Heddiw, cyhoeddodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, fod Llywodraeth Cymru eisoes yn cydweithio â Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru i lunio cynllun gweithredu newydd i’r Diwydiant.
Gan siarad yng nghyfarfod Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad Cenedlaethol, cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet y bydd y cynllun newydd yn datblygu llwyddiant ‘Tuag at Dwf Cynaliadwy’ sy’n dod i ben ym mis Rhagfyr 2019.
Fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet annog pawb sydd â diddordeb yn nyfodol y sector i gymryd rhan a mynegi’u barn ynghylch sut y dylai’r sector ddatblygu hyd at 2025.
Ers cyflwyno’r cynllun gweithredu gwreiddiol yn 2014, mae gwerth trosiant y sectorau bwyd ac amaeth wedi cynyddu’n sylweddol ac mae lefel allforion wedi cynyddu’n rheolaidd hefyd gan gyrraedd dros hanner biliwn am y tro cyntaf yn 2017.
Mae gan ddiwydiant bwyd a diod Cymru enw da ledled y byd. Enillodd 165 o wobrau Great Taste yn 2017 ac mae ganddo 15 cynnyrch sydd ag enw wedi’i amddiffyn yr UE.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: “Bwyd a Diod yw un o sectorau sylfaenol Cymru ac mae’n bwysicach nag erioed sicrhau bod ein diwydiant yn ddigon cryf a chadarn i oroesi ar ôl inni adael yr UE. Mae’n bwysig hefyd sicrhau bod gan fusnesau’r gallu, yr adnoddau a’r cymorth i allu manteisio ar gyfleoedd i ehangu.
“Dyna pam rydyn ni eisoes wedi dechrau cydweithio â’r Bwrdd i lunio cynllun gweithredu newydd ar gyfer y diwydiant Bwyd a Diod. Hoffwn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn nyfodol y sector i rannu’i farn â ni dros y misoedd nesaf wrth inni ddatblygu’n cynigion ymhellach”.
Dywedodd Andy Richardson, Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru: “Mae’r Bwrdd wedi ymrwymo i gydweithio â busnesau bwyd a diod Cymru, gan ganolbwyntio ar ehangu, arloesi ac ychwanegu gwerth. Rydyn ni am roi hwb newydd i’n gweithgareddau i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn berthnasol a’u bod yn ddigon hyblyg i ymateb i’r heriau a’r cyfleoedd newydd yn y dyfodol. Yn bennaf, hoffem sicrhau bod y sector yn parhau i ehangu a bod safle blaenllaw Cymru fel darparwr bwyd a diod iach, cyffrous a llawn maeth yn cael ei atgyfnerthu".