Mae cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru wedi derbyn gwybodaeth arbenigol uniongyrchol ynglŷn â sut i addasu a llywio eu mentrau trwy’r argyfwng COVID-19.
Clywodd mynychwyr gweminarau 'TUCK IN - Marchnata mewn Argyfwng' fod rhoi mwy o bwyslais ar farchnata - a'r gallu i addasu i newid - yn allweddol er mwyn sichrau llwyddiant busnesau bwyd a diod at y dyfodol.
Trefnwyd dosbarthiadau meistr TUCK IN gan Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru a'r Clwstwr Bwyd Da gan ddenu mwy na 250 o fynychwyr o ddiwydiant bwyd a diod Cymru.
Roedd y sesiynau yn cynnig cyfle i gynhyrchwyr ledled Cymru dderbyn cipolwg ar farchnata gan ystod o arbenigwyr y diwydiant a chlywed sut mae COVID-19 wedi effeithio ar eu busnesau a'u brandiau.
Rhannodd y siaradwyr y gwersi a ddysgwyd ganddynt o ganlyniad i weithredu mewn argyfwng - y da a drwg. Sut yr oeddent wedi addasu eu gweithgareddau a'u llwybrau i'r farchnad, a pha newidiadau yr oeddent wedi'u cyflwyno er mwyn canfod ffordd drwy’r cyfnod heriol hwn.
Meistr y Seremonïau oedd Jim Cregan, sylfaenydd cwmni Jimmy's Iced Coffee.
Dywedodd, “Mae wedi bod yn bleser mawr i gael fy ngwahodd i gyflwyno’r gyfres TUCK IN ar-lein. Roedd y trefnwyr mor barod i helpu sicrhau bod y digwyddiadau’n rhedeg yn llyfn, a bu’r siaradwyr yn rhoi trosolwg gwych o’u busnesau eu hunain a sut maen nhw wedi bod yn marchnata yn ystod yr argyfwng presennol.
“Roedd yn braf iawn gwybod bod yr holl fynychwyr yn bresennol trwy gydol y ddau ddigwyddiad, gan roi hyder i ni fod ansawdd y cynnwys yn berthnasol.”
Ymhlith y prif siaradwyr dros y ddau sesiwn oedd Cathy Capelin o Kantar Worldpanel, Scott James, sylfaenydd a chyfarwyddwr Coaltown Coffee, a Pip Murry, sylfaenydd Pip & Nut.
Yn ymuno â nhw oeddSophie Higgins, pennaeth marchnata HIPPEAS Snacks, cyfarwyddwr masnachol Abergavenny Fine Foods, Bryson Craske, a Jesse Wilson, cyd-sylfaenydd bragdy crefft, Jubel.
Yn ystod y sesiynau, cynhaliwyd polau byw gyda’r mynychwyr yn cofrestru eu hymatebion i gwestiynau’n ymwneud ag arferion marchnata a’r newidiadau a gyflwynwyd i’w busnesau o ganlyniad i’r pandemig.
Nododd 94 y cant o’r mynychwyr bod pwysigrwydd marchnata wedi newid o’i gymharu â’r cyfnod cyn COVID-19.
Dywedodd tua 66 y cant eu bod yn newid eu gweithgareddau datblygu cynnyrch newydd i fanteisio ar gyfleoedd newydd o ganlyniad I COVID-19, ac roedd 46 y cant yn dweud bod TUCK IN wedi eu hysbrydoli i fuddsoddi mwy mewn marchnata.
Dywedodd Paul Withington, Cyfarwyddwr CK Food and Drinks Ltd o Gonwy, fod TUCK IN wedi bod yn ddefnyddiol ar gyfer cynllunio, a bod ymuno â’r gweminarau a chymryd rhan wedi bod yn wych.
“Ar gyfer busnes bach fel ein busnes ni, mae'n wych cael yr egni a'r adborth cadarnhaol gan fusnesau eraill sy'n addasu yn ystod y cyfyngiadau symud. Yn enwedig gan nad ydyn ni'n mynd allan llawer ar hyn o bryd! ”
Mae’r Clwstwr Bwyd Da yn rhaglen ddatblygu a arweinir gan fusnesau, sy’n cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru a’i hwyluso gan Cywain, un o brosiectau Menter a Busnes.
Cynlluniwyd y digwyddiad yn wreiddiol fel digwyddiad agored, ond pan gyflwynwyd cyfyngiadau COVID-19, addaswyd TUCK IN yn gyflym i’w gynnal ar-lein.
Dywedodd Alun Jones , Prif Weithredwr Menter a Busnes, “Roedd hwn yn ddigwyddiad ysbrydoledig, a amlygodd bwysigrwydd cadw agwedd gadarnhaol yn ystod cyfnodau heriol.
“Roedd y siaradwyr yn angerddol am eu busnesau, a arweiniodd yn ei dro at syniadau ac atebion newydd i'w helpu i oresgyn yr anawsterau yn sgil COVID-19.
Rwy'n siŵr y bydd eu brwdfrydedd yn ysbrydoli'r rhai a oedd yn bresennol i weithredu yn eu busnesau."
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, “Mae TUCK IN wedi rhoi cyfle i fusnesau Bwyd a Diod Cymru glywed yn uniongyrchol sut mae eu cymheiriaid wedi delio â sefyllfaoedd heriol.
“Gobeithio bod y digwyddiad wedi rhoi hyder o’r newydd iddynt ynglŷn â’r dyfodol, ynghyd â sicrwydd nad ydynt ar eu pennau eu hunain yn ystod yr amseroedd heriol hyn. Maent hefyd yn gwybod bod gwybodaeth arbenigol ar gael i'w helpu i ddatblygu eu mentrau."