffenestr Siop Cywain yn ychwanegiad arloesol i'r gwaith parhaus arbennig i wneud pobl yn ymwybodol o ba mor hawdd yw cael gafael ar fwyd a diod lleol gwych. Mae wedi bod yn flwyddyn hynod o anodd i gynhyrchwyr, ac rwy'n siŵr y bydd Ffenestr Siop Cywain yn rhoi hwb y mae mawr ei angen iddynt wrth i ni nesáu at gyfnod yr Ŵyl.”

 

 

Share this page

Print this page