Bydd y Dirprwy Weinidog yn ymuno ag wyth o gwmnïau o Gymru, pob un ohonynt yn arddangos bwyd a diod o Gymru, a dros 25,800 o brynwyr o 150 o wledydd.
Dywedodd:
“Rydym yn gwybod bod safon y bwyd a'r diod yng Nghymru cystal â'r gorau yn y byd, ac mae bod yn bresennol mewn digwyddiadau fel y Global Seafood EXPO yn rhoi llwyfan gwych inni hyrwyddo hyn.
“Mae gan Gymru ystod hynod o gynhyrchwyr bwyd môr arloesol, sy'n enwog yn rhyngwladol, ac sydd â brandiau amlwg ledled y byd oherwydd eu safon uchel a'r dull cynaliadwy o'u cynhrychu. Mae hyn hefyd yn amlwg yn y nifer o gynnyrch o Gymru sydd â statws enw bwyd wedi'i amddiffyn, megis Halen Môn."
Mae bod yn bresennol mewn digwyddiadau ym Mhrydain ac yn rhyngwladol yn rhan o uchelgais hirdymor Llywodraeth Cymru i ddatblygu gwerthiant yn sylweddol a chynyddu cyfran y farchnad trwy ychwanegu gwerth, dod i gysylltiad â marchnadoedd newydd ac adeiladu ar farchnadoedd sy'n bodoli eisoes yn y sector bwyd a diod yng Nghymru, fel rhan o'n Cynllun Gweithredu - Tuag at Dwf Cynaliadwy.
Cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog hefyd rhywfaint o newyddion da yn ddiweddar gan un o'r cwmnïau o Gymru oedd yn bresennol.
Meddai:
“Mae cynaliadwyedd yn bwysig i Gymru ac mae yn gosod y cyd-destun ar gyfer sut yr ydym yn rheoli ein moroedd a'n stoc pysgod. Rwy'n falch bod Bangor Mussel Producers yma heddiw, a oedd, yn 2010, y cyntaf yn y byd i gael achrediad y Marine Stewardship Council am ddatblygu pysgodfa cerrig gleision well.
“Mae cwmni arall oedd gyda ni heddiw, Anglesey Aquaculture, wedi derbyn contract yn ddiweddar i fod yr unig gyflenwr draenogod y môr cyfan ac wedi'u ffiledu yn archfarchnadoedd Waitroes ledled Prydain."
Cafodd Anglesey Aquaculture eu gwobrwyo yn ddiweddar gan y Gymdeithas Cadwraeth Forol am fod â'r lefel uchaf o bysgod oedd wedi'u cynhyrchu'n gynaliadwy. Mae'r contract gyda Waitrose werth oddeutu £35,000 yr wythnos a bydd yn ychwanegol i werthiant presennol Anglesey Aquacultures o fewn Prydain a'r Amerig.