Nod Patisserie Artisan o Gwmbrân yw dathlu ei ben-blwydd yn 20 oed trwy roi ystod o arferion pobi cynaliadwy ar waith ar eu taith i ddyfodol carbon isel.
Mae cynaliadwyedd yn brif flaenoriaeth i Sian ac Ian Hindle a sefydlodd La Creme Patisserie yn 2005. Nawr, gyda phlant y ddau yn dal swyddi allweddol o fewn y cwmni, mae’r busnes teuluol wedi ymrwymo i gymryd camau i leihau allyriadau carbon eu cwmni, gyda’r nod o ddod yn fenter sero net ar gyfer y dyfodol.
Wrth siarad â Rob Hindle (Cyfarwyddwr Gweithrediadau a’r Mab Hynaf), amlinellodd rai o gynlluniau’r fenter deuluol.
Meddai Rob:
“Rydym wedi ymrwymo i gymryd camau pwysig ac rydym wedi nodi nifer o feysydd blaenoriaeth ar gyfer lleihau allyriadau, adeiladu ein heffaith gymdeithasol ac atal gwastraff. Rydym yn datblygu cynllun i gyfyngu ar ein heffaith ar yr hinsawdd ac adeiladu ein gwytnwch wrth symud ymlaen.”
Mae'r fenter deuluol wedi gosod amcanion cynaliadwyedd penodol i gofnodi, cyfri a gwerthuso arferion eu busnes yn eu hymgais am ddyfodol sero net i'r busnes. Maent yn casglu data ar allyriadau megis y defnydd o danwydd, y defnydd o drydan a thrin gwastraff ac yn adrodd yn flynyddol yn unol â Ffactorau Trosi Nwyon Tŷ Gwydr Llywodraeth y DU ar gyfer Adrodd gan Gwmnïau.
Ychwanega Rob:
“Byddwn yn adolygu ein perfformiad yn ystod y flwyddyn ac yn olrhain lle rydym wedi gwneud yn dda a’r meysydd y gallem wneud mwy ynddynt ac yn gweithredu ar y canfyddiadau hynny.
O fewn 12 mis, rydym yn bwriadu ymrwymo i gynllun ardystio i ddangos ein ymrwymiad a hygrededd yn y maes hwn. Bydd hyn yn cyd-fynd â'r Fenter Targedau Seiliedig ar Wyddoniaeth ac anghenion eraill ein busnes a’n cwsmeriaid.”
Mae Sian ac Ian yn cydnabod yr heriau ond maent yn benderfynol o greu busnes sy'n cymryd camau i fonitro a lleihau eu hôl troed carbon flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae buddion uniongyrchol wedi cynnwys arbediad o hyd at £1,000 y mis o arbedion mewn costau gwastraff, gyda disgwyl i arbedion hirdymor pellach gael eu gwireddu a phrawf y gall cynhyrchu mwy cynaliadwy hefyd helpu’r llinell waelod. Maent wedi gwneud addewid i gyrchu’n lleol, cefnogi ffermwyr, a chydweithio â busnesau lleol eraill i greu atebion economi gylchol.
Mae eu canmoliaeth i ymdrechion eu staff yn amlwg yn ogystal â'u hymrwymiad i barhau i dalu'r cyflog byw iddynt. Maen nhw'n credu bod uwchsgilio yn hollbwysig ac yn ffynnu ar weld eu gweithwyr yn dysgu ac yn tyfu.
Bu cyfarfod diweddar gyda Compass Cymru, sef cangen leol o Compass Group UK & Ireland Food Services and Catering Solutions, yn llwyddiannus iawn i La Creme Patisserie gan arwain at ennill ei statws ‘cyflenwr lefel uwch’ o fewn Foodby UK Procurement, o ganlyniad uniongyrchol i roi eu cynllun gweithredu cynaliadwyedd diweddaraf ar waith a datblygu cynhyrchion newydd yn seiliedig ar blanhigion.
Dywed Rob:
“Roedd amcanion cynaliadwyedd yn destun siarad blaenllaw felly roedd y paratoadau a wnaethom cyn y cyfarfod, yn deillio o’r hyn a ddysgom ar y cwrs Hyfforddiant Cynaliadwyedd, yn sicr wedi ein helpu i ddangos ein hymrwymiad a’n hygrededd.”
Anogir busnesau i ddilyn yn ôl traed Rob o ran bodloni gofynion cynyddol y farchnad o ran cynaliadwyedd, ac mae Sgiliau Bwyd a Diod Cymru | Food & Drink Skills Wales - rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru sydd wedi ymrwymo i weithio gyda'r diwydiant bwyd a diod i ddatblygu gweithlu medrus a galluog, yn cynnig cyfres o Hyfforddiant Cynaliadwyedd am ddim i gefnogi hyn.
Mae’r hyfforddwr, Iain Cox o EcoStudio yn brofiadol iawn mewn helpu sefydliadau i roi cynaliadwyedd ar waith, hyn yn ei dro yn rhoi dechreuad da sy’n edrych ar gysyniadau allweddol a deddfwriaeth a fydd yn paratoi busnesau i weithio ar eu Cynlluniau Lleihau Carbon ac Effaith Gymdeithasol.
Dywedodd Iain Cox:
“Mae La Creme Patisserie yn enghraifft wych sy'n profi bod gwelliannau a wneir o fewn y busnes yn cael effaith wirioneddol - yn enwedig o ran prynwyr masnach a'u hymrwymiadau i weithio gyda chyflenwyr sy'n dangos ymrwymiad i gynaliadwyedd.
Mae'r Hyfforddiant Cynaliadwyedd yn rhoi cyflwyniad da i fusnesau sydd am gael gwell dealltwriaeth o sut i ymgorffori cynaliadwyedd yn eu gweithgareddau masnachol”.
Mae'r Hyfforddiant Cynaliadwyedd rhad ac am ddim yn gyfres o bum sesiwn hyfforddi ar-lein gyda sesiynau un i un ychwanegol ar gyfer arweiniad arbenigol pellach. Darperir mynediad i adnoddau rhyngweithiol i asesu perfformiad cynaliadwyedd, a chanllawiau ar sut i ddatblygu cynllun cynaliadwyedd hefyd.
Yn dilyn yr Hyfforddiant Cynaliadwyedd, mae Rob yn cael cymorth mentora ychwanegol drwy Cywain i’w helpu i ennill achrediad i safon amgylcheddol ac yna i ddatblygu eu fframwaith Cynaliadwyedd ymhellach. Mae La Crème hefyd yn gweithio gyda’r Clwstwr Cynaliadwyedd a’r Cynllun Peilot Lleihau Carbon i fynd i’r afael ag allyriadau a chefnogi’r cyfnod pontio tuag at sero net yng Nghymru.
Ychwanega Kate Rees, Rheolwr Rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru:
“Mae’n wych gweld yr effaith y mae mynychu Cwrs Cynaliadwyedd Sgiliau Bwyd a Diod Cymru wedi’i chael ar La Creme Patisserie. Mae hyn yn adlewyrchu’r adborth cadarnhaol eang a gawsom gan fynychwyr y gorffennol a’r manteision lluosog y maent wedi gallu eu cael drwy roi’r hyn a ddysgwyd o’r sesiynau, ar waith. Gyda’r cwrs wedi’i ariannu’n llawn gan y rhaglen, does gan fusnesau bwyd a diod yng Nghymru ddim byd i’w golli.”
Dyddiadau'r cwrs hyfforddi Cynaliadwyedd nesaf yw:
Ionawr 8, 15, 22, 29 & Chwefror 5
Cysylltwch â Sgiliau Bwyd a Diod Cymru | Food & Drink Skills Wales i archebu eich lle: sgiliau-cymru@menterabusnes.co.uk