Mae pum cwmni bwyd a diod o Gymru yn paratoi i fynychu Cynhadledd Sustainable Foods London yr wythnos hon (30-31 Mawrth) fel rhan o Glwstwr Cynaliadwyedd Bwyd a Diod Cymru, pob un yn awyddus i arddangos y gwaith sy'n cael ei wneud yng Nghymru i greu dyfodol cynaliadwy.
Fel rhan o weledigaeth strategol gyffredinol Llywodraeth Cymru ar fwyd a diod, lansiwyd y Clwstwr Cynaliadwyedd ym mis Ionawr 2020 i gefnogi a datblygu arferion busnes cynaliadwy ar draws diwydiant bwyd-amaeth Cymru.
Gan ddefnyddio dull helics triphlyg o lywodraeth, diwydiant a’r byd academaidd yn gweithio law yn llaw i fynd i’r afael â phroblemau cyffredin y diwydiant, mae’r Clwstwr Cynaliadwyedd wedi tyfu i 95 o gynhyrchwyr, ynghyd â chyrff y llywodraeth a 30 o sefydliadau academaidd. Y clwstwr yw’r canolbwynt canolog, yn darparu gwybodaeth i fusnesau, dod yn llygaid a chlustiau i’r diwydiant gan ddatblygu rhwydweithiau ac arbenigedd yn y diwydiant i helpu Cymru i ddod yn arweinydd byd ym maes cynaliadwyedd.
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, Sustainable Foods London yw’r digwyddiad cyntaf y mae’r Clwstwr Cynaliadwyedd wedi’i fynychu fel dirprwyaeth o gynhyrchwyr. Mae pob un o’r pum cwmni Cymreig sy’n mynychu eisoes yn B-Corp neu ar eu ffordd i gael eu hachredu gan B-Corp gyda chymorth y rhaglen Clwstwr Cynaliadwyedd.
Enghraifft wych o symud i B-Corp yw’r bragdy di-alcohol o Gymru, Drop Bear Beer Co. Mae’r bragdy wedi dod yn fragdy B-Corp cyntaf Cymru a’r DU yn ddiweddar. Wedi'i sefydlu yn 2019 gan Joelle Drummond a Sarah McNena yn Abertawe, mae’r bragdy wedi gosod cynaliadwyedd wrth galon ei waith ers ei sefydlu.
Dywedodd y cyd-sylfaenydd Joelle Drummond, “Rydyn ni’n hynod falch o fod yn fragdy B-Corp cyntaf Cymru. Ein cenhadaeth yw bragu’r cwrw crefft di-alcohol gorau a helpu i adeiladu byd gwell i’w yfed ynddo, felly fel y gallwch ddychmygu, mae ennill statws B-Corp yn hynod o bwysig i ni.
“Mae gan bob un ohonon ni gyfrifoldeb i weithredu a gwneud hynny nawr. Mae ein cwsmeriaid eisiau siopa’n fwy cynaliadwy ac rydyn ni eisiau gallu rhoi sicrwydd iddyn nhw ein bod yn gweithredu yn ogystal â siarad. Mae statws B-Corp yn helpu i ddilysu ein honiadau a meithrin ymddiriedaeth gyda defnyddwyr.”
Yn dilyn proses ardystio drylwyr, mae'r achrediad mawreddog yn dynodi bod busnes yn bodloni'r safonau uchaf wedi'u dilysu o ran perfformiad cymdeithasol ac amgylcheddol, tryloywder cyhoeddus ac atebolrwydd.
Mae’r dynodiad yn gwneud Drop Bear Beer yn ddegfed cwmni bwyd a diod B-Corp Cymru. Mae’n cyd-fynd yn berffaith â gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiant bwyd a diod a’r nod o greu un o’r cadwyni cyflenwi mwyaf cyfrifol yn amgylcheddol a chymdeithasol yn y byd.
Dywedodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Lesley Griffiths, “Rydyn ni wedi ymrwymo i helpu busnesau bwyd a diod Cymru i ganolbwyntio ar dwf cynaliadwy a chynhyrchiant, eu heffaith hinsawdd ac ecolegol yn ogystal â gwaith teg a chodi safonau ar draws y diwydiant. Rydyn ni eisiau i Gymru fod yn un o’r cadwyni cyflenwi mwyaf cyfrifol yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol yn y byd yn ogystal â pharhau i fod ag enw byd-eang am ragoriaeth.”
Hefyd ar y stondin bydd The Welsh Saucery o Sir Benfro, cynhyrchwyr sawsiau a chymysgeddau sbeis, wedi’u gwneud gan ddefnyddio cynhwysion iachus a chadwolion naturiol. Mae'r cwmni’n eiddo i Steve a Kara Lewis sydd hefyd yn rhedeg Pembrokeshire Lamb.
Mae’r cwpl yn credu mewn meithrin gwerthoedd cynaliadwy i sicrhau lles anifeiliaid a chadwraeth y tir y maen nhw’n ei ddefnyddio, fel y dywed Steve Lewis, “Rydyn ni wedi ymrwymo i ffyrdd cynaliadwy o wneud busnes a dyna pam rydyn ni’n sicrhau bod popeth a wnawn yn amgylcheddol ac yn foesegol gywir. Trwy ofalu am ein hadnoddau naturiol rydyn ni’n rhoi’r maeth hanfodol i’n hanifeiliaid er mwyn sicrhau bod ein cynnyrch yn ffres ac yn cael ei ffermio’n gynaliadwy gan gadw arferion moesegol mewn golwg.”
Yn ogystal â Drop Bear Beer a The Welsh Saucery, bydd Still Wild Drinks, APRTF a Radnor Preserves hefyd yn mynychu’r digwyddiad ac yn arddangos eu brandiau ar stondin Clwstwr Cynaliadwyedd Cymru.
Mae Cynhadledd Sustainable Foods London, sydd bellach yn ei hail flwyddyn, yn dod â’r brandiau bwyd cynaliadwy mwyaf arloesol ac entrepreneuriaid ynghyd gyda buddsoddwyr, prynwyr ac ymgynghorwyr byd-eang o’r un anian.
Bydd Sustainable Food London yn cael ei gynnal ar 30-31 Mawrth yn y Business Design Centre, Islington, Llundain.
I gael rhagor o wybodaeth am Glwstwr Cynaliadwyedd Bwyd a Diod Cymru, cysylltwch â Mark Grant ar mark.grant@levercliff.co.uk.