Mae cronfa newydd i gefnogi busnesau bwyd newydd wedi’i lansio gan gampws arloesi a menter y biowyddorau, ArloesiAber, wrth iddo ddathlu ei bedwerydd pen-blwydd.
Bydd Rhaglen Cyflymu Etifeddiaeth Entrepreneuriaeth (LEAP), a fydd yn cael ei ariannu gan Gronfa Etifeddiaeth Dick Lawes, yn cefnogi mentrau sy'n ceisio helpu darpar entrepreneuriaid.
Roedd Dick Lawes yn entrepreneur gweledigaethol a adawodd effaith barhaol ar y diwydiant llaeth, gan sefydlu Volac a L.E. Pritchitt & Co, sydd bellach yn rhan o Lakeland Dairies. Arloesodd ddatblygiad cynhyrchion maeth anifeiliaid arloesol, a esblygodd yn ddiweddarach yn atebion maeth dynol trwy genedlaethau dilynol ei deulu. Gan oresgyn heriau cynnar sylweddol, ysgogwyd ei lwyddiant gan benderfyniad, a'r gallu i arddangos gwerth posibl i fuddsoddwyr. Er cof amdano, sefydlwyd Cronfa Etifeddiaeth Dick Lawes, sy'n rhan o Sefydliad Betty Lawes.
Bydd yn cefnogi hyd at wyth prosiect yn 2024-2025 ym meysydd amaethyddiaeth, bwyd dynol a maeth - gan ganolbwyntio yn benodol ar brosesau llaeth - o'r fferm i'r fforc, a maeth anifeiliaid.
Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio i gynnig cymorth datblygu technegol a mentora i brosiectau dethol, gyda chefnogaeth grant o rhwng £30,000 a £50,000.
Dros y pedair blynedd ddiwethaf, mae ArloesiAber, sydd wedi'i leoli yng Ngogerddan, ar gyrion Aberystwyth, wedi chwarae rhan ganolog wrth hyrwyddo ymchwil arloesol a meithrin cydweithredu rhwng y byd academaidd, diwydiant a'r sector cyhoeddus ledled y DU.
Dywedodd Dr Rhian Hayward MBE, Prif Swyddog Gweithredol ArloesiAber:
"Wrth i ni ddathlu pedair blynedd o yrru arloesedd, rydym wrth ein bodd ac yn teimlo'n freintiedig wrth lansio'r Rhaglen LEAP, sy'n adlewyrchu ein hymrwymiad ar y cyd â theulu Dick Lawes i feithrin y genhedlaeth nesaf o arloeswyr. Mae Cronfa Etifeddiaeth Dick Lawes, yn cynnig cefnogaeth hanfodol i brosiectau sydd â'r potensial i gael effaith sylweddol ym meysydd amaethyddiaeth, bwyd, maeth a gwyddorau bywyd.”
"Dros y pedair blynedd ddiwethaf, mae ArloesiAber wedi sefydlu ei hun fel conglfaen ar gyfer datblygu cynnyrch a gwasanaethau newydd yn y biowyddorau, bwyd-amaeth a'r economi gylchol ar gyfer busnesau arloesol. Drwy ein cyfleusterau a'n partneriaethau o'r radd flaenaf gydag arbenigwyr academaidd o Brifysgol Aberystwyth a thu hwnt, mae ArloesiAber wedi cefnogi busnesau newydd cam cynnar a chwmnïau sefydledig i ddod â'u syniadau'n fyw. Mae'r rhain yn llwyddiannau mawr yr ydym i gyd yn falch iawn ohonynt.”
Bydd cyfranogwyr hefyd yn cael cyfle i gydweithio ag arbenigwyr academaidd o Brifysgol Aberystwyth a sefydliadau eraill yn y DU.
Mae'r rhaglen LEAP hefyd yn ymdrin â chyflenwadau traul, darnau bach o offer cyfalaf, a mentora i sicrhau bod pob prosiect yn cael ei ddatblygu a'i weithredu'n llwyddiannus.
Dywedodd Jane Neville, Ymddiriedolwr a merch Dick Lawes:
"Rydym yn hynod falch o gyflawniadau fy nhad. Roedd yn deall bod y daith entrepreneuraidd yn llawn cyfleoedd, ac mae'n bleser gennyf ymestyn ei etifeddiaeth ymhellach trwy gefnogi entrepreneuriaid trwy lansiad y rhaglen LEAP. Mae'r lansiad hwn hefyd yn amlygu pwysigrwydd hanfodol cydweithio rhwng diwydiant a’r byd academaidd, gan sicrhau cefnogaeth barhaus i arloesi drwy Gronfa Etifeddiaeth Dick Lawes. Mae ei gred a’i fantra ‘nid os – pryd’ yn arbennig o addas ar gyfer y fenter hon.”