Mae busnes hufen iâ a pizzeria ym Meddgelert wedi ennill gwobr Busnes Uwchsgilio’r Flwyddyn yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru eleni, a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Neuadd Brangwyn, Abertawe.

Mae’r gwobrau, a gynhelir yn flynyddol, yn rhoi llwyfan i gynhyrchwyr a chyflenwyr o Gymru ddathlu eu llwyddiannau mewn diwydiant amrywiol sy’n tyfu’n gyflym.

Yn fuddugol yng nghategori Busnes Uwchsgilio’r Flwyddyn roedd Glaslyn o Feddgelert, a oedd yn gofyn iddynt ddangos tystiolaeth o ddiwylliant a oedd yn gwerthfawrogi hyfforddiant a gwella sgiliau, ynghyd â chynhyrchiant ac effeithlonrwydd cynyddol, arloesedd a thwf cynaliadwy.

Wedi’i sefydlu gan Joan a Bert Rowley yn 1970, dechreuodd Glaslyn fel siop anrhegion a chaffi wrth droed Yr Wyddfa. Yn ddiweddarach datblygwyd y busnes yn barlwr hufen iâ a pizzeria gan eu mab Derek a'i wraig Elaine.

Ers 2018, mae merch Derek ac Elaine, Bonnie, wedi ymgymryd â’r busnes, sy’n dod o hyd i’w gynhwysion o’r ardal leol ac sydd bellach yn cyflogi wyth o bobl trwy gydol y flwyddyn a 28 aelod achlysurol arall o’r tîm. Mae Bonnie wedi cyflwyno ffyrdd newydd o weithio i'r busnes o fabwysiadu arferion cynaliadwy i hyfforddi staff.

O dan gyfarwyddyd Bonnie, mae rheolwyr a phenaethiaid adrannau wedi cwblhau cyrsiau Lefel 3 a Lefel 5 y Sefydliad Rheoli Arweinyddiaeth (ILM), ac mae Bonnie hefyd wedi cymryd rhan mewn cwrs rheoli Help to Grow.

Mae pawb sy'n trin bwyd yn cael hyfforddiant diogelwch bwyd achrededig, gydag eraill yn cwblhau cymhwyster y Sefydliad Marchnata Siartredig.

Dywedodd Bonnie Rowley, rheolwr gyfarwyddwr Glaslyn: “Fel busnes bach, mae’n wych cael eich cydnabod trwy wobr fel hon. Allwn ni ddim credu'r peth gan nad oedd yr un ohonon ni’n ei ddisgwyl.

“Ers i mi gymryd y busnes drosodd gan fy rhieni bum mlynedd yn ôl, rydyn ni wedi bod yn buddsoddi’n barhaus mewn sgiliau ar gyfer ein staff, gan ein bod yn gweld hyn fel allwedd i helpu gyda thwf.

“Er y bu angen newid diwylliant, mae wedi rhoi boddhad mawr i’r busnes. Trwy helpu staff gyda sgiliau newydd, fel datblygiad personol a hyfforddiant yn seiliedig ar sgiliau, mae wedi eu grymuso i ymgymryd â mwy o dasgau, rolau a chyfrifoldebau.

“Rwy’n angerddol dros ddysgu ac addysg, ac rwy’n hoffi gweld pobl yn cyflawni eu potensial. Mae uwchsgilio dros y blynyddoedd yn bendant wedi gwella perfformiad y busnes, gyda staff yn dod yn fwy hyderus, ac mae wedi ein helpu i’w cadw, sy’n arbennig o bwysig gan y gall recriwtio yn ein sector fod yn heriol.”

Nid yn unig yr enillodd Glaslyn y categori uwchsgilio, ond roedd hefyd ar restr fer gwobr Busnes Cynaliadwy y Flwyddyn. Mae'r cwmni wedi gweithio gyda Greener Edge i gwblhau dadansoddiad Cwmpas 3 llawn o'i ôl troed carbon ac mae wedi bod yn garbon negatif ers dwy flynedd.

Aeth Bonnie ymlaen i ddweud: “Cawson ni hefyd ein rhoi ar restr fer y wobr cynaliadwyedd, sy’n golygu llawer i ni. Rydyn ni’n bwriadu gwella ein hadeiladau trwy ddiweddaru ein ffenestri a’n drysau a gosod paneli solar i gynhyrchu ein trydan ein hunain.

“Gwnaethon ni wrthbwyso 120% o’n hallyriadau carbon yn 2022 gyda dau brosiect. Gwnaethon ni ddarganfod Prosiect Vanga Blue Forest ACES trwy Brifysgol Bangor sy'n amddiffyn mangrofau a chymunedau ar y ffin rhwng Kenya a Tanzania. Gwnaethon ni wrthbwyso 216 tunnell arall o allyriadau CO2 gyda'r prosiect Gold Standard Cleaner, Safer Water yn Cambodia.

"Ar lefel fwy lleol, rydyn ni’n gweithio gyda Pharc Cenedlaethol Eryri gyda'i brosiect Yr Wyddfa Di-Blastig, i helpu lleihau ein gwastraff a chael gwared ar blastigau untro. Rydyn ni bellach hefyd yn gweithio gyda chyflenwr lleol, Llaethdy Plas Isa, sy'n cyflenwi ein llaeth mewn bwcedi amldro.

“Rydyn ni hefyd yn rhoi 10% o’n helw cyfanwerthu hufen iâ i gadwraeth Eryri trwy Gymdeithas Eryri.

“Fodd bynnag, o ran sgiliau staff byddwn yn annog busnesau i wneud y gorau o’r cymorth sydd ar gael. Ynghyd â chynllunio da, mae’n talu i fuddsoddi yn eich staff yn y tymor hir.”

Yn noddi’r categori Busnes Uwchsgilio’r Flwyddyn eleni roedd Sgiliau Bwyd a Diod Cymru, rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru sydd wedi ymrwymo i weithio gyda’r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru i ddatblygu gweithlu medrus a galluog.

Gan weithio gyda busnesau fel Glaslyn, mae’r rhaglen yn helpu arfogi gweithwyr â’r sgiliau a’r hyfforddiant cywir i lwyddo. Mae’r cymorth yn cynnwys meysydd fel cynhyrchu a gweithgynhyrchu, hyd at weithdai sy’n canolbwyntio ar ddatgarboneiddio a dyfodol mwy cynaliadwy.

Wrth siarad am lwyddiant Glaslyn yn y gwobrau, dywedodd Nerys Davies, Rheolwr Prosiectau Sgiliau Bwyd a Diod Cymru: “Rydyn ni wrth ein bodd bod Glaslyn wedi ennill gwobr Busnes Uwchsgilio’r Flwyddyn ac wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Busnes Cynaliadwy’r Flwyddyn.

“Maen nhw’n enghraifft wych o werth busnesau bwyd a diod yn buddsoddi yn eu pobl trwy hyfforddiant a mabwysiadu arferion cynaliadwy. Yn y pen draw, mae hwn yn fuddsoddiad yn eu dyfodol ac yn helpu i'w gwneud yn fwy gwydn.

 “Mae gan Sgiliau Bwyd a Diod Cymru amrywiaeth eang o becynnau cymorth ar gael i helpu busnesau, a byddwn yn annog pob busnes i ddarganfod mwy am sut y gallwn eu helpu i lwyddo.”

I gael rhagor o wybodaeth am Sgiliau Bwyd a Diod Cymru, ewch i https://menterabusnes.cymru/sgiliau-bwyd-a-diod-cymru/  

Share this page

Print this page