Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd digwyddiad nesaf y Clwb Allforio Bwyd a Diod ar gyfer 2018 yn digwydd ar ddydd Mercher 7 Tachwedd yn lleoliad cynadledda Porth Eirias ym Mae Colwyn rhwng 3 a 6yp.
Bydd y digwyddiad rhyngweithiol, am ddim, hwn yn canolbwyntio ar:
- Cynllunio ar gyfer Brexit: y newyddion diweddaraf, goblygiadau i chi fel allforiwr bwyd a diod ac arweiniad ar beth y dylech chi fod yn ei wneud ar hyn o bryd.
- Sbotolau ar India
- Sicrhau eich Cytundebau Allforio: pan fyddwch yn cwrdd â chwsmer neu ddosbarthwr posib (ar Ymweliad Datblygu Masnach, mewn sioe fasnach, neu mewn digwyddiad cwrdd â’r prynwr), sut ydych chi’n sicrhau eich bod yn cyflwyno’ch cynnyrch mewn ffordd bwerus ar y pryd a sut ydych yn gweithredu’n effeithiol ar ôl dychwelyd i Gymru er mwyn sicrhau’r cytundeb? Byddwn yn trafod rhai o’r heriau ac yn rhannu’r arferion gorau.
- Allforiwr llwyddiannus Cymreig hefyd yn rhannu eu stori allforio.
I gofrestru dilynwch y ddolen yma (Saesneg yn unig)