Mae busnes lletygarwch annibynnol sy’n tyfu, ac sydd wedi’i leoli yn ne-ddwyrain Cymru, yn elwa ar ôl llwyddo i gyflwyno detholiad o fwyd a diod Cymreig i’w fwydlenni am y tro cyntaf.
Mae Tafarndai Croeso o Gaerdydd yn rhedeg 8 busnes yn y ddinas a'r ardaloedd cyfagos. Y rhain yw’r Philharmonic, The Dock, Retro, Brewhouse, The Blue Bell, Daffodil, The Discovery a the Bear’s Head.
Ar ôl penderfynu rhoi mwy o bwyslais ar gynnyrch Cymreig yn eu sefydliadau, gofynnon nhw am gefnogaeth gan Raglen Gwasanaeth Bwyd Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru. O ganlyniad, bu cynnydd yn argaeledd cynhyrchion Cymreig yn eu lleoliadau, ac maen nhw hefyd wedi cyflwyno deunyddiau marchnata ‘Balch o Weini Cynnyrch Cymreig’ i helpu i ddangos eu tarddiad ymhellach.
Mae hyn yn cynnwys The Bear’s Head ym Mhenarth, a gymerodd yr awenau gan JD Wetherspoon yn ddiweddar. Yn sail ymhellach i werth cynhyrchion Cymreig i ddefnyddwyr, er bod y model busnes yn wahanol i un JD Wetherspoon’s o ran prisio, mae’r 11 o gynhyrchwyr Cymreig a’r 21 o gynhyrchion gwahanol sydd ar gael wedi arwain at werthiant gwell na’r disgwyl, a chafodd y cynhyrchion dderbyniad da gan gwsmeriaid.
Mae Rhaglen Gwasanaeth Bwyd Bwyd a Diod Cymru wedi bod yn gweithio gydag amrywiaeth o gadwyni tafarndai, wrth iddi geisio tyfu’r diwydiant a chreu swyddi drwy sicrhau contractau i farchnadoedd Cymru a’r DU.
Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda gweithredwyr cenedlaethol ar raddfa fawr fel Marston’s, Greene King, Punch Pubs, tafarndai Valiant, Compass Group a Bidfood, yn ogystal â gweithredwyr yng Nghymru fel Tafarndai Croeso, The Welsh House, Blas ar Fwyd, Castell Howell a Harlech Foodservice.
Canfu adroddiad ‘Gwerth Cymreictod’ diwygiedig a gyhoeddwyd yn 2023, a oedd yn edrych ar ganfyddiadau defnyddwyr o fwyd a diod o Gymru, fod 9 o bob 10 gwestai eisiau dewis da o gynhwysion Cymreig ar y fwydlen, gydag 8 o bob 10 yn dweud bod detholiad da o ddiodydd Cymreig yn allweddol i'w dewis o leoliad. Roedd y canfyddiadau hyn yn fwy perthnasol i ymwelwyr iau ond roeddent yn sylweddol uchel ar draws pob oedran. Dywedodd 6 o bob 10 o bobl a holwyd y byddent yn fwy tebygol o ymweld â lleoliad â detholiad da o gynnyrch Cymreig, a dywedodd 25% y byddent yn mynd ati i osgoi rhywle heb unrhyw fwyd a diod Cymreig.
Un o'r cynhyrchwyr sydd bellach yn ymddangos ar fwydlenni Tafarndai Croeso yw The Authentic Curry Company o Hirwaun. Gyda thri o’u cynhyrchion ar gael yn The Bear’s Head, siaradodd y Rheolwr Gyfarwyddwr Paul Trotman am bwysigrwydd busnesau Cymreig yn cydweithio er budd y ddwy ochr. Dywedodd “Yn dilyn cyfarfod cynhyrchiol iawn a chyflwyniad am y cynhyrchion gyda’r Cogydd Gweithredol, Jamie Newman, rwy’n falch iawn o weld bod ein cynhyrchion bellach yn ymddangos ym mhob rhan o fwydlenni Grŵp Tafarndai Croeso.
“Rydyn ni’n gweithio'n galed iawn i sicrhau ein bod yn cynnal safon uchel iawn o gynhyrchion, gwerth am arian ac wrth gwrs datblygu cynhyrchion newydd hynod greadigol.
“Rydyn ni’n gwybod bod gan gynhyrchwyr yng Nghymru nwyddau gwych i’w gwerthu. Mae gennyn ni amrywiaeth wych o ddeunyddiau crai Cymreig, ac mae defnyddio’r cynhwysion lleol hyn o fudd i gynhyrchwyr a chynhyrchwyr cynradd. Darn olaf y jig-so hwn yw’r diwydiant lletygarwch yn ymuno, gan y bydd hyn o fudd i bawb ar draws y gadwyn gyflenwi, ac economi Cymru yn gyffredinol.”
I Craig Davies, un o Gyfarwyddwyr Tafarndai Croeso, doedd dim rhaid meddwl ddwywaith cyn cynyddu’r detholiad o gynhyrchion Cymreig roedden nhw’n ei gynnig, sydd wedi talu ar ei ganfed hyd yma. Dywedodd, “Daethon ni i’r penderfyniad tua blwyddyn yn ôl yr hoffen ni gynyddu’r detholiad o gynhyrchion lleol sydd ar gael, ar ôl nodi’r gwerth ychwanegol y gallai bwyd a diod o Gymru ei gynnig i’r busnes. Ers hynny, rydyn ni wedi diweddaru’r bwydlenni yn y rhan fwyaf o’n tafarndai, gan gynnwys cyflwyno detholiad o ddiodydd Cymreig, megis pum gwin gwahanol.
“Mae’r gefnogaeth rydyn ni wedi’i chael gan Raglen Gwasanaeth Bwyd Bwyd a Diod Cymru wedi bod yn wych. Mae wedi ein helpu i gwrdd â rhai o’r heriau, megis dod o hyd i gyflenwad dibynadwy o gig eidion Cymreig, yn ogystal â’n cyflwyno i amrywiaeth o gynhyrchwyr nad oedden ni’n gwybod am eu bodolaeth.
“Rydyn ni wedi bod wrth ein bodd gyda’r canlyniadau hyd yn hyn, ac yn gobeithio adeiladu ar hyn yn y dyfodol. Yn y pen draw, nid yn unig y mae hyn yn helpu economi Cymru, mae hefyd yn rhoi’r hyn maen nhw eisiau i’n cwsmeriaid, sef bwyd a diod o safon sydd wedi’u cynhyrchu i safonau uchel.”
Mae Rhaglen Gwasanaeth Bwyd Bwyd a Diod Cymru yn un o gyfres o raglenni sydd gan Lywodraeth Cymru ar waith i gyflawni eu huchelgais i fusnesau Cymru ddod yn fwy cynhyrchiol, proffidiol a chystadleuol.
Mae’r rhaglen yn targedu cymorth ar draws y sectorau gwasanaeth bwyd, lletygarwch a chyfanwerthu, gan godi proffil bwyd a diod o Gymru ac annog twf cynhyrchion Cymreig ar hyd a lled marchnadoedd yng Nghymru a’r DU. Mae’r ystadegau diweddaraf a gyhoeddwyd dros yr haf yn dangos sut y tyfodd y diwydiant yng Nghymru 10% dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda busnesau â chyfanswm trosiant o £24.6bn yn 2023, o’i gymharu â £22.3bn yn 2022.
Wrth siarad am waith pwysig Rhaglen Gwasanaeth Bwyd Bwyd a Diod Cymru, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS, “Mae gweini mwy o gynhyrchion Cymreig yn niwydiant lletygarwch y DU yn bwysig iawn i ni, ac mae’n galonogol gweld y gwaith caled yn dwyn ffrwyth gyda busnesau fel Tafarndai Croeso yn gweld gwerth gweini bwyd a diod o Gymru i’w cwsmeriaid.
“Mae ymchwil yn dangos bod y galw yno gan gwsmeriaid, a byddwn yn parhau i weithio gyda busnesau, mawr a bach, i helpu chwalu’r rhwystrau a gwneud gweini cynhyrchion Cymreig mor hawdd â phosib. Edrychaf ymlaen at ymweld ag un o sefydliadau Tafarndai Croeso yn y dyfodol agos i fwynhau blas bach o Gymru.”
Mae rhagor o wybodaeth am Fwyd a Diod Cymru, a’u Rhaglen Gwasanaeth Bwyd, ar gael yn llyw.cymru/bwydadiod