Caiff Gwobrau Bwyd a Diod Cymru eu cynnal eto yn 2025 ac rydym yn barod i dderbyn cofrestriadau ac enwebiadau. 

Bob blwyddyn, mae'r gwobrau cenedlaethol hyn yn cydnabod ac yn anrhydeddu'r cyfraniadau a'r cyflawniadau eithriadol yn y diwydiant Bwyd a Diod yng Nghymru. Wrth i ni baratoi ar gyfer ein pedwaredd flwyddyn, rydym yn edrych ymlaen unwaith eto at hyrwyddo llwyddiant cynhyrchwyr bwyd a diod, boed yn fach neu'n fawr, o bob cwr o Gymru. Mae'r gwobrau yn adlewyrchu amrywiaeth y sector cyffrous, o enwau poblogaidd sydd wedi ennill eu plwyf i newydd-ddyfodiaid a phrentisiaid, y mae pob un ohonynt yn bwysig i ddyfodol y diwydiant. 

Cynhaliwyd seremoni wobrwyo 2024 yn Abertawe a daeth mwy na 400 o bobl i'r digwyddiad. Caiff 4edd seremoni Gwobrau Bwyd a Diod Cymru ei chynnal yn Venue Cymru yn Llandudno ar 22 Mai 2025. Gan adeiladu ar lwyddiant ysgubol ein trydedd flwyddyn, rydym yn anelu at gynnal dathliad disgleiriach fyth o sector sy'n chwarae rhan mor allweddol yn economi Cymru. 

Rydym wrth ein bodd y bydd Rhys Iley, Cyfarwyddwr Manwerthu a Gweithrediadau'r DU ac Iwerddon Costa Coffee, y mae ganddo brofiad helaeth o'r sector bwyd a diod, yn cadeirio'r panel beirniaid annibynnol y flwyddyn nesaf, wrth i ni ddiolch i Bob Clark o Itch Investors am ei ymrwymiad i'r rôl dros y ddwy flynedd ddiwethaf. 

Dywedodd Rhys Iley, Cadeirydd y Beirniaid: 
“Mae'r sector bwyd a diod yng Nghymru yn mynd o nerth i nerth, a cheir ffocws gwirioneddol ar gynhyrchion o ansawdd y gellir eu cynhyrchu ar raddfa eang ac sy'n gynaliadwy. Rwyf wedi bod yn ymwneud â Gwobrau Bwyd a Diod Cymru ers sawl blwyddyn bellach, ac mae'n fraint cael cadeirio'r broses feirniadu. Edrychaf ymlaen yn eiddgar at gael gweld cynnydd y sector ac at gael cyfle i hyrwyddo'r cynnydd hwnnw.”

Bydd Bwydydd Castell Howell, sef cyfanwerthwr gwasanaethau bwyd annibynnol mwyaf blaenllaw Cymru, yn parhau i gefnogi Gwobrau Bwyd a Diod Cymru fel prif noddwr y digwyddiad am ei bedwaredd flwyddyn. 

Dywedodd Haydn Pugh, Cyfarwyddwr Gwerthu a Marchnata Bwydydd Castell Howell: 
“Yma yng nghwmni Bwydydd Castell Howell, rydym yn falch iawn o'n partneriaeth ac mae'n bleser gennym barhau i gefnogi Gwobrau Bwyd a Diod Cymru am y bedwaredd flwyddyn yn olynol. 
Mae'r digwyddiad hwn yn dathlu ymdrechion anhygoel ac arloesol ein cynhyrchwyr bwyd a diod lleol yn ogystal â'r busnesau sy'n eu cefnogi'n frwd. Mae'r rhaglen wobrau gyffrous hon yn tynnu sylw at fywiogrwydd ein diwydiant, sy'n ategu ein gwerthoedd craidd i'r dim. Mae'r sector bwyd yng Nghymru yn rhan hanfodol o'n heconomi, ond mae hefyd yn rhan annatod o'n strwythur cymdeithasol. Fel cwmni, rydym yn ymrwymedig i hyrwyddo busnesau bwyd a diod o bob maint ar hyd a lled Cymru. Rydym yn dathlu amrywiaeth eang cynhyrchion y busnesau hyn a'u rôl hanfodol wrth greu cyfleoedd cyflogaeth yn eu cymunedau. 

Rydym yn mor falch ein bod yn rhan allweddol o'r sector hanfodol hwn yn economi Cymru ac yn edrych ymlaen at gydweithio â'r busnesau hyn ar y daith gyffrous sydd o'n blaenau.”

 

Mae'n bleser gennym hefyd gyhoeddi bod y noddwyr categori canlynol yn dychwelyd: ASDA, Hugh James, y Ffederasiwn Bwyd a Diod, BIC Innovation, Hyfforddiant Cambrian, Arloesi Bwyd Cymru, Hufenfa Sir Benfro, Shirgar a Stills. Mae Business News Wales hefyd yn dychwelyd fel noddwyr y cyfryngau. 

Mae'n bleser gennym hefyd groesawu NFU Mutual, Llywodraeth Cymru a Mentera fel noddwyr categori newydd ar gyfer 2025. Mae Dewch i Gonwy hefyd wedi cytuno i fod yn noddwyr lleoliad eleni. 

Dywedodd Liz Brookes, Cyfarwyddwr Grapevine Event Management a chyd-sylfaenydd Gwobrau Bwyd a Diod Cymru:

“Rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu cynnal y gwobrau yn Llandudno eto yn 2025. Mae symud y digwyddiad hwn bob blwyddyn yn cynnig y cyfle i ni ddangos bod cynhyrchwyr bwyd a diod cyffrous ac arloesol, bach a mawr, wedi'u lleoli ym mhob cwr o Gymru. Mae Gwobrau Bwyd a Diod Cymru yn cynnig llwyfan cenedlaethol i'r sector ac edrychwn ymlaen at rannu'r llu o straeon ysbrydoledig sy'n esbonio cefndir y busnesau a'r brandiau ac at ddathlu llwyddiant y diwydiant dros y 12 mis diwethaf. Pob lwc i chi gyd!”

Mae'r gwobrau yn cynnwys 16 o gategorïau a chyfle i enwebu Hyrwyddwr Bwyd a Diod Cymru ac Entrepreneur Bwyd a Diod Cymru. Gall cwmnïau gofrestru ar gyfer hyd at ddau gategori am ddim ac mae'r holl feini prawf cofrestru i'w gweld ar y wefan.

Mae'r 16 o gategorïau fel a ganlyn: 

1. Busnes Newydd y Flwyddyn Bwyd a Diod Cymru

2. Entrepreneur y Flwyddyn Bwyd a Diod Cymru 

3. Allforiwr y Flwyddyn Bwyd a Diod Cymru 

4. Prentis y Flwyddyn Bwyd a Diod Cymru 

5. Gwobr Arloesedd Bwyd a Diod Cymru 

6. Gwobr Gwerthoedd Cynaliadwy Bwyd a Diod Cymru 

7.  Seren y Dyfodol y Flwyddyn Bwyd a Diod Cymru

8.  Cwmni sy'n Tyfu y Flwyddyn Bwyd a Diod Cymru 

9.  Gwobr Gymunedol Bwyd a Diod Cymru 

10. Cynhyrchydd Bwyd y Flwyddyn Cymru 

11. Cynhyrchydd Diodydd Mawr y Flwyddyn Cymru 

12. Cynhyrchydd Diodydd Bach y Flwyddyn Cymru 

13.  Busnes Artisan y Flwyddyn Bwyd a Diod Cymru 

14.  Gwobr Gwydnwch Busnes 

15. Busnes O'r Fferm i'r Fforc y Flwyddyn

16. Hyrwyddwr y Flwyddyn Bwyd a Diod Cymru 

 

Ceir rhagor o fanylion am Wobrau Bwyd a Diod Cymru ar y wefan https://foodanddrinkawards.wales/ 

Share this page

Print this page