Mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd cwmnïau bwyd a diod o bob rhan o Gymru i gofrestru eu diddordeb ar gyfer digwyddiad broceriaeth “cwrdd â’r prynwr” Blas Cymru / Taste Wales 2025 y flwyddyn nesaf, a gynhelir yn ICC Cymru yng Nghasnewydd.
Wedi'i lansio gyntaf yn 2017 a'i gynnal bob dwy flynedd ers hynny, mae wedi dod yn ddigwyddiad nodedig ar gyfer y diwydiant bwyd a diod, gan ddod â chynhyrchwyr, cyflenwyr, prynwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant bwyd o bob rhan o'r byd at ei gilydd.
Wedi’u trefnu gan Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru, mae digwyddiadau blaenorol wedi arwain at lwyddiant economaidd mawr, yn genedlaethol a thu hwnt. Gyda ffocws ar arloesi gyda’r nod o gynnwys 200 o gynhyrchion newydd yn nigwyddiad 2025, mae cwmnïau bwyd a diod sydd ag achrediadau SALSA a BRCGS yn cael eu hannog i gofrestru erbyn 18 Rhagfyr nawr, cyn ei bod yn rhy hwyr.
A hwythau wedi bod yn fuddugol yng nghystadleuaeth Pantri’r Ddraig yng nghynhadledd Blas Cymru / Taste Wales a gynhaliwyd yn Llandudno yn ddiweddar, un cwmni a fydd yn bendant yn bresennol yw Fungi Foods.
Roedden nhw’n rhan o bedwarawd o bedwar busnes Sêr Newydd sydd wedi cael cymorth gan raglen Cywain Llywodraeth Cymru – y lleill oedd Crwst, Grounds for Good a Hive Mind – a gafodd chwe munud yn unig yr un i gyflwyno eu cynhyrchion i banel o arbenigwyr yn y diwydiant. Mewn cystadleuaeth agos iawn, daeth Fungi Foods i’r amlwg fel yr enillydd gyda’u cynnyrch madarch mwng llew. Canmolodd y beirniaid y cynnyrch am ei becynnu trawiadol, ei hyblygrwydd ar draws categorïau, a'i aliniad cryf â'r tueddiadau sy'n canolbwyntio ar iechyd sy'n dominyddu marchnadoedd heddiw.
Fel y cais buddugol, bydd Fungi Foods nawr yn elwa ar gyngor ac arweiniad gan arbenigwyr yn y diwydiant yn y cyfnod cyn broceriaeth Blas Cymru / Taste Wales 2025. Dywedodd sylfaenydd Fungi Foods, Gareth Griffith-Swain, “Roedden ni’n falch iawn o ennill cystadleuaeth Pantri’r Ddraig ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at ddigwyddiad broceriaeth cwrdd â’r prynwr y flwyddyn nesaf. Bydd cael cymorth ac arweiniad gan arbenigwyr yn amhrisiadwy i ni, gan ein bod wir eisiau gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd a ddaw yn sgil gallu rhoi ein cynnyrch o flaen rhai o’r bobl flaenllaw yn y diwydiant.
“Rydyn ni’n hyderus yn yr hyblygrwydd anhygoel a’r buddion iechyd niferus y gall ein cynnyrch eu cynnig, ac rydyn ni’n ddiolchgar am y cyfleoedd a’r gefnogaeth rydyn ni’n eu derbyn trwy Lywodraeth Cymru i’n helpu i gael ein cynnyrch at gynulleidfa ehangach.”
Un o brif nodweddion y froceriaeth fydd presenoldeb rhai o brif brynwyr y diwydiant a manwerthu o bob rhan o'r byd. Un o’r rheini fydd Ross Taylor o Creed Foodservice, a ddywedodd, “Fel mewn blynyddoedd blaenorol, rwy’n siŵr y bydd digwyddiad broceriaeth Blas Cymru / Taste Wales 2025 sydd ar ddod yn llwyddiant ysgubol. Rydw i wastad yn edrych ymlaen at fynychu’r digwyddiad a gweld angerdd a gweledigaeth cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru.
“Nid ar hap a damwain mae’r diwydiant ar i fyny o ran ei dwf. Mae hefyd yn dda gweld yr arloesi sy’n digwydd yng Nghymru ar hyn o bryd, a bydd yn arbennig o ddiddorol gweld pa gynhyrchion newydd fydd yn dod i’r farchnad, a sut mae’r rhain yn cyd-fynd â thueddiadau ehangach y diwydiant megis iechyd a chynaliadwyedd.”
Gall cwmnïau bwyd a diod o Gymru sydd â’r achrediadau SALSA a BRCGS angenrheidiol wneud cais i gymryd rhan drwy e-bostio foodanddrinkwales@mentera.cymru. Mae'r ffenestr ymgeisio yn cau ar 18 Rhagfyr 2024.