Mae'r sector wedi cofnodi bod ganddo drosiant o £7.47 biliwn, gan ragori ar darged Llywodraeth Cymru o £7 biliwn erbyn 2020.
I nodi llwyddiant y diwydiant, gwnaeth y Gweinidog ymweld Princes Group Soft Drinks yng Nghaerdydd a'r ddistyllfa jin crefft newydd yng Nghastell Hensol. Mae'r ddau gwmni wedi cael cyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru i ehangu eu busnesau ac yn hefyd yn enghreifftiau o’r ‘Economi Sylfaenol’ yn darparu swyddi a seilwaith hanfodol i’r economi leol.
Yn croesawi y ffigurau, dwedodd Lesley Griffiths:
Dw i am ganmol y diwydiant am gyrraedd ein targed o drosiant o £7 biliwn ar gyfer y sector. Mae hynny'n ffrwyth cryn ymdrech gan y diwydiant ar adeg o ansicrwydd.
Rydym yn cynhyrchu amrywiaeth eang o gynnyrch deniadol, o ansawdd da, ac rydym yn cael ein cydnabod fwyfwy am fod yn wlad fach sy'n gwneud pethau gwych sy'n tystio i'n gwerthoedd. Mae Princes Group Soft Drinks a Distyllfa Jin Castell Hensol yn enghreifftiau gwych o hynny.
Ychwanegodd Andy Richardson, Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru:
Mae'r sector wedi sicrhau twf o 30% ers 2014. Mae hyn yn ganlyniad o’r gydweithrediad go iawn rhwng Llywodraeth Cymru a diwydiant ac mae'n dangos ein bod ar y trywydd iawn i lwyddiant.
Mae Castell Hensol, sydd bellach yn rhan o Westy'r Fro, wedi cael cymorth oddi wrth Lywodraeth Cymru drwy'i Chynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth i droi islawr y castell yn ddistyllfa gwirodydd crefft, yn warws bond, yn ysgol jin, ac yn fan sy'n cynnig profiad i ymwelwyr. Mae'n rhan o gynllun gwerth £7 miliwn i sicrhau bod y castell yn cael ei ddefnyddio unwaith yn rhagor.
Bydd y prosiect yn creu 120 o swyddi newydd dros y tair blynedd nesaf.
Bydd ymwelwyr yn gallu distyllu potel arbennig o jin a fydd yn cael ei gwneud at eu dant penodol nhw. Byddant hefyd yn gallu mynd ar daith o amgylch y ddistyllfa, dysgu am hanes jin a Chastell Hensol, darganfod pa gynhwysion sydd mewn mathau gwahanol o jin a mwynhau sesiynau blasu jin a choctels.
Mae'r diwydiant diodydd yn gwneud cyfraniad sylweddol at economi Cymru. Mae ganddo drosiant o £800 miliwn, mae ei werth o ran gwerthiant manwerthu yn fwy na £950 miliwn ac mae'n cyflogi 1,200 o bobl.
Sefydlwyd Princes Group Soft Drinks yn y 1990au ac mae'n dosbarthu'i amryfal suddion i uwchfarchnadoedd mawr ledled y DU. Mae'r cwmni wedi cael grant i ddatblygu'r dechnoleg ar ei safle ar Ystad Ddiwydiannol Ffordd Portmanmoor yng Nghaerdydd. Gyda chyfanswm buddsoddiad o oddeutu £ 60m, bydd y prosiect yn trawsnewid y safle i fod yn Ganolfan Ragoriaeth Diodydd Meddal.
Dywedodd Andy Hargraves, Cyfarwyddwr Grŵp - Diodydd yn Grwp Prince:
Bydd y prosiect yn cynyddu galluoedd‘ Princes ac yn caniatáu inni weithio gyda chwsmeriaid yn fwy effeithiol a chynnig gallu prosesu cynnyrch newydd y tu hwnt i sudd. Y buddsoddiad hwn yw buddsoddiad mwyaf erioed y Tywysog mewn Diodydd Meddal, ac rydym yn falch o fod yn ymrwymo i'n llwyddiant hirdymor yng Nghaerdydd.