Mae Great Taste, gwobrau bwyd a diod mwyaf nodedig y byd, wedi cyhoeddi ei sêr ar gyfer 2019, ac mae llu o gynhyrchion bwyd a diod Cymru blasus wedi derbyn sêl bendith euraid.

Mae 174 o gynnyrch eithriadol Cymreig yn amrywio o gynhyrchwyr arbenigol annibynnol bach i ddosbarthwyr ar raddfa fawr wedi cael eu hystyried yn deilwng o’r wobr bwysig hon, gyda 128 o gynhyrchion yn cael 1-seren, 36 yn derbyn 2-seren a 10 yn ennill y gymeradwyaeth eithaf gyda 3-seren.

Bob blwyddyn mae panel o feirniaid o fri sy'n cynnwys y cogyddion gorau, awduron coginio, beirniaid bwyd, perchnogion bwytai a manwerthwyr bwyd da yn ymgasglu i flasu bwyd a diod gorau’r genedl ac eleni, daeth cryn lwyddiant igynhyrchwyr o Gymru. Mae'r broses yn cynnwys beirniaid yn blasu’n ddall mewn timau o dri neu bedwar, gan sicrhau eu bod yn "cael cydbwysedd o arbenigedd, oedran a rhyw" cyn dod at benderfyniad terfynol.

Y deg cynnyrch o Gymru sydd eleni wedi cael eu cydnabod i gyda statws 3-seren  am "fwydydd eithriadol o flasus" yw:

  • Carmarthenshire Dairy Products – COPA Blue Cheese
  • Cold Black Label – Pirate Bay
  • Conti’s Ice Cream – Welsh Whiskey
  • Da Mhile Distillery – Da Mhile Apple Brandy
  • Garej Spirits Co Ltd – Jin Talog – Organic London Dry Gin
  • New Quay Honey Farm / Afon Mȇl – Afon Mȇl Heather Mead
  • Seidr y Mynydd – Seidr y Mynydd –Keeved Bottle – Conditioned Clear
  • Slade Farm Organics – Shoulder of Pork on the bone
  • Halen Môn – Pure sea salt smoked over oak
  • Halen Môn – Smoky Dijon Mustard

Mae nifer y cwmnïau o Gymru sy’n derbyn gwobr Great Taste 2019 yn fwy o gymharu â'r llynedd gan brofi bod y diwydiant bwyd a diod yn ffynnu yng Nghymru.

Wrth longyfarch y cynhyrchwyr buddugol, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

"Rwy'n falch iawn o weld cymaint o'n cynhyrchwyr bwyd o Gymru yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau Great Taste 2019. Hoffwn gymryd y cyfle hwn i longyfarch yr holl enillwyr o Gymru ar y llwyddiant hwn.

"Mae’r beirniaid o'r Guild of Fine Foods wedi nodi cynnyrch o'r safon uchaf o bob rhan o Gymru, gan adlewyrchu gwaith caled a chreadigrwydd sy'n nodweddiadol o'n diwydiant bwyd o’r radd flaenaf.”

Mae Great Taste, a drefnir gan y Guild of Fine Food, yn cael ei gydnabod yn eang fel y cynllun achredu bwyd mwyaf uchel ei barch ar gyfer cynhyrchwyr bwyd crefftus ac arbenigol, ac mae'n cael ei ddisgrifio fel 'Oscars' y byd bwyd.

Dywedodd John Farrand, rheolwr gyfarwyddwr y Guild of Fine Food "Mae safon y ceisiadau o Gymru eleni wedi bod yn rhagorol. Mae Great Taste yn cael ei gydnabod fel bathodyn o ragoriaeth ymhlith defnyddwyr a manwerthwyr fel ei gilydd. Mae'n gyflawniad gwych ac yn arwydd pendant o ansawdd a rhagoriaeth, sy'n adlewyrchu ymrwymiad cynyddol gan gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn y diwydiant cystadleuol hwn."

Mae pob un o'r deg cynnyrch 3-seren o Gymru nawr yn brwydro am y teitl rhanbarthol 'Golden Fork from Wales' a gaiff ei gyhoeddi ddydd Sul 1 Medi yn Llundain, gaiff ei ddilyn gan y brif wobrsef y Great Taste Supreme Champion 2019.

Mae rhestr lawn o enillwyr eleni i'w gweld yn www.greattasteawards.co.uk

Share this page

Print this page