Mae'r cwmni cawsiau o Geredigion, Caws Teifi Cheese, yn dathlu ar ôl ennill un o'r gwobrau mwyaf adnabyddus y diwydiant bwyd a diod. Neithiwr, yn Llundain, cynhaliwyd gwobrau’r Great Taste, y cyfeirir atynt fel ‘Oscars’ y byd bwyd, a chafodd caws Celtic Promise y cwmni ei goroni â'r Fforc Aur o Gymru.
Ymhlith y 12 o gynhyrchion o Gymru a gafodd y wobr uchaf o dair seren yng ngwobrau Great Taste 2018, dyfarnwyd y Fforc Aur o Gymru i gwmni Caws Teifi Cheese.
Erbyn hyn, Caws Teifi Cheese, sydd wedi bod yn cynhyrchu caws arobryn o laeth amrwd ers dros 30 o flynyddoedd, yw'r cwmni caws artisan hynaf yng Nghymru. Sefydlwyd y cwmni yn 1982 gan y cyd-sylfaenydd John Savage-Onstwedder, a ddaeth i Gymru o'r Iseldiroedd er mwyn gwireddu ei freuddwyd o ffermio mewn modd organig. Aeth ati i adfywio'r traddodiad coll o ddefnyddio llaeth amrwd a chynhwysion lleol i gynhyrchu caws artisan o ansawdd uchel.
Mae Celtic Promise, sef y caws sydd wedi ennill y nifer mwyaf o wobrau ym Mhrydain, yn fath o gaws Caerffili â chrofen wedi'i golchi, sydd â chrofen binc, ychydig yn llaith. Yn gaws meddal, menynaidd, mae'n datblygu arogl ychydig yn finiog wrth iddo aeddfedu, ac mae iddo flas ysgafn, mwyn sy'n gwrthgyferbynnu'n hyfryd â'r grofen. Mae'n ystwyth, yn llyfn, yn sbeislyd ac yn aromatig. Cred rhai mai ‘caws bwrdd’ yw Celtic Promise, ond mae'n gaws da i goginio ag ef hefyd pan fo angen blas cryf, hufennog.
Dywedodd John Savage-Onstwedder:
“Mae ennill tair seren yng ngwobrau Great Taste yn tystio i sgìl ac ymroddiad y tîm cyfan yma yn Caws Teifi Cheese. Mae hefyd yn adlewyrchu ansawdd y llaeth a gynhyrchir yma yng Ngheredigion, ac mae'n rhaid i ni gydnabod Mr a Mrs Williams o Fferm Cilcert, Ffos-y-Ffin, Aberaeron, sy'n cynhyrchu'r llaeth sy'n gwneud ein caws. Mae'r ffaith bod y caws sydd wedi ennill y nifer mwyaf o wobrau ym Mhrydain yn cael ei gynhyrchu yma yng Ngheredigion yn brawf bod llaeth a chaws o Gymru, fel ei gilydd, yn gynhyrchion y gallwn fod yn falch ohonynt”.
Wrth longyfarch Caws Teifi Cheese, dywedodd Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig,
“Llongyfarchiadau i gwmni Caws Teifi Cheese ar ei lwyddiant yng ngwobrau Great Taste. Mae'n galonogol iawn gweld cwmnïau teulu sefydledig yn gwneud cystal ac yn cael eu cydnabod am eu gwaith caled a'u hymroddiad i greu cynnyrch o ansawdd da.
“Mae'r gwobrau yn gyfle gwych i arddangos ansawdd, arloesedd a blas anhygoel gan gwmnïau o Gymru. Dylai'r cwmni fod yn falch iawn, ac estynnaf fy nymuniadau gorau iddo ar gyfer y dyfodol.”
Wedi'i drefnu gan y Guild of Fine Food, gwobrau Great Taste yw'r meincnod cydnabyddedig ar gyfer bwyd a diod gwych, ac fe'u disgrifir fel ‘Oscars’ y byd bwyd.
Cafodd 153 o gynhyrchion o Gymru eu cydnabod yng ngwobrau Great Taste eleni, o gynhyrchwyr artisan annibynnol i ddosbarthwyr mwy o faint. Gyda 110 o gynhyrchion Cymreig yn ennill un seren, 32 yn ennill dwy seren a 12 yn cael eu hystyried yn gymwys i ennill y wobr tair seren.
Mae'r rhestr lawn o enillwyr Great Taste o Gymru i'w gweld yma
I gael rhagor o wybodaeth am Caws Teifi Cheese, ewch i www.teificheese.co.uk