Cynhaliodd y manwerthwr archfarchnad, Asda, ei gynhadledd gyntaf yn canolbwyntio ar fwyd a diod o Gymru a gwerth cynnyrch Cymreig.
Wedi'i threfnu ar y cyd rhwng Asda a Rhaglen Datblygu Masnach Llywodraeth Cymru, roedd y gynhadledd cyflenwyr yn cynnwys dros 40 o gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru – yn cynnwys cyflenwyr presennol Asda yn ogystal â darpar gyflenwyr.
Cafodd brandiau a chynhyrchwyr Cymreig enwog o bob maint eu harddangos ac fel rhan o'r digwyddiad, cawsant gyfle gwerth chweil i gwrdd â chynrychiolwyr Asda, gan gynnwys Prynwr Cymru, Pennaeth Prynu Lleol ac Is-Lywydd y Siopau.
Cynhaliwyd y gynhadledd yng Nghastell Hensol ym Mro Morgannwg, lle cafodd y cyflenwyr gyflwyniadau yn trafod amrywiaeth o weithgareddau busnes Asda, yn cynnwys strategaeth, cynllunio masnachol, gwobrau a theyrngarwch, man gwerthu, a marchnata.
Meddai Gruffudd Roberts, Prynwr Lleol Asda ar gyfer Cymru, "Mae cefnogi cyflenwyr lleol yng Nghymru wedi bod yn flaenoriaeth i Asda ers i ni agor ein siopau yma bron i hanner can mlynedd yn ôl. Mae gwerthu cynhyrchion lleol yn angenrheidiol i'n busnes – oherwydd bod ein cwsmeriaid yn dweud wrthym eu bod eisiau gweld amrywiaeth o gynhyrchion Cymreig o ansawdd yn ein siopau lleol.
"Mae cynnyrch lleol yn bwysig i ni. Mae'n rhan annatod o'n busnes ac yn cefnogi'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu, ac rydym wrth ein bodd o gael dros 40 o gyflenwyr o Gymru yn siopau Asda ledled y wlad."
Cafwyd cyflwyniadau hefyd yn trafod data diweddaraf y farchnad ac ymchwil 'Gwerth Cymreictod' Rhaglen Mewnwelediad Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru - a ddangosodd y byddai'n well gan 80 y cant o siopwyr Cymru brynu cynnyrch o Gymru.
Cododd y syniad o gynnal cynhadledd gyflenwyr yn ystod Lolfa Fusnes Bwyd a Diod Cymru yn Sioe Frenhinol Cymru fis Gorffennaf, yr oedd Asda yn rhan ohoni.
Dywedodd Jason Ellis, o Ellis Eggs Ltd yn Hirwaun, a fynychodd y gynhadledd, "Mae'r gynhadledd wedi fy ngalluogi i ddiweddaru fy musnes i gyd-fynd â chyfeiriad Asda, sy'n ein caniatáu ni i ganolbwyntio ar ein gwaith cynllunio ar gyfer y dyfodol wrth weithio i'r un cyfeiriad ag Asda."
Un arall a oedd yn bresennol yn y gynhadledd oedd Simon James o Edwards o Gonwy. Dywedodd fod y busnes cigyddiaeth sydd wedi'i leoli yng ngogledd Cymru wedi "Magu hyder newydd bod Asda yn cydnabod gwerth cynhyrchion lleol ar lefel y bwrdd a byddant nawr yn canolbwyntio eu ffocws ar ymestyn yr ystod cynnyrch a mynd i'r afael â'r prif faterion mae cyflenwyr lleol yn eu hwynebu, yn ogystal â datgloi'r lefel unigryw o ffocws y gall cyflenwyr o Gymru ei chynnig yn y siopau."
Fel rhan o'r gynhadledd, cafwyd sesiwn 'Cwrdd â'r Prynwr' ar gyfer chwe chyflenwr newydd posibl i gyflwyno eu cynhyrchion i Asda. Ar yr un pryd, roedd arddangosfa bwyd a diod o Gymru yn pwysleisio'r ystod eang o gynhyrchion Cymreig, ynghyd â'r cynhyrchion sy'n newydd i Asda – yn cynnwys cwrw, jin, bara, teisenni, a chig – a fydd i'w cael yn y siopau cyn bo hir.
Dywedodd Gruffudd Roberts, "Rydym yn ymestyn ein hymrwymiad drwy gyhoeddi y byddwn yn cyflwyno 37 o gynhyrchion newydd o Gymru, gan gyflenwyr Cymreig hen a newydd erbyn diwedd y flwyddyn. Rydym yn edrych ymlaen at weld y rhain yn cyrraedd y silffoedd dros yr wythnosau nesaf."
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: "Mae cyfleoedd i gyflenwyr a manwerthwyr gwrdd a thrafod y farchnad mewn digwyddiad pwrpasol, fel y gynhadledd hon, yn bwysig.
"Gwych yw gweld Asda a'r Rhaglen Datblygu Masnach yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni'r digwyddiad hwn.
"Fel y dangoswyd gan yr ymchwil 'Gwerth Cymreictod', mae cefnogaeth gref gan brynwyr tuag at fwyd a diod o Gymru. Drwy gydweithio, gall manwerthwyr a chyflenwyr wneud y mwyaf o'r galw hwn i gryfhau eto enw da Cymru fel cynhyrchwr bwyd a diod arloesol ac o ansawdd."