Pryd: Dydd Iau, 24 Hydref 2024
Ble: Venue Cymru, Llandudno
Beth: O dan adain Bwyd a Diod Cymru, Cynhadledd, Arddangosfa a digwyddiad Rhwydweithio Blas Cymru / Taste Wales 2024
Yr wythnos nesaf cynhelir cynhadledd agoriadol Blas Cymru / Taste Wales y bu disgwyl mawr amdani yn Venue Cymru, Llandudno.
Wedi’i threfnu gan is-adran Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru, thema’r gynhadledd yw ‘Pontydd i Lwyddiant’ a bydd yn cynnwys cymysgedd deinamig o seminarau ymarferol, gweithdai gan y diwydiant, paneli o arbenigwyr, a chymorthfeydd arbenigol.
Gyda channoedd o fynychwyr o bob rhan o’r diwydiant yn bresennol, bydd cyfleoedd i archwilio’r gyfres lawn o’r cymorth sydd ar gael i’r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru. Yn ogystal, bydd y gynhadledd hefyd yn cynnwys amrywiaeth o siaradwyr arbenigol, cyflwyniadau a thrafodaethau panel, gyda phynciau'n amrywio o becynnu cynaliadwy i werth hunaniaeth Gymreig i ddefnyddwyr yng Nghymru a thu hwnt.
Mae ystadegau diweddar a ryddhawyd dros yr haf yn dangos bod y diwydiant wedi tyfu 10% dros y flwyddyn ddiwethaf. Nod y gynhadledd yw adeiladu ar y llwyddiant hwn drwy roi cymorth i fusnesau bwyd a diod Cymru barhau i esblygu a ffynnu. Mae hyn yn cynnwys cyngor ar dwf cynaliadwy, allforio, buddsoddi, datblygu cynhyrchion newydd ac effeithlonrwydd.
Yn siarad yn y digwyddiad bydd yr Athro David Lloyd, sef cadeirydd presennol Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru. Pwrpas y Bwrdd yw helpu i dyfu, hyrwyddo a gwella enw da diwydiant bwyd a diod Cymru. Drwy weithredu fel sianel rhwng y llywodraeth a’r diwydiant a busnesau ehangach, mae’n darparu arweiniad a chyfeiriad drwy annog cydweithio a rhannu gwybodaeth.
Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd yr Athro Lloyd, “Mae diwydiant bwyd a diod Cymru yn ffodus i gael perthynas waith mor agos rhwng y llywodraeth, y byd academaidd a’r diwydiant, ac mae digwyddiadau fel y rhain yn dangos hynny’n ymarferol.
Bydd y gynhadledd yn darparu llwyfan unigryw i helpu ysgogi cydweithredu ac arloesi, yn ogystal â chyfle amhrisiadwy i fusnesau gael mewnwelediad a meithrin cysylltiadau parhaol. Edrychaf ymlaen at gwrdd â nifer o wahanol bobl sy’n gweithio yn y diwydiant, a dysgu mwy am sut y gall y Bwrdd helpu i yrru’r diwydiant yn ei flaen.”
Hefyd yn ymddangos yn y digwyddiad bydd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates AS.
Un o nodau allweddol Llywodraeth Cymru yw adeiladu ar y sylfeini cadarn presennol a sicrhau bod polisïau’n esblygu gydag anghenion y diwydiant, a pharhau i sicrhau twf cynaliadwy. Dywedodd, “Rwy’n edrych ymlaen at fod yn Blas Cymru / Taste Wales, sy’n gyfle gwych i’r diwydiant rwydweithio â chynrychiolwyr blaenllaw o’r diwydiant, a chydweithio i ddod o hyd i atebion i’r heriau sy’n ei wynebu.
“Roeddwn yn falch iawn o nodi dros yr haf bod y diwydiant yn parhau i dyfu a ffynnu, ac mae hyn yn adlewyrchiad o’r gwaith gwych sy’n digwydd gan ein busnesau bwyd a diod. Gyda’n gilydd, byddwn yn adeiladu ar y sylfeini hyn, yn goresgyn heriau, ac yn parhau â thaith lwyddiannus, ddeinamig y diwydiant yng Nghymru.”
Gall busnesau bwyd a diod gofrestru eu presenoldeb trwy ymweld â Chwiliwr Digwyddiadau Busnes Cymru: https://wales.business-events.org.uk/cy/digwyddiadau/cynhadledd-blas-cymru-taste-wales-2024/