Mae Hybu Cig Cymru (HCC), Llywodraeth Cymru a holl gyflenwyr Cig Oen Cymru PGI ar fin cydweithio i lansio ymgyrch fawr i fanteisio ar allforion i America.
Cafodd y cyfyngiadau ar fewnforio cig oen o’r DU i UDA eu codi o’r diwedd y llynedd, ac mae proseswyr o Gymru wedi bod yn arwain y ffordd o ran cael yr archwiliadau a’r ardystiad angenrheidiol er mwyn dechrau allforio.
Bydd y rhaglen hyrwyddo gychwynnol yn dechrau gyda phresenoldeb yn 'uwchgynhadledd' diwydiant cig America – y Gynhadledd Gig Flynyddol (AMC) – a gynhelir eleni yn Dallas, Texas ar 6-8 Mawrth, lle bwriedir cyfarfod â mewnforwyr a dosbarthwyr.
Bydd Cig Oen Cymru yn ymddangos mewn sioe fasnach a gynhelir ochr yn ochr â'r digwyddiad AMC, a bydd cynrychiolwyr HCC a'r proseswyr yn manteisio hefyd ar y cyfle i ymweld â mân-werthwyr blaenllaw UDA er mwyn ymchwilio ymhellach i’r farchnad bosibl.
Caiff gwefan newydd ei lansio i roi’r holl wybodaeth sydd ei hangen ar ddarpar gwsmeriaid i ddod o hyd i Gig Oen Cymru, a’i werthoedd brand allweddol, sef ansawdd, olrheinedd a chynaliadwyedd amgylcheddol.
Bydd Laura Pickup, Pennaeth Marchnata Strategol HCC, yn rhan o ddirprwyaeth yr AMC yn Texas. Dywedodd:
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fod yn nigwyddiad blynyddol gorau’r sector cig Americanaidd, ochr yn ochr â’n cwmnïau prosesu blaenllaw o Gymru. Rydym wrth ein bodd yn cael y cyfle hwn i gwrdd â mewnforwyr, mân-werthwyr a dosbarthwyr y gwasanaeth bwyd.
“Mae ein hymchwil marchnata blaenorol wedi dangos y gallai marchnad yr Unol Daleithiau fod yn werth miliynau o bunnoedd i ffermwyr Cymru a’r diwydiant cig coch ehangach. Mae ein gwaith yng Nghanada yn y gorffennol hefyd wedi ein helpu i ddatblygu cysylltiadau â mewnforwyr ac i wneud pobl yng Ngogledd America yn fwy ymwybodol o frand Cig Oen Cymru.
“Rydym felly’n benderfynol o baratoi rhaglen hyrwyddo flaengar – gan ddatblygu’r cysylltiadau allweddol, a lansio adnodd gwybodaeth ar-lein.”
Mae ymgyrch hyrwyddo HCC ym marchnad yr Unol Daleithiau wedi derbyn cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Mae’n wych gweld hyn yn digwydd yn yr Unol Daleithiau. Mae yna gyfleoedd cyffrous i Gig Oen Cymru ym marchnad yr Unol Daleithiau, yn dilyn codi’r cyfyngiadau, ac mae hyn yn newyddion da i’n ffermwyr a’n cynhyrchwyr. Rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi hyn a dymunaf bob llwyddiant i’r digwyddiad.”