Mae cwmnïau bwyd a diod o Gymru yn paratoi i fynychu un o ddigwyddiadau masnach bwyd mwyaf y byd yn Dubai, Yr Emiraethau Arabaidd Unedig rhwng 17-21 Chwefror. Bydd Gulfood, a gynhelir yng Nghanolfan Masnach Byd Dubai, yn denu dros 98,000 o ymwelwyr dros bum niwrnod, gan groesawu mwy na 5,000 o arddangoswyr o 193 gwlad yn arddangos cynhyrchion ar draws 8 o sectorau marchnad cynradd.
Gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, bydd 14 cwmni ar draws y sector bwyd a diod yng Nghymru yn bresennol o dan faner Cymru/Wales, pob un ohonynt yn gobeithio hyrwyddo eu cynhyrchion a chynyddu eu marchnadoedd allforio.
Y cwmnïau o Gymru fydd yn arddangos yw Llaeth y Llan/Village Dairy, Rachel’s, Dairy Partners Ltd, Daioni Organic, Fayrefield Foods Ltd, Calon Wen Organic Dairy, The Lobster Pot, Dŵr Ffynnon Tŷ Nant, Euro Foods Group UK, Prima Foods UK Ltd. Yn ogystal â’r rhain, bydd cynrychiolwyr o Castle Dairies Ltd, Hybu Cig Cymru/Meat Promotions Wales, Dunbia a Village Bakery Ltd hefyd yn rhan o’r Ymweliad Allforio.
Mae Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, yn credu ei bod yn hollbwysig fod y diwydiant yn manteisio ar gyfleoedd o’r fath i barhau i ddatblygu marchnadoedd byd-eang,
“Mae ein sector bwyd a diod yn un y mae gennym bob hawl i fod yn falch ohono, ac mae angen inni sicrhau bod pawb yn gwybod amdano. Mae’n bwysig ein bod yn parhau i fod yn weladwy iawn a’n bod yn arddangos ein cynhyrchion arloesol mewn digwyddiadau masnach bydeang allweddol.
“Rydym wedi ymrwymo i gefnogi busnesau o Gymru i gael presenoldeb mewn digwyddiadau fel Gulfood, gan eu bod yn hollbwysig er mwyn creu llwyfan cryf i’n hunain i werthu cynnyrch o Gymru ledled y byd. Wrth i Brexit agosáu mae’n bwysicach nac erioed ein bod yn dathlu cynnyrch o Gymru a chefnogi busnesau bwyd a diod ymhob ffordd y gallwn. Mae angen inni eu helpu i adeiladu perthnasoedd gyda busnesau yn eu sector fel y gallant ddysgu am dechnolegau newydd, archwilio marchnadoedd tramor a bod yn gystadleuol yn eu diwydiant.”
Bu’r cynhyrchwyr iogwrt o’r Gogledd Llaeth Y Llan yn brysur yn 2018 gan ryddhau pedwar blas i ychwanegu at y dewis helaeth sydd ganddynt yn barod, gan roi cynnig arbennig i’w cwsmeriaid adeg y Nadolig trwy gynhyrchu nifer cyfyngedig o’r blas Pwdin Nadolig, danteithfwyd moethus dros gyfnod yr ŵyl. Erbyn hyn, yn 2019, yn dilyn llwyddiant eu cyfres nifer cyfyngedig o gynnyrch moethus, gwnaeth Llaeth Y Llan adduned blwyddyn newydd i ddal ati i arloesi a pharhau i gynhyrchu blasau newydd fydd yn falm i enaid eu cefnogwyr selog a brwd.
Ym mis Ionawr lansiodd Llaeth Y Llan flas newydd ‘Cherry Bakewell’ i ychwanegu at y casgliad craidd o gynhyrchion. Mae gan y blas moethus nifer cyfyngedig ei ddyluniad ei hun a ysbrydolwyd gan ddyluniadau tapestri traddodiadol Cymreig ynghyd â chynllun lliw i gynrychioli’r blas.
Mae 2019 yn addo bod yn flwyddyn fawr i Llaeth Y Llan gan fod ehangu ar y gorwel i ymateb i ofynion eu brand sy’n tyfu a chontractau newydd maent wedi’u sicrhau. “Mae’r twf hwn yn llesol iawn i’n cwmni, gan ei fod yn ein galluogi i wella’n barhaus fel cynhyrchwyr iogwrt Cymreig o ansawdd uchel. Rydym nid yn unig yn defnyddio ein sgiliau a’n profiadau i ddatblygu blasau newydd i’n cwsmeriaid, ond rydym hefyd yn edrych ar wella ein dewis presennol” esboniodd un o gyfarwyddwyr y cwmni Gruff Roberts, a chan fod pecynnu a lefelau siwgr yn bynciau dadleuol, mae’r cwmni hefyd yn bwriadu defnyddio llai o siwgr yn eu cynhyrchion yn ogystal â gwneud eu pecynnu mor ailgylchadwy ag y bo modd.
Cwmni arall sy’n gobeithio gwneud argraff ac a fydd yn cyflwyno eu cyfres Te Prynhawn yn Gulfood yw Prima Foods. Mae eu cyfres glasurol o de prynhawn Prydeinig di-glwten yn cynnwys cymysgeddau a nwyddau parod i’w pobi, yn cynnwys Sgoniau, Crwst Choux a Brownis Siocled Belgaidd.
Meddai Massimo Bishop-Scott, Pennaeth Arloesedd yn Prima Foods,
“Cafwyd rhywfaint o adfywiad yn y te prynhawn ac mae’n arlwy arbennig o boblogaidd ar y fwydlen. Maent yn denu cwsmeriaid y tu allan i’r cyfnodau bwyta amser cinio/pryd hwyr arferol, ac mae hyn yn cynnig incwm ychwanegol i fwytai a gwestai.
Gwelsom fod bwlch i gynhyrchion di-glwten blasus ar fwydlen y te prynhawn ac aethom ati i wneud cynhyrchion oedd yn blasu llawn cystal â’r cynnyrch cyfatebol oedd yn cynnwys glwten. Mae nifer o’n cwsmeriaid yng ngwledydd Prydain wedi cael eu plesio gymaint gan flas a gweadwaith ein cynhyrchion fel eu bod wedi newid eu dewis presennol o gynhyrchion glwten a chynnig ein cyfres Chefs Promise ni yn eu lle.”
Cwmni sy’n gobeithio adeiladu ar ei gysylltiadau presennol gyda’r UAE yw’r cynhyrchwyr llaeth organig blaenllaw Daioni Organic. Ym mis Mehefin 2018 dechreuasant weithio gyda Truebell, eu hunig ddosbarthwyr i’r UAE ac maent wedi lansio yn Carrefour a Choithrams a bydd manwerthwyr eraill i ddilyn trwy gydol 2019.
Yn 2018 lansiodd Daioni goffi latte rhewoer y byddant yn ei gyflwyno yn Gulfood am y tro cyntaf eleni.
Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredol yn Daioni Organic, Daniel Jones,
“Gwelsom dwf sylweddol yn y marchnadoedd tramor dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, yn enwedig felly o’r Dwyrain Canol ac Asia. Credwn fod yr ehangu hwn, ynghyd â’n presenoldeb yn Gulfood, yn gyfle gwych i gael troedle mewn marchnadoedd sy’n tyfu ac i fuddsoddi yn y perthnasoedd sydd gennym yn barod.”
Bydd Gulfood, sydd erbyn hyn ar ei 24ain blwyddyn ac yn para am bedwar diwrnod, yn gyfle i frandiau rhyngwladol arddangos eu cynhyrchion a gwasanaethau bwyd a diod diweddaraf. Bydd ymwelwyr yn gallu cyfarfod â chyflenwyr, blasu bwydydd newydd a dysgu am y tueddiadau diweddaraf ym myd bwyd. Bydd Cynhadledd Gulfood hefyd yn cynnwys nifer o arweinwyr y diwydiant yn rhoi sgyrsiau ar bopeth o iechyd y cyhoedd i’r dechnoleg gweithgynhyrchu bwyd ddiweddaraf.
Galwch heibio stondinau Cymru/Wales yn y Neuadd Laeth B-2-3; y Neuadd Ryngwladol S-N22 & Neuadd Gig B3-2 yn Gulfood 2019.
.