Cyflwynir Prosiect HELIX gan y tair canolfan fwyd ledled Cymru sy’n rhan o Arloesi Bwyd Cymru. Mae’r prosiect yn cynnig amrywiaeth o gymorth wedi’i ariannu mewn ymateb i anghenion y sector, gan gynnwys cymorth gyda gweithrediadau prosesau, datblygu cynnyrch newydd ac ardystio diogelwch bwyd.

Ers mis Gorffennaf 2023, mae Prosiect HELIX wedi cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru yn unig ac mae wedi sicrhau’r manteision canlynol i ddiwydiant bwyd a diod Cymru:

  • £119 miliwn o effaith ariannol
  • 101 o swyddi wedi’u creu a 3208 arall wedi’u diogelu
  • 193 o fusnesau wedi’u cefnogi 60 o fusnesau wedi’u cefnogi am y tro cyntaf
  • 384 o ddiwrnodau hyfforddi wedi’u darparu ar gyfer 276 o gyfranogwyr
  • 52 o fusnesau newydd wedi’u cefnogi
  • 87 o farchnadoedd newydd wedi’u cyrchu, a
  • 214 o gynhyrchion bwyd a diod newydd wedi’u datblygu

Un cwmni sydd wedi elwa o gymorth Prosiect HELIX yw Do Goodly Dips o Sir Gaerfyrddin, gwneuthurwr dipiau fegan a heb glwten a gafodd gymorth i ddatblygu ystod newydd o botiau bwyd.

Dywedodd Richard Abbey, Sylfaenydd, Do Goodly Foods:

Darparodd Arloesi Bwyd Cymru gefnogaeth amhrisiadwy i ni yr holl ffordd drwy’r broses ddatblygu a’n galluogi i wneud rhai cynhyrchion blasu gwych tra hefyd yn sicrhau ein bod yn bodloni ein meini prawf o ran cymwysterau iechyd Gwneud yn Dda. Mae'r ystod newydd hon hefyd wedi agor drysau i nifer o gwsmeriaid newydd yr ydym wedi bod yn dymuno gweithio gyda nhw.

Yn y cyfamser, cafodd Charcuterie Môn, o Ynys Môn, gefnogaeth i arallgyfeirio eu busnes ffermio teuluol i gynhyrchu ystod o charcuterie.

Dywedodd Mark Parry, Perchennog, Charcuterie Môn:

Mae gweithio gydag Arloesi Bwyd Cymru o dan Brosiect HELIX wedi rhoi’r hyder i ni ddatblygu ein busnes, gan wybod ein bod yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol a safonau diogelwch bwyd. Heb y cymorth hwn, ni fyddem wedi cael yr hyder i ddechrau cynhyrchu charcuterie gyda chanlyniadau cyson a diogel.

Yn olaf, helpwyd y becws di-glwten o Bont-y-pŵl, Juvela, i ddatblygu model a allai symleiddio eu proses datblygu ryseitiau a lleihau gwastraff.

Wrth siarad am fanteision cymorth Prosiect HELIX, dywedodd Nathan Hodges, Rheolwr Datblygu Cynnyrch Newydd yn Juvela:

Trwy rannu eu gwybodaeth a’u harbenigedd, mae gennym bellach system sydd nid yn unig yn arbed amser i ni ond sydd hefyd yn lleihau gwastraffu deunyddiau crai, rhywbeth sy’n hollbwysig wrth gynhyrchu bwyd a datblygu cynnyrch newydd.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies:

Mae bwyd yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi ein heconomi ac mae’n wych gweld yr effaith y mae Prosiect HELIX yn ei chael ar fusnesau bwyd a diod yng Nghymru.

Rwy’n falch o rannu y byddwn yn lansio ein Cronfa Her Technoleg Bwyd-Amaeth cyn bo hir i annog busnesau amaethyddol a bwyd ledled Cymru i ddatblygu atebion seiliedig ar dechnoleg i heriau sy’n effeithio ar eu busnesau.

Bydd y gronfa hon yn rhoi cyfanswm o £500,000 o gymorth i brosiectau, ac edrychaf ymlaen at weld sut y byddant yn elwa ac yn arloesi yn y sector.

Wrth sôn am effaith Prosiect HELIX, dywedodd yr Athro David Lloyd ar ran Arloesi Bwyd Cymru:

Mae Prosiect HELIX yn parhau i gynnig cefnogaeth amhrisiadwy i’r sector bwyd a diod yng Nghymru. Dros y flwyddyn ddiwethaf, bu ffocws penodol ar ddatblygu cynnyrch newydd wedi'i dargedu at farchnadoedd sy’n tyfu a gwerthuso gwastraff a phrosesau i wella effeithlonrwydd.

Gyda chyllid parhaus gan Lywodraeth Cymru, bydd Arloesi Bwyd Cymru yn parhau i gefnogi’r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru i fynd i’r afael â heriau a manteisio ar gyfleoedd.

I gael gwybod mwy am yr ystod o gymorth a ariennir sydd ar gael trwy Brosiect HELIX, ewch i: https://arloesi bwyd.cymru/

Share this page

Print this page