Cafodd talentau busnesau prosesu a gweithgynhyrchu bwyd a diod Cymru eu cydnabod yn ddiweddar (nos Iau 24 Chwefror) yng ngwobrau Lantra Cymru 2021.

Mae gwobrau Lantra Cymru yn cydnabod mentrau, sgiliau a brwdfrydedd unigolion sy’n dilyn gyrfaoedd yn sectorau’r amgylchedd, diwydiannau’r tir a gweithgynhyrchu bwyd.

Dyma'r tro cyntaf i raglen Sgiliau Bwyd Cymru gael categori yng Ngwobrau Lantra Cymru. Mae’n gydnabyddiaeth o’r busnesau gweithgynhyrchu a phrosesu bwyd a diod sydd wedi ymgymryd â hyfforddiant drwy’r prosiect dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gan fuddsoddi yn eu gweithwyr ac uwchsgilio unigolion mewn amrywiaeth eang o gyrsiau hyfforddi.

Roedd gwobrau Sgiliau Bwyd Cymru yn cynnwys 3 chategori Busnesau Mawr; BBaCh (busnesau bach a chanolig) a Microfusnesau.

Aeth y wobr yn y categori Busnesau Mawr i Glanbia Cheese Ltd yn Llangefni. Wrth sôn am ennill y wobr hon, dywedodd Tracey Wright, Swyddog Hyfforddiant yn Glanbia Cheese,

“Mae’n wych cael cydnabyddiaeth am yr holl waith caled. Rydym ni wedi gweithio gyda Lantra ers tair blynedd bellach, maen nhw wedi ein cefnogi drwy’r broses, gan chwilio am ddarparwyr hyfforddiant addas. Felly rydym ni wedi elwa’n aruthrol o’r rhaglen yn hynny o beth.”

Enillydd y categori BBaCh oedd Radnor Hills Mineral Water Company Ltd yn Nhrefyclo. Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr, William Watkins,

“Mae ennill y wobr hon yn wych i ni fel busnes. Rydym ni wedi ymrwymo i hyfforddi ein staff ac mae hyn yn gydnabyddiaeth o hynny.”

Ac yn fuddugol yn y categori Microfusnes roedd In The Welsh Wind Distillery, yn Nhanygroes, Ceredigion. Dywedodd Sally Sellwood o In The Welsh Wind Distillery,

“Mae ennill y wobr hon yn wirioneddol gyffrous i ni. Rydym ni wir yn ymroi i hyfforddi ein staff. Teimlwn nad yw’r tîm ond mor gryf â phob unigolyn sydd ynddo ac mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair iawn.”

Ymhlith yr enwebeion eraill ar gyfer categorïau Sgiliau Bwyd Cymru roedd Randall Parker Foods, Burton’s Biscuits, Hufenfa De Arfon, Glamorgan Brewing, Bluestone Brewing a Castell Gwyn Ltd.

Cyflwynir rhaglen Sgiliau Bwyd Cymru gan Lantra ac mae’n cefnogi busnesau o bob maint yn y diwydiant prosesu a gweithgynhyrchu bwyd a diod yng Nghymru i sicrhau bod y sgiliau a’r hyfforddiant cywir gan weithwyr ar gyfer eu busnes a’r diwydiant ehangach yn ei gyfanrwydd.

Wrth sôn am lwyddiannau’r holl enillwyr a’r rhai a ddaeth yn ail, dywedodd Sarah Lewis, Rheolwr Prosiect Sgiliau Bwyd Cymru,

“Hoffwn longyfarch yr holl fusnesau a gafodd eu henwebu ar gyfer categorïau Sgiliau Bwyd Cymru yng ngwobrau Lantra Cymru. Mae’r gwobrau hyn yn amlygu llwyddiannau a chyfraniadau eithriadol y busnesau hyn sy’n gweithio yn niwydiannau gweithgynhyrchu bwyd, amgylchedd a diwydiannau’r tir Cymru yn ogystal â’r gyrfaoedd gwerth chweil niferus sydd ar gael yn y diwydiant.”

Dywedodd Lesley Griffiths AS, Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefnydd:

“Hoffwn longyfarch pob unigolyn a busnes sydd wedi cael eu cydnabod yng Ngwobrau Lantra Cymru. Mae pob un ohonynt yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i sectorau’r amgylchedd, diwydiannau’r tir a gweithgynhyrchu bwyd yma yng Nghymru

“Mae rhaglen Sgiliau Bwyd Cymru yn chwarae rôl hollbwysig drwy sicrhau y gall pobl a chwmniau gyrraedd at eu llawn botensial ac rwy’n falch fod categori iddo yn y gwobrau eleni.”

Mae cyllid ar gyfer hyfforddiant drwy Sgiliau Bwyd Cymru yn dal i fod ar gael tan ddiwedd mis Tachwedd 2022. Mae swm y cyllid sydd ar gael yn amrywio o 50% i 80%, yn dibynnu ar faint y busnes. I fod yn gymwys am gymorth, rhaid i’r busnes fod â safle cynhyrchu neu weithgynhyrchu yng Nghymru a gallu dangos elw clir ar fuddsoddiad yn dilyn yr hyfforddiant.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy gysylltu â Sgiliau Bwyd Cymru ar wales@lantra.co.uk neu ffonio 01982 552646.

Ariennir Sgiliau Bwyd Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Am wybodaeth bellach am yr enillwyr a’r rhai ddaeth yn ail ac i weld ffilmiau o’r cwmniau ewch i: https://www.foodskills.cymru/cy/ffilmiau-gwobrau-lantra-cymru-categoriau-sgiliau-bwyd-cymru/

Share this page

Print this page