Mae detholiad o gwmnïau bwyd a diod o Gymru yn mynd i Efrog Newydd i fynychu’r Summer Fancy Food Show 2023 a gynhelir gan y Speciality Food Association yn ddiweddarach y mis hwn.
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, bydd cynrychiolwyr o’r cwmnïau yn mynychu’r digwyddiad masnach bwyd arbenigol mwyaf yn America rhwng 25 a 27 Mehefin 2023.
Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i Lywodraeth Cymru fynd â dirprwyaeth i’r digwyddiad, sy’n un o’r enghreifftiau mwyaf blaenllaw o arloesi yn y diwydiant, gan ddod â phrif gynhyrchwyr, prynwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant bwyd arbenigol ynghyd o dan yr un to.
Yn chwifio baner Cymru yn y digwyddiad eleni mae The Billington Group, Tŷ Nant, Welsh Lady Preserves, Morning Foods a Hilltop Honey.
Dywedodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths: “Rydym i gyd yn gwybod bod ansawdd bwyd a diod Cymreig gyda’r gorau yn y byd ac mae angen i ni sicrhau ei fod yn cael ei gydnabod yn iawn.
“Rydym yn falch o gefnogi ein cynhyrchwyr bwyd a diod yn y digwyddiad byd-eang pwysig hwn, gan ailddatgan ein hymrwymiad i godi ein proffil rhyngwladol a chefnogi ein busnesau. Rydym yn gweld yr Unol Daleithiau fel un o’n marchnadoedd allforio allweddol ac rydym yn gweithio’n galed i godi proffil ein cynhyrchwyr a thyfu’r diwydiant.”
Mae Welsh Lady Preserves yn gobeithio datblygu cysylltiadau presennol â marchnad yr Unol Daleithiau a bydd yn arddangos cynnyrch newydd. Wrth wneud sylw cyn yr ymweliad dywedodd y perchennog Carol Jones:
“Rwy’n edrych ymlaen at fynd i Efrog Newydd i arddangos yr hyn sydd gennym i’w gynnig yn Welsh Lady. Yn ddiweddar, rydw i wedi derbyn sawl ymholiad gan UDA felly mae hwn yn gyfle da i gyflwyno ein cynnyrch, ac i geisio sefydlu perthynas â chwsmeriaid newydd, ond yn bennaf i gysylltu â dosbarthwr.
“Byddwn yn arddangos ein detholiad o gynnyrch mewn poteli – yn bennaf y Saws Coch a’r Saws Brown, ein ceuled lemwn wrth gwrs, sydd bob amser yn boblogaidd, a hefyd cynnyrch newydd sef ein “Pumpkin Pie Curd”.
“Mae mynychu sioe fel hon yn heriol, gyda llawer o baratoi. Rydym yn ffodus iawn yma yng Nghymru i gael cefnogaeth Llywodraeth Cymru, ac rwy’n ddiolchgar iawn bod hynny ar gael.”
Yn bresennol hefyd bydd Hilltop Honey, sydd wedi ennill gwobrau, a fydd yn arddangos eu cynnyrch newydd diweddaraf gyda'u detholiad llawn o fêl Manuka, a gafodd ei lansio i'r cawr manwerthu Tesco ym mis Chwefror eleni.
Dywedodd Jack Davies, Rheolwr Gwerthiant Allforio: “Rydym yn llawn cyffro am fynychu’r Summer Fancy Food Show 2023 i dyfu ein presenoldeb ym marchnad yr Unol Daleithiau. Rydym yn ymwybodol iawn o’r potensial sydd gan farchnad yr Unol Daleithiau i’w gynnig ac yn edrych ymlaen at ymgysylltu â darpar gwsmeriaid, dosbarthwyr ac asiantau i roi hwb i symudiad Hilltop i’r farchnad newydd hon. Rydym yn awyddus i weithio gyda phartneriaid newydd posibl yn y farchnad a thrwy fynychu’r Summer Fancy Food Show 2023, byddwn yn gallu cwrdd â’r cwsmeriaid newydd hyn wyneb yn wyneb a gwneud perthnasoedd parhaol wedi hynny.
“Mae Hilltop wedi parhau i dyfu o nerth i nerth yn hanner cyntaf 2023 ac rydym yn awyddus i gynnig ein harbenigedd mewn mêl, surop masarn, agafe a surop carob trwy gyfleoedd label ein hunain yn ogystal â thrwy ein brand Hilltop. Mae lansiad ein Mêl Manuka Hilltop cryf newydd yn gynnyrch rydym yn awyddus i’w gynnig i UDA ynghyd â’n mêl arbenigol sy’n dod o bob rhan o Ewrop.”
Hefyd yn mynychu’r sioe bydd Iain Lavelle, Pennaeth Marchnata Morning Foods. Mae'n dweud,
“Byddwn yn arddangos ein detholiad Mighty Oats sydd newydd ei ail-leoli, sy’n dangos ein hymrwymiad i gynhyrchu uwd o geirch sydd 100% o Brydain, wedi’u malu’n garbon niwtral gan ddefnyddio pŵer a gynhyrchir gan ein tyrbin gwynt a’n fferm solar ein hunain. Byddwn hefyd yn cynnwys rhai o'n harwyr o'n detholiad Barod i Fwyta gan gynnwys ein Granolas premiwm a Miwsli a Haenau Bran Ceirch; ac o fan geni’r Sgwâr Siocled mae ein Pixels newydd eu lansio, lefel arall o rawnfwyd siocled!
“Hoffem gwrdd â busnesau sy'n chwilio am rywbeth arbennig. Mae ein busnes yn dyddio’n ôl i 1675, a bellach yn ei 15fed cenhedlaeth o berchnogaeth, sy’n ein gwneud yn unigryw o ran arbenigedd a threftadaeth, sy’n golygu bod ein grawnfwydydd yn sicr ymhlith y gorau yn y byd.”
Mae Summer Fancy Food yn ddigwyddiad tridiau o hyd sy’n rhoi cyfle i fusnesau bwyd a diod ddarganfod y tueddiadau diweddaraf a’r cynnyrch gorau, gwneud cysylltiadau busnes allweddol a rhwydweithio gyda phrynwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant. Bydd y digwyddiad yn cynnwys mwy na 180,000 o gynhyrchion, 25,000 o brynwyr a 2,500 o arddangoswyr.