Ffyrdd ymarferol o roi arferion cynaliadwy ar waith yn eich busnes er budd y gymuned ehangach
Mae’r diffiniad o gynaliadwyedd yn amrywio o ffynhonnell i ffynhonnell, ond mae pob diffiniad fel arfer yn cyfeirio at dri dimensiwn, sef yr amgylcheddol, yr economaidd a’r cymdeithasol. Mae Peter's Food Service Ltd, mewn partneriaeth â FareShare Cymru, yn mynd i'r afael â'r dimensiynau hyn yn effeithiol iawn.
Yn ôl FareShare Cymru, mae tua 400,000 tunnell o fwyd yn cael ei wastraffu bob blwyddyn yng Nghymru. Os mai dim ond 1% o hwnnw sy'n fwytadwy, mae'n ddigon i gyfrannu at dros 9 miliwn o brydau bwyd.
Roedd Dafydd Davies, Rheolwr Diogelwch, Iechyd, yr Amgylchedd a Hyfforddiant gyda Peter's Food Service Ltd, yn ymwybodol iawn o'r angen i weithredu strategaeth i fynd i'r afael â gwastraff. Mae’n falch, felly, o'r bartneriaeth sydd wedi'i datblygu rhwng Peter’s Food Service a FareShare Cymru.
Yn ôl Dafydd Davies:
“Fel gwneuthurwr bwyd, rydyn ni’n gyson yn edrych ar ffyrdd o weithredu mewn ffordd fwy cynaliadwy. Rhoddir blaenoriaeth uchel i gyfrifoldeb corfforaethol o ran gwastraff bwyd a'r effaith a gaiff ar y blaned. Mae gweithio gyda FareShare Cymru yn ein galluogi i gyfrannu stoc dros ben a’i dosbarthu i rwydwaith eang o grwpiau cymunedol ac elusennau.”
Wedi’i sefydlu yn 2010, mae FareShare Cymru yn defnyddio bwyd dros ben o safon, a fyddai fel arall wedi mynd yn wastraff, ac yn troi problem amgylcheddol yn ateb cymdeithasol.
Ychwanega Dafydd:
“Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda FareShare Cymru ers mis Ebrill 2023. Yn hytrach nag anfon bwyd a chanddo oes silff cyfyngedig i wastraff, mae hwn yn llwybr pellach sydd ar gael i ni.”
Dywedodd Carmai Chung, Arweinydd Cyrchu Bwyd Rhanbarthol ar gyfer FareShare Cymru:
“Hoffai FareShare Cymru fynegi ein gwerthfawrogiad a’n diolch i Peter’s Food Service Ltd am eu cefnogaeth barhaus. Mae eu rhoddion hael wedi cael effaith gadarnhaol ar gymunedau lleol ac elusennau ledled Cymru. Edrychwn ymlaen yn fawr at barhau â’n partneriaeth i leihau gwastraff a brwydro yn erbyn newyn.”
Adroddodd FareShare Cymru, mewn partneriaeth â Peter’s Food Service Ltd, y canlynol yn eu Hadroddiad Effaith Blynyddol 2023:
Rhoddwyd 10 tunnell o fwyd
Rhoddwyd help i 157 o elusennau
Rhoddwyd cyfwerth â 23.9k o brydau
Arbedwyd 30.9 tunnell o CO2e
Mae gan FareShare Cymru rai ystadegau trawiadol ar gyfer 2023–24 ac maen nhw’n cynnwys:
Ailddosbarthwyd 824 tunnell o fwyd i elusennau a grwpiau cymunedol ledled Cymru, ac roedd 707 tunnell ohono yn fwyd dros ben;
Cefnogwyd 175 o elusennau a grwpiau cymunedol;
Darparwyd 1,964,242 o brydau i bobl agored i niwed;
Arbedwyd 2186 tunnell o allyriadau CO2.
Mae cyfranogiad Dafydd ar yr Hyfforddiant ar Gynaliadwyedd a ddarparwyd gan Sgiliau Bwyd a Diod Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, wedi gwella ei ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud â chynaliadwyedd a sut y gall camau, waeth pa mor fach ydyn nhw, gyfrannu at atebion hirdymor.
Enghraifft arall o newid a ysgogir gan gynaliadwyedd yn Peter's Food Service Ltd yw'r buddsoddiad diweddar mewn fflyd o gerbydau mwy effeithlon.
Yn ôl Dafydd:
“Rydyn ni’n falch o adrodd ein bod yn gwbl weithredol gyda’n fflyd o gerbydau newydd sy’n dryncwyr/HGV a bod cynlluniau i gwblhau’r pryniant a chael ein cerbydau LGV llai yn weithredol ar gyfer ein hadran gwasanaethau bwyd, bron wedi’u cwblhau. Mae’r cerbydau hyn yn rhai newydd ac yn fwy effeithlon o ran tanwydd ac mae ganddyn nhw dechnoleg gysylltiedig i gynnal yr effeithlonrwydd gorau posibl.”
O ganlyniad i ddeddfwriaeth newydd ynghyd â galw sylweddol yn y farchnad, mae prynwyr a defnyddwyr yn gynyddol yn chwilio am gynhyrchion a brandiau sydd â pherfformiad amgylcheddol a chymdeithasol cadarnhaol.
Mae Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn cyflwyno cyrsiau ar-lein rhad ac am ddim yn rheolaidd sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd. Mae’r rhain yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i fynychwyr er mwyn gweithredu'r newidiadau dymunol yn eu busnes.
Bydd carfan nesaf yr hyfforddiant rhad ac am ddim hwn, a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer cwmnïau bwyd a diod, yn dechrau ym mis Ionawr 2025. Cewch ragor o wybodaeth isod: