Mae rhai o gwmnïau bwyd a diod gorau Cymru yn paratoi i fynychu Food & Drink Expo yn NEC Birmingham yn ddiweddarach y mis hwn.
Mae Food & Drink Expo yn helpu cwmnïau i ddod o hyd i lwybr i farchnad bwyd a diod y DU, gyda channoedd o gwmnïau’n arddangos eu cynnyrch eithriadol. Bydd dros 25,000 o ymwelwyr a 1,500 o arddangoswyr yn mynychu’r digwyddiad tridiau o hyd a gynhelir rhwng 24 a 26 Ebrill 2023.
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, bydd naw cwmni’n rhan o Bafiliwn Cymru/Wales, pob un yn gobeithio arddangos eu cynnyrch blasus a gwreiddio lle Cymru yn gadarn ar y map bwyd.
Mae pob cwmni bwyd a diod o Gymru sy’n arddangos dan frand Cymru/Wales yn cael cymorth gan Lywodraeth Cymru
Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths:
“Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn galluogi cynhyrchwyr i fynychu digwyddiadau fel Food & Drink Expo ac yn rhoi cyfle gwych iddynt ryngweithio’n uniongyrchol â phrynwyr a dosbarthwyr, gan arddangos y gorau o Gymru.
“Drwy weledigaeth ac ymdrech hirdymor dros y degawd diwethaf rydyn ni wedi cyflawni twf sylweddol, proffil cynyddol yn y diwydiant, ac ysbryd tîm cryf yn seiliedig ar bartneriaeth. Mae hyn wedi rhoi sylfaen gadarn i ni adeiladu ar gyfer y dyfodol.”
Ymhlith y cynhyrchwyr Cymreig sy’n arddangos bydd Cradoc’s Savory Biscuit’s Ltd, Halen Môn, Snowdonia Cheese, Shepherd’s Biscuits Ltd, Mario’s Ice Cream, Prince’s Gate, Mydflower Ltd, Edwards a Coco Pzazz.
Bydd Shepherd’s Welsh Biscuits yn cyflwyno eu brand newydd Hestia James o becyn deuol o Fara Byr Traddodiadol a Bara Byr Siocled.
Dywedodd James Shepherd, Cyfarwyddwr Shepherd’s Welsh Biscuits,
“Rydyn ni’n mynd â’n detholiad o fisgedi moethus wedi’u gwneud â llaw i’r sioe gyda’r nod o gynyddu gwerthiant ein cynnyrch manwerthu a gwasanaeth bwyd ym marchnad y DU. Byddwn hefyd yn defnyddio’r sioe i arddangos ein brand newydd o becynnau deuol Hestia James, sy’n ddewis arall moethus ar gyfer y farchnad gwestai a siopau coffi.”
Wrth sôn am fod yn rhan o arddangosfa Bwyd a Diod Cymru, dywedodd y cyd-sylfaenydd David Ruttle o Mydflowers, Bannau Brycheiniog,
“Dyma ein hail dro yn Expo Bwyd a Diod. Rydyn ni’n gobeithio cwrdd â llawer o brynwyr - mawr a bach, i arddangos ein cynnyrch gwych. Mae’n wych cwrdd â phobl yn uniongyrchol ac yn bersonol, ac felly cael adborth ar unwaith a deall yr hyn sy’n bwysig i wahanol fathau o fusnesau. Rydyn ni hefyd yn gobeithio cwrdd â mwy o fusnesau Cymreig o’r un anian a chreu cysylltiadau cryfach a dod o hyd i gydweithrediadau posibl.”
Sefydlwyd Mydflower yn ystod cyfnod clo 2020 gan ddau ffrind David a Michael, wedi'u huno gan angerdd dros natur, haf, mythau a diod oer i olchi'r cyfan i lawr. Maen nhw'n cynhyrchu gwin Blodau Ysgaw, sy'n naturiol befriog (5.3%) mewn can. Mae wedi'i wneud â blodau ysgawen gwyllt, dŵr ffynnon mynydd Cymreig, a lemon ffres ym Mannau Brycheiniog, ac wedi'i feithrin â llaw mewn sypiau bach.
Cwmni arall sy’n arddangos yw Mario’s Ice Cream a fydd yn arddangos eu hufen iâ llaeth, hufen iâ di-laeth a phwdinau hufen iâ.
Dywedodd Mario Dalavalle, Rheolwr Gyfarwyddwr Mario’s Luxury Ice Cream, “Trwy fynychu Food & Drink Expo rydyn ni’n gobeithio gallu dangos mai ni yw’r cwmni hufen iâ gorau yng Nghymru a dim ond cynhwysion o’r ansawdd gorau rydyn ni’n eu defnyddio. Hoffen ni godi ymwybyddiaeth o’n brand yn ogystal â denu busnes newydd o bob rhan o’r DU a gobeithio y bydd y digwyddiad hwn yn ein helpu i gyflawni hyn.”
Bydd Food & Drink Expo yn rhedeg ochr yn ochr â Farm Shop & Deli Show, National Convenience Show a Foodex Manufacturing Solutions fel rhan o Sioeau Bwyd a Diod y DU, gan ddod â’r sectorau groser, manwerthu arbenigol, cyfanwerthu a gwasanaethau bwyd ynghyd o dan yr un to! Yn 2023 mae dau barth gwahanol newydd: Healthy & Natural a Low2NoBev. Mae'r parthau newydd hyn wedi'u neilltuo i arddangos arloesedd a datblygu cynhyrchion newydd ar draws amrywiaeth o dueddiadau allweddol sy'n effeithio ar y diwydiant.
Bydd nifer o gwmnïau Cymreig gan gynnwys y Clwstwr Bwyd Da yn ymddangos fel rhan o ddirprwyaeth Cymru yn y Farm Shop & Deli Show.
Ewch draw i Bafiliwn Cymru P250 a P260 yn Food & Drink Expo a’r arddangosfa Clwstwr Bwyd Da yn y Farm Shop & Deli Show – stondinau rhif P270, N270, M270, K271 a stondin Cywain Micro K271 rhwng 24 a 26 Ebrill 2023 am ddetholiad o gynhyrchion bwyd a diod arloesol.