Mae llu o gwmnïau bwyd a diod o Gymru yn paratoi i fynychu un o brif arddangosfeydd arloesedd bwyd y byd ym Mharis yn ddiweddarach y mis yma (21-25 Hydref 2018).

Y Salon International de l’Alimentation (SIAL), a gynhelir bob dwy flynedd, yw’r arddangosfa fwyaf yn y byd o arloesedd bwyd a bydd yn cynnwys mwy na 7,000 o gwmnïau o 109 o wledydd. Gyda’r bwriad o godi proffil rhyngwladol y diwydiant, bydd dirprwyaeth Bwyd a Diod Cymru o dri ar ddeg o gwmnïau blaenllaw ar draws y sector yn bresennol, a byddant yn archwilio marchnadoedd newydd ac yn datblygu cysylltiadau gyda phrynwyr tramor.

Bydd Ysgrifennydd Cabinet Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths yn bresennol yn y digwyddiad ar ddydd Llun 22 Hydref, lle y bydd yn arwain derbyniad ar stondin Hybu Cig Cymru yn Y Neuadd Gig a bydd cwsmeriaid a phrynwyr presennol ac arfaethedig o bob rhan o’r byd yno.

Wrth gyfeirio at yr ymweliad â Pharis, dywedodd, Lesley Griffiths AC:

“Wrth i Brexit agosáu, mae SIAL Paris yn gyfle arddangos pwysig i’n cwmnïau bwyd a diod. Allwedd llwyddiant yw buddsoddi mewn arloesedd a thechnolegau newydd, ynghyd â dod o hyd i gyfleoedd i dyfu ac adnabod tueddiadau newydd. Mae’n cynnig llwyfan i’n cwmnïau i brofi marchnadoedd newydd, lansio cynhyrchion newydd a chyfarfod â chymeriadau allweddol yn y sector i drafod yr heriau sydd o’n blaenau.”

“Mae gennym awydd pendant i barhau i dyfu’r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, ac mae ein Cynllun Gweithredu Bwyd a Diod yn sail i’n dyheadau a’n bwriad i ddal ati i gefnogi cynhyrchwyr o Gymru, ac mae ymweliadau tramor fel SIAL yn brawf o’n hymrwymiad i annog twf.”

Un cwmni o Gymru sy’n mynd i SIAL ac sydd wedi profi twf sylweddol yn y 12 mis diwethaf yw Nimbus Foods o’r Gogledd, cwmni sy’n arbenigo mewn cynhwysion, addurniadau a thopinau o ansawdd uchel.

Meddai Cyfarwyddwr Gwerthiant Bwyd Nimbus Jack Proctor:

“Mae Nimbus yn un o gynhyrchwyr cynhwysion ac addurniadau mwyaf llwyddiannus a blaengar Ewrop ar gyfer y diwydiannau hufen ia, cynhyrchion llaeth, cynnyrch pob, bisgedi a melysion. Gwelsom dwf amlwg, ac mae ein trosiant wedi cynyddu o £9m ac rydym yn disgwyl mynd heibio £13m eleni. Golygodd hyn hefyd fuddsoddiad o £1.25m yn ein safle yn Nolgellau yn ystod 2018 wrth inni osod llinell gynhyrchu newydd a chapasiti caenu ychwanegol sydd wedi codi allbwn cyffredinol y safle 40%.

“Rydym hefyd wedi gorfod penodi 30+ o weithwyr ychwanegol eleni i ymateb i’r twf hwn. Disgwyliwn i hyn barhau i mewn i 2019/2020 ac rydym eisoes yn cynllunio ar gyfer gosod 4edd llinell gynhyrchu ar gyfer 2019 trwy fuddsoddiad pellach o £1m +.”

Bydd y cynhyrchwyr caws premiwm, Cwmni Caws Eryri, yn arddangos eu harloesiad diweddaraf wrth gynhyrchu caws o safon yn SIAL, ac mae Nature’s Nectar yn cheddar aeddfed gyda rym, ffigys wedi’u marinadu a mêl.

Dywedodd Sue Beck, Cyfarwyddydd Masnachol Cwmni Caws Eryri,

“Mae prynwyr o bedwar ban byd yn dod i SIAL, sy’n golygu fod y cyfleoedd yno i arddangos ein cynhyrchion o flaen cynulleidfa ryngwladol. I gwmnïau fel ninnau, mae’n gyfle hefyd i gyfarfod yn bersonol â rhai o’n cwsmeriaid ar draws y byd a hyrwyddo cynhyrchion hen a newydd ac i amlygu rhagoriaethau sylweddol bwyd a diod o Gymru.”

Mae’r cwmni dŵr potel arobryn o’r Canolbarth, Tŷ Nant Spring Water Ltd, yn frand adnabyddus ledled byd, ac mae’r Rheolwr Cyffredinol Nick Taylor yn gwybod am werth mynd i ddigwyddiadau masnach.

“Mae dyfroedd mwyn a ffynnon naturiol Tŷ Nant yn cael eu stocio yn llawer o westai a bwytai gorau’r byd ar hyn o bryd, ac mae ganddo enw da rhyngwladol am ddyluniad arobryn ei boteli a’i flas pur, glân adfywiol. Er hynny, rydym yn dal i gredu fod gwerth mawr mewn mynd i ddigwyddiadau masnach fel SIAL.

“Roeddem yn SIAL ddwy flynedd yn ôl ac roedd prynwyr o bob rhan o’r byd yn bresennol, oedd yn ei gwneud yn bosib inni ychwanegu ymhellach at ein busnes rhyngwladol a chynnig cyfle inni gyfarfod yn bersonol â rhai o’n cwsmeriaid rhyngwladol, tra’n hyrwyddo ansawdd cynhyrchion sy’n deillio o Gymru.”

Mae cwmnïau o Gymru yn gobeithio adeiladu ar lwyddiant SIAL 2016 pan lwyddodd cynhyrchwyr i sicrhau gwerthiannau o £276,000.

Bydd tri ar ddeg o fusnesau o Gymru yn bresennol eleni o dan faner Cymru/Wales, yn cyflwyno cynhyrchion yn amrywio o gynnyrch llaeth, nwyddau pob, dŵr i halen môr a grawnfwydydd.

Cynhelir SIAL ym Mharis, Ffrainc rhwng 21-25 Hydref 2018.

Share this page

Print this page