Wisgi Brag Sengl Cymreig (PGI)
Fel y gwirod Cymreig a Phrydeinig cyntaf i gael statws GI (Dynodiad Daearyddol), mae ‘Wisgi Brag Sengl Cymreig’ yn cael ei gydnabod yn y wlad hon ac yn rhyngwladol fel cynnyrch o ansawdd unigryw.
Mae’r hylif euraid hwn yn creu ymdeimlad o le ac o darddiad, gyda phob cam o’r broses gynhyrchu’n digwydd yn gyfan gwbl yng Nghymru:
- Potsio/stwnsio (mashing) a Bragu
- Eplesu
- Distyllu
- Aeddfedu a
- Potelu
Rhaid wrth ddigonedd o ddŵr ar gyfer pob cam o’r broses o gynhyrchu wisgi ac mae Cymru’n enwog trwy’r byd am ansawdd ei dŵr ac wrth gwrs am fod gennym lawer ohono. Rhaid i’r holl ddŵr a ddefnyddir mewn ‘Wisgi Brag Cyntaf Cymreig’ ddod o Gymru.
Mae ‘Wisgi Brag Sengl Cymreig’ yn wisgi sydd wedi’i wneud yn llwyr o haidd brag o un ddistyllfa yng Nghymru sy’n cael ei wneud fesul batsh. Mae’n gallu cael ei ddistyllu mewn potiau sengl (gyda cholofn neu hebddo) neu mewn distyllbeiriau dwbl. Mae proses fel hon fel arfer yn cynhyrchu wisgi o deip ‘byd newydd’ sy’n ysgafnach na’r mathau mwy traddodiadol a thrymach. Yr ‘ysgafnder’ hwn sy’n ei wneud mor wahanol ac sydd wedi ennyn sylw marchnadoedd wisgi’r byd gan ennill iddo nifer o wobrau a bri beirniad dros y 15 mlynedd diwethaf.
Mae hinsawdd mwyn Cymru yn creu proses aeddfedu cytbwys i greu diod mwyn a llyfn ei blas sy’n amrywio yn ei lliw o aur ysgafn i ambr tywyll. Mae’r amrywiaeth yn y lliw yn ganlyniad hefyd i barodrwydd distyllwyr Cymru i arbrofi gyda’u pren i gynhyrchu wisgïau gwahanol.
Mae diwydiant wisgi Cymru wedi tyfu’n gyflym yn y blynyddoedd diwethaf (ers i ddistyllfa Penderyn adfer ac ail-lansio ‘Wisgi Brag Sengl Cymreig’ ar 1 Mawrth 2004) ac mae’r galw am ‘Wisgi Brag Sengl Cymreig’ wedi tyfu bob blwyddyn ers hynny. Mae ‘Wisgi Brag Sengl Cymreig’ yn gwneud cyfraniad pwysig at economi bwyd a diod Cymru ac y mae bellach yn un o allforion mwyaf dylanwadol Cymru, ac yn cael ei allforio i fwy na 45 o wledydd. Mae ‘Wisgi Brag Sengl Cymreig’ yn cyfuno’r treftadaeth cynhyrchu wisgi â dull blaengar o ddistyllu, gan gynnig amrywiaeth o flasau a mathau. Mae wisgi Cymreig yn bwysig hefyd i dwristiaeth gyda phob un o ddistyllfeydd Cymru ar agor i ymwelwyr.
Prif gyswllt: Stephen@penderyn.wales