Mae Tywysog Cymru wedi recordio neges fideo arbennig i gefnogi cais Cymru i groesawu cynhadledd ac arddangosfa fawr Worldchefs yn 2024.
Anfonwyd y neges ymlaen gan Gymdeithas Goginio Cymru (CAW) at lywyddion Worldchefs ym mhob un o'r gwledydd a fydd yn pleidleisio i benderfynu ai yng Nghymru ynteu yn Singapôr y cynhelir yr ŵyl goginio fyd-eang y disgwylir iddi ddenu 1,000 o gogyddion a hyd at 10,000 o ymwelwyr. Cewch weld y neges yma https://www.culinaryassociation.wales/congress-2024/ neu yma https://www.facebook.com/CulinaryAssociationofWales.CymdeithasCoginiolCymru/videos/279241253160224
Mae Cymru eisoes wedi ennill y bleidlais yn erbyn Gwlad Pwyl a’r Iseldiroedd yn y rownd gyntaf ac yn erbyn Rwsia yn yr ail rownd a bydd yn cynrychioli Ewrop yn y bleidlais derfynol ar 15 Awst.
Mae CAW wedi creu ‘Tîm Cymru’ ar gyfer yr ymgyrch i ddenu cynhadledd ac arddangosfa Worldchefs gyda’r bwriad o’i chynnal yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICC Cymru), Casnewydd ym mis Gorffennaf 2024. Ei phartneriaid yw ICC Cymru, Gwesty Hamdden y Celtic Manor a Llywodraeth Cymru.
Yn ei neges, dywed Tywysog Cymru ei fod yn Noddwr y Gymdeithas ers dros 20 mlynedd a’i fod yn dymuno “pob llwyddiant posibl” i’r cais.
“Dros y blynyddoedd, rwy wedi bod yn llawn edmygedd wrth weld y sector bwyd a choginio yng Nghymru yn mynd o nerth i nerth, gan gynhyrchu doniau, swyddi, ffyniant ac, wrth gwrs, fel y gwn o brofiad personol, y bwydydd mwyaf blasus y gallwch eu dychmygu,” meddai.
“Dyna pam rwy’n arbennig o falch o wybod bod y Gymdeithas Goginio wedi llwyddo i’r fath raddau i gyflwyno rhyfeddodau bwydydd Cymru, a sgiliau’r cogyddion, i’r byd mawr.
“Mae cogyddion Cymru’n arbennig o ffodus bod ganddynt gyfoeth naturiol dihafal wrth law, gyda physgod ffres, cigoedd cartref, cawsiau a chynnyrch llaeth o’r safon uchaf, dŵr ffynnon, gwinoedd a gwirodydd, a llawer ohonynt wedi ennill gwobrau rhyngwladol. Mae gan y Dywysogaeth hon lawer iawn i’w gynnig.
“Os bydd eich cais yn llwyddiannus a prin bod angen imi ddweud fy mod yn mawr obeithio y bydd, gwn y caiff y sawl fydd yn ddigon ffodus i ddod i'r achlysur gyfle i brofi arbenigedd cogyddion gorau'r byd ac i gael profiad o wlad sy'n enwog am ei harddwch, ei diwylliant a'i thraddodiad o letygarwch.
“Mae mynyddoedd a chymoedd Cymru yn fwy na thirweddau lle bu cenedlaethau o deuluoedd gweithgar yn ffermio gan gynhyrchu Cig Oen a Chig Eidion byd-enwog Cymru, maent hefyd yn rhai o'r lleoedd prydferthaf ar y ddaear.
“Bydd unrhyw un a gaiff y fraint o ymweld yn cael gwledd mewn mwy nag un ystyr. Wrth i chi symud ymlaen â’r prosiect hwn sy’n bwysig iawn ac a allai ddod â budd mawr i Gymru a phleser mawr i’r rhai fydd yn cymryd rhan, byddaf gyda chi yn yr ysbryd ac yn dymuno’n dda i chi.”
Mae’n cloi ei neges trwy gyfeirio at y Gymraeg fel iaith y nefoedd ac un arall o’n trysorau mawr ac yn dweud yn Gymraeg, "Pob llwyddiant i chi gyd".
Dywedodd llywydd CAW, Arwyn Watkins, OBE, na allai orbwysleisio arwyddocâd neges y tywysog, gan ei fod yn adnabyddus ym mhedwar ban byd.
“Mae’r neges fideo gan ein Noddwr, Tywysog Cymru, yn hwb anferth i'n hymgyrch a ninnau'n paratoi i ofyn am gefnogaeth llywyddion cenedlaethol Worldchefs dros y byd i gyd,” meddai.
“Gwyddom fod gennym dasg aruthrol i guro Singapôr yn y bleidlais derfynol ond byddwn yn gwneud ein gorau i ddod â’r achlysur enfawr hwn i Gymru.
“Os enillwn y bleidlais derfynol, bydd pawb yn siarad am gynhadledd Worldchefs yng Nghymru am y pedair blynedd nesaf gan y bydd y byd coginio yn dod i Gymru yn 2024.
“Nid ar chwarae bach y llwyddwyd i gael cefnogaeth llywyddion Ewrop er mwyn cyrraedd mor bell â hyn. Buom yn agored, yn dryloyw ac yn groesawgar iawn ac mae gan Gymru’r fantais o fod wedi profi y gallwn gynnal digwyddiadau Worldchefs.”
Yn 2017, croesawyd cynhadledd lwyddiannus Worldchefs Ewrop i Gymru ac yn yr haf y llynedd cynhaliwyd cyfarfod bwrdd Worldchefs yma. Yn y Celtic Manor y cynhaliwyd y ddau achlysur.
Dywedodd prif weithredwr ICC Cymru a Gwesty Hamdden y Celtic Manor, Ian Edwards: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Dywysog Cymru am anfon neges mor gefnogol i hybu ein cais i ddod â Chynhadledd ac Arddangosfa Worldchefs i Gymru yn 2024.
“Mae ein hathroniaeth am goginio’n bwysig iawn i ni yn ICC Cymru a byddai croesawu’r achlysur mawreddeg hwn yn gyfle gwych i arddangos cyfoeth cynnyrch Cymru a’n diwydiant bwyd a diod, sydd ar gynnydd, i gynulleidfa ryngwladol.”
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Er bod y pandemig yn golygu bod llawer o ddigwyddiadau ar draws y byd wedi’u canslo, rydym yn dal i edrych ymlaen at ddigwyddiadau a all ddod i Gymru yn y dyfodol. Dyna pam rwy’n dymuno’n dda i Gymru wrth i ni nesáu at y bleidlais derfynol i benderfynu pwy fydd yn croesawu gŵyl fawr Worldchefs yn 2024.”