Mae un o brif gynhyrchwyr gwin Cymru, White Castle Vineyard, wedi dadorchuddio pennod newydd yn ei hanes.
Am y tro cyntaf mae'r winllan wedi cynaeafu a phrosesu ei grawnwin ar y safle mewn gwindy sydd newydd ei sefydlu gan ddefnyddio offer o'r radd flaenaf, gan fraenaru’r tir ar gyfer dyfodol o gynhyrchu mwy o win yng Nghymru.
Mae’r datblygiad cyffrous hwn yn benllanw blynyddoedd o gynllunio a buddsoddi yn y dechnoleg ddiweddaraf, gyda’r nod o wella ansawdd a maint gwinoedd arobryn White Castle. Mae hefyd yn nodi datblygiad pwysig i’r diwydiant gwin yng Nghymru yn fwy cyffredinol, gan ei fod yn cynyddu capasiti a gallu gwinllannoedd eraill i brosesu eu gwinoedd yng Nghymru.
Cafwyd cymorth gan dîm brwdfrydig o wirfoddolwyr ar gyfer y cynhaeaf cyntaf, gan gynnwys ffrindiau, teulu, a chwsmeriaid ffyddlon a gymerodd ran trwy raglen Mabwysiadu Gwinwydd y winllan. Buont yn cynaeafu tri math o rawnwin â llaw - Phoenix, Pinot Noir Précoce, a Rondo - a phroseswyd pob un ohonynt yr un diwrnod gan ddefnyddio peiriant tynnu coesynnau a gwasg newydd y winllan.
I Robb Merchant, cyd-berchennog White Castle Vineyard, y datblygiad diweddaraf hwn yw penllanw ei weledigaeth i dyfu’r busnes ymhellach ac ehangu ar allu Cymru i wneud gwin. Meddai, “Mae prosesu ein grawnwin ar y safle gyda’r dechnoleg ddiweddaraf yn rhoi rheolaeth lawn i ni dros wneud gwin ac yn ein galluogi i gynnig mwy o winoedd Cymreig premiwm, wedi’u gwneud â llaw.
“Rydym hefyd yn gobeithio y byddwn yn gallu helpu gwinllannoedd eraill Cymru gyda’u prosesu nhw. Mae’n gyfnod mor gyffrous i fod yn rhan o ddiwydiant gwin Cymru gyda gwinllannoedd newydd yn agor drwy’r amser. Gall cael cyfleuster fel ein un ni yng Nghymru ond helpu gyda thwf y diwydiant yn y dyfodol a chynyddu ein gallu i gynhyrchu gwinoedd Cymreig o ansawdd eithriadol.”
Mae Clwstwr Diodydd Llywodraeth Cymru wedi bod yn allweddol wrth gefnogi datblygiad diwydiant gwin Cymru. Nod y strategaeth a arweinir gan y diwydiant yw cynyddu gwerth y sector ddeg gwaith yn fwy i £100 miliwn erbyn 2035, ac mae wedi bod yn ganolog wrth sicrhau bod Cymru’n adeiladu ar ei henw da newydd fel cynhyrchydd gwin. Ategir hyn gan lwyddiannau trawiadol dros y blynyddoedd diwethaf sydd wedi'u cydnabod â nifer o wobrau rhyngwladol.
Gyda dros 40 o winllannoedd bellach yn gweithredu ar draws y wlad, mae statws Cymru fel cynhyrchydd gwin o safon uchel yn dal i dyfu, diolch i berchnogion arloesol ei gwinllannoedd, y ffrwythau gwych sy’n cael eu tyfu, yn ogystal â microhinsawdd a thirwedd nodedig Cymru.
Dywedodd Lauren Smith, Rheolwr Clwstwr y Clwstwr Diodydd, “Rydym yn falch o weld cwmnïau diodydd Cymru yn croesawu arloesedd a chynaliadwyedd.
“Mae’r strategaeth sy’n cael ei harwain gan y diwydiant wedi bod yn hollbwysig wrth gynyddu gwerth y sector a sicrhau bod Cymru’n adeiladu ar ei henw da fel cynhyrchydd arbrofol o winoedd o safon uchel. Mae gwindy newydd White Castle Vineyard yn dyst i’r ymroddiad a’r angerdd sy’n gyrru ein diwydiant yn ei flaen. Mae’r garreg filltir hon nid yn unig yn gwella ansawdd gwinoedd Cymreig ond hefyd yn cryfhau ein safle yn y farchnad fyd-eang.”
Ychwanegodd Huw Irranca-Davies, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, “Mae lansio gwindy newydd White Castle Vineyard yn garreg filltir arwyddocaol i ddiwydiant gwin Cymru.
“Mae gennym darged i dyfu’r diwydiant gwin yn sylweddol dros y blynyddoedd i ddod, a gall agor cyfleusterau fel y rhain ond helpu drwy gynyddu ein gallu i brosesu yng Nghymru. Mae ein gwinoedd wedi ennill gwobrau ac yn nodedig, ac mae’r diwydiant hefyd yn chwarae rhan gynyddol bwysig yn yr economi ymwelwyr, gyda llawer o winllannoedd yn dod yn gyrchfannau i dwristiaid ac yn helpu i ddyrchafu enw da Cymru fel cyrchfan flaenllaw ar gyfer bwyd a diod o safon.”
Mae White Castle Vineyard, sydd wedi’i lleoli yn Sir Fynwy, yn enwog am gynhyrchu gwinoedd Cymreig o ansawdd uchel o’i gwinwydd sy’n cael eu trin yn ofalus. Ers ei sefydlu, mae’r winllan wedi derbyn nifer o wobrau am ei gwinoedd coch, gwyn a phefriog, ac wedi sefydlu ei hun fel arweinydd yn niwydiant gwin Cymru sy’n tyfu. Ar hyn o bryd, mae gan White Castle Vineyard 13,500 o winwydd wedi'u plannu, ac maen nhw wedi ychwanegu Chardonnay, sy'n addo cyfleoedd tyfu cyffrous yn y dyfodol agos.