Bydd Cynhadledd Cynaliadwyedd Bwyd a Diod Cymru, sy’n cael ei chyflwyno gan Glwstwr Cynaliadwyedd Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â Rhaglen Mewnwelediad Bwyd a Diod Cymru, yn helpu busnesau i wella eu cynaliadwyedd yn y meysydd sydd bwysicaf i ddefnyddwyr.

Gan ddefnyddio cymysgedd rhyngweithiol o weithgareddau a chyfleoedd i rwydweithio, nod y digwyddiad yw cynyddu gwybodaeth fusnes mewn mewnwelediadau marchnadoedd, tueddiadau defnyddwyr, a Chyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol prynwyr.

Bydd y digwyddiad hefyd yn dangos sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella perfformiad amgylcheddol y diwydiant bwyd a diod ac i dynnu sylw at lwyddiannau busnesau o ran gwella eu cynaliadwyedd.

Bydd y gynhadledd hefyd yn cynnig y cyfle i gymryd rhan yn Rhaglen Beilot y Cynllun Lleihau Carbon, a gynlluniwyd i helpu llinell sylfaen busnesau, eu hallyriadau carbon a datblygu cynlluniau lleihau carbon y gellir eu rhoi ar waith.

Dywedodd Mark Grant, Arweinydd Clwstwr Cynaliadwyedd Bwyd a Diod Cymru, sy'n trefnu'r gynhadledd:

"Rydyn ni wrth ein bodd yn lansio'r Gynhadledd Cynaliadwyedd gyntaf yng Nghymru. Mae nifer o siaradwyr gwych sydd â gwybodaeth a phrofiad helaeth yn y diwydiant yn ymuno â ni, felly mae'n argoeli i fod yn ddigwyddiad buddiol i bob busnes a gweithiwr proffesiynol bwyd a diod yng Nghymru. Bydd yn gyfle gwych i’r diwydiant ddod at ei gilydd yn y digwyddiad unigryw hwn i drafod a mynd i’r afael â chynaliadwyedd.”

Mae cefnogi a datblygu arferion busnes cynaliadwy ar draws diwydiant bwyd-amaeth Cymru wrth galon gwaith Clwstwr Cynaliadwyedd Bwyd a Diod Cymru. Fe’i lansiwyd ym mis Ionawr 2020, ac mae'n defnyddio'r dull helics triphlyg o lywodraeth, diwydiant a'r byd academaidd yn gweithio law yn llaw i fynd i'r afael â phroblemau cyffredin y diwydiant.

Mae gan y Clwstwr dros 100 o aelodau sy’n gynhyrchwyr, ynghyd â 60 o gyrff llywodraeth, sefydliadau academaidd a sefydliadau cymorth gan gynnwys Arloesi Bwyd Cymru, AMRC Cymru, FareShare, Wrap Cymru, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU), Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) a Hybu Cig Cymru (HCC).

Gan weithredu fel canolbwynt canolog, mae’r Clwstwr yn darparu gwybodaeth i fusnesau, gan fod yn llygaid a chlustiau i’r diwydiant, a datblygu rhwydweithiau ac arbenigedd yn y diwydiant i helpu Cymru i ddod yn arweinydd byd ym maes cynaliadwyedd.

Daw’r gynhadledd ag arbenigwyr, busnesau a llunwyr polisi ynghyd i archwilio’r mewnwelediad defnyddwyr diweddaraf gan Kantar, IGD a The Food People, tra'n darganfod pam mae cynaliadwyedd yn bwysig i fusnesau bwyd a'r busnes yn ehangach.

Dywedodd y siaradwr gwadd Fiona Powell, Pennaeth Cynaliadwyedd IGD:

“Rydw i wrth fy modd i fod yn rhan o Gynhadledd Cynaliadwyedd Bwyd a Diod Cymru lle byddaf yn rhoi trosolwg o sut mae pecynnu cynaliadwy’n esblygu, gyda mewnwelediadau allweddol ar gynnydd cyfredol labelu amgylcheddol yn y DU. Bydd hyn yn rhoi cipolwg i gynrychiolwyr BBaChau ar yr hyn y gallant fod yn cynllunio ar ei gyfer yn eu busnesau eu hunain dros y tymor canolig.”

I gofrestru ar gyfer Cynhadledd Cynaliadwyedd Bwyd a Diod Cymru ewch i:

Share this page

Print this page