Bydd Cymru’n cael ei chynrychioli’r mis hwn gan grŵp mawr o gynhyrchwyr bwyd a diod yn un o ddigwyddiadau masnach pwysicaf y DU, y Farm Shop & Deli Show 2023 (Ebrill 24-26).
I'w gynnal yn yr NEC yn Birmingham, y Farm Shop & Deli Show yw prif ddigwyddiad y DU ar gyfer y sector manwerthu arbenigol. Y Farm Shop & Deli Show yw’r lle i arddangos y cynnyrch a’r gwasanaethau diweddaraf a’r lleoliad ar gyfer y Farm Shop & Deli Awards cystadleuol tu hwnt.
Mae’r grŵp o 31 o gwmnïau Cymreig yn cynnwys cynhyrchwyr bwyd a diod o bob maint – o gwmnïau sefydledig i fentrau ifanc sy’n tyfu – a byddant yn arddangos dan nawdd Clwstwr Bwyd Da Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru a Cywain.
Bydd llawer o gynhyrchwyr yn manteisio ar y cyfle i amlygu cynhyrchion newydd i gynulleidfa sy'n awyddus i weld y datblygiadau coginio diweddaraf. Ymhlith y cynhyrchion newydd fydd yn cael eu harddangos bydd fodca, sawsiau, cyffeithiau, medd, cyffug figan, a kombucha.
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: “Mae’r Farm Shop & Deli Show yn ddigwyddiad pwysig i ddiwydiant bwyd a diod Cymru.
“Unwaith eto, bydd Cymru’n cael ei chynrychioli gan gwmnïau sy’n arddangos eu cynnyrch o ansawdd uchel, ac rwy’n siŵr y bydd y casgliad a’r amrywiaeth o fwyd a diod Cymreig sy’n cael eu harddangos yn denu diddordeb gan brynwyr sy’n chwilio am ragoriaeth a gwreiddioldeb.
“Hoffwn ddymuno digwyddiad llwyddiannus i bob un o’r cynhyrchwyr o Gymru sy’n mynychu.”
Mae Clwstwr Bwyd Da Bwyd a Diod Cymru yn rhoi llwyfan i fusnesau bwyd a diod uchelgeisiol o Gymru gydweithio.
Yn ogystal â chydweithio cyn ac yn ystod y sioe, bydd aelodau’r Clwstwr sy’n arddangos yn Farm Shop & Deli yn parhau i gydweithio ar ôl y digwyddiad i ddatblygu eu gwerthiant ar draws y DU.
Mae’r Clwstwr yn cael ei hwyluso gan Cywain, prosiect sy’n gweithio gyda chynhyrchwyr bwyd a diod ledled Cymru, gan eu helpu i dyfu a datblygu eu busnesau gyda chefnogaeth mewn amrywiol feysydd, gan gynnwys prawf-fasnachu, marchnata, datblygu brand, a chyllid.
Bydd pedwar cynhyrchydd ‘micro’ yn cael eu hamlygu’n ddyddiol ar stondin Cywain (L270), lle bydd y cynnyrch yn amrywio o goffi, gwirodydd, bwydydd wedi’u heplesu a Ham Caerfyrddin, sydd â Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI), i siocledi print, brownis, patisserie, cyffeithiau a phasta arbennig.
Mae’r 19 cwmni o’r Clwstwr Bwyd Da i’w gweld ar stondinau M270, N270 a P270, ac ymhlith y cynhyrchion dan sylw bydd cawsiau, cynhyrchion becws, wafflau, coffi, te un ystad, sawsiau, bwydydd y byd, mêl, cyffeithiau, taeniadau, cynfennau, olew hadau rêp, cyffeithiau, cyffug, siocled, gwirodydd, medd a chwrw.
Dywedodd Ynyr Roberts, Arweinydd Tîm Marchnata a Digwyddiadau Cywain, “Gyda mwy na 30 o aelodau’r Clwstwr Bwyd Da a chynhyrchwyr Cywain yn mynychu Farm Shop & Deli, bydd gan Gymru bresenoldeb cryf yn un o ddigwyddiadau masnach pwysicaf y calendr bwyd a diod.
“Mae’n hanfodol bod cynhyrchwyr o Gymru yn cael mynediad i ddigwyddiadau fel y Farm Shop & Deli lle gallant nid yn unig hyrwyddo eu cynnyrch ond atgyfnerthu enw da Cymru am fwyd a diod arloesol o safon.”
Hefyd, yn union gerllaw y Farm Shop & Deli Show mae ei chwaer ddigwyddiad, y Food & Drink Expo 2023, lle bydd Llywodraeth Cymru (sef stondinauP250 a P260) yn cynnal naw o gwmnïau mwy o faint Cymru a brandiau adnabyddus sy’n cynhyrchu nwyddau fel caws, siytni, hufen iâ, pwdinau, diodydd di-alcohol, diodydd alcoholig, halen môr, dŵr potel, siocled, bisgedi, bacwn, gamwn, peli cig, selsig, chipolatas, a byrgyrs.