Mae bwyd môr o Orllewin Cymru yn cael ei weini yn Nwyrain Cymru diolch i bartneriaeth a ffurfiwyd rhwng dau fusnes bwyd yn ddiweddar.
Gan weithio gyda’i gilydd, mae’r cwmni cyfanwerthu i fwytai, sef Vin Sullivan Foods Ltd o Dorfaen, a’r busnes bwyd môr, Cardigan Bay Fish o Sir Benfro, wedi llwyddo i roi hwb i’w busnesau drwy greu llu o gwsmeriaid newydd.
Gyda chymorth Clwstwr Bwyd Môr Cymru, mae'r ddwy fenter bellach yn darparu bwyd môr i gwsmeriaid ledled de ddwyrain Cymru.
Mae Clwstwr Bwyd Môr Cymru yn brosiect sy’n cael ei arwain gan Cywain sy'n annog ac yn hwyluso cydweithio ymysg busnesau ac unigolion yn y sector bwyd môr.
Yn ôl Owen Haines, Rheolwr Clwstwr Bwyd Môr (De Cymru), "Mae cydweithio yn ganolog i waith y Clwstwr Bwyd Môr, a gobeithiwn y bydd mwy o fentrau pysgota a bwyd môr yn dod at ei gilydd i greu marchnadoedd newydd, cynaliadwy ar gyfer eu cynnyrch.
"Rwy'n falch iawn bod Vin Sullivan a Cardigan Bay Fish wedi gallu manteisio ar sylfaen newydd o gwsmeriaid sy'n awyddus i brynu bwyd môr Cymru drwy gydweithio.
"Mae dod at ei gilydd i greu cyfleoedd gwerthu newydd yn amlwg yn dda ar gyfer proffil Bwyd Môr Cymru a'r rhai y mae eu bywoliaeth yn dibynnu ar farchnad barod ar gyfer eu cynnyrch.
"Mae'r chwe mis diwethaf wedi bod yn arbennig o anodd a heriol i'r diwydiant pysgota, ac fel Clwstwr, rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda llawer o fusnesau i ddod o hyd i ffyrdd o liniaru’r effeithiau heriol ar y farchnad a grëwyd gan Covid-19."
Mae rhan o'r gwaith i hyrwyddo Bwyd Môr Cymru yn cynnwys creu arwyddion magnetig 'Bwyd Môr Cymru a Mwy i’r Drws' y gellir eu harddangos ar gerbydau dosbarthu.
Mae'r dyluniad trawiadol yn amlygu negeseuon #BwydMôrCymru a #CefnogiLleolCefnogiCymru sy’n cael eu hybu gan Cywain, yn ogystal â'r prosiect 'Porth i’r Plât' - a lansiwyd gan Menter a Busnes ym mis Chwefror - i greu hunaniaeth unigryw ar gyfer cynhyrchion bwyd môr o Gymru.
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, "Trwy gydweithio, mae Vin Sullivan Foods a Cardigan Bay Fish wedi llwyddo i greu marchnadoedd newydd ar gyfer y ddau fusnes.
"Dros y misoedd diwethaf rydym wedi gweld pobl yn prynu mwy a mwy o gynnyrch lleol, gyda mentrau arloesol a chydweithredol o'r math hwn yn creu mwy o gyfleoedd i'r cyhoedd brynu a mwynhau amrywiaeth o gynnyrch gwych, ffres o Gymru. Mae hyn nid yn unig yn hwb i economïau lleol ond hefyd yn cefnogi ein huchelgais ar gyfer Cymru fwy gwyrdd gyda chadwyni cyflenwi byrrach a moroedd iachach. Gobeithio y bydd mwy o bobl ledled Cymru yn chwilio am y mentrau hyn ac yn eu cefnogi yn ogystal â’r busnesau bwyd eraill gwych sydd ar gael yng Nghymru.”
VIN SULLIVAN FOODS LTD
Mae Vin Sullivan Foods Ltd, cwmni sy’n cyfanwerthu cynnyrch i fwytai, wedi troi at gydweithio er mwyn gallu goroesi argyfwng Covid-19.
Wrth wneud hynny, mae wedi llwyddo i ddod â bwyd môr Cymru i gwsmeriaid newydd yn Ne-ddwyrain Cymru, ac wedi creu alfa ychwanegol i bysgotwyr Cymru.
Mae'r busnes ym Mlaenafon wedi bod yn gwasanaethu'r sector lletygarwch gan werthu amrywiaeth eang o fwyd a diod ers 1960. Fodd bynnag, pan ddaeth y cyfnod clo i rym ym mis Mawrth, gwelodd y cwmni ddirywiad sylweddol yn ei archebion.
"Diflannodd 99 y cant o'n cwsmeriaid dros nos," meddai'r rheolwr cyffredinol, Chris Parker. Caeodd y bwytai, ynghyd â’r marchnadoedd pysgod lleol."
Mae Vin Sullivan yn adnabyddus am ansawdd ei fwyd môr, ac roedd y cwmni'n un o'r cyfanwerthwyr mewndirol cyntaf i ennill 'Gwobr Proseswyr Pysgod Môr'.
Felly roedd yn naturiol i’r cwmni ddechrau meddwl sut y gellir sicrhau bod bwyd môr o Gymru’n dal i fod ar gael ar gyfer cwsmeriaid.
Fel un o'r bobl gyntaf yn y DU i ennill statws Master Fishmonger, roedd Chris hefyd yn awyddus i wneud rhywbeth i helpu pysgotwyr Cymru a oedd yn ei chael yn anodd llenwi'r bwlch a adawyd gan gwymp eu marchnadoedd allforio.
Meddai Chris, "Y syniad oedd helpu cynifer o bysgotwyr â phosibl, ac rydym wedi bod yn gweithio ar syniadau gydag Owen yn y Clwstwr Bwyd Môr. Mae'r Clwstwr hefyd wedi rhoi deunydd pacio cychwynnol ac arwyddion Bwyd Môr Cymru i ni ar gyfer ein faniau dosbarthu.
"Roedd y gwasanaeth danfon i’r cartref yn llwyddiannus iawn, a gyda bwytai’n ail-agor, rydym ni bellach yn gwerthu teirgwaith yn fwy o gimychiaid a chrancod o Gymru ag yr oeddem yn eu gwerthu o’r blaen.
"Rydym wedi bod yn gweithio gyda Cardigan Bay Fish i greu'r cyfle hwn, a hoffem ei ymestyn a gweithio gyda mwy o bysgotwyr Cymru."
Mae Chris wedi creu siop ar-lein – The Fish Shack - ac mae archebion hefyd wedi dod i mewn drwy gyfryngau cymdeithasol, e-bost a ffôn.
Drwy fan The Fish Shack, mae Chris a'i dîm bob amser wedi darparu gwasanaeth gwerthfawr i lawer o bobl oedrannus a phobl sydd wedi ymddeol drwy'r marchnadoedd bwyd wythnosol lleol yn Ne-ddwyrain Cymru megis y Fenni, Pont-y-pŵl, a Chasnewydd.
Mae gallu cynnig y Bwyd Môr Cymreig gwych hwn sydd wedi'i ddal yn lleol yn fraint yn ôl Chris.
"Mae wedi bod yn addysg i ni gan nad ydym wedi arfer delio â chwsmeriaid yn y modd hwn. Ond ers Covid-19, mae pobl eisiau prynu gan gynhyrchwyr ac allfeydd llai, ac mae ein siop ar y safle yn hynod o boblogaidd.”
Rhagor o wybodaeth: www.vinsullivan.com a www.fishshack.co.uk
CARDIGAN BAY FISH
Mae cydweithio’n ail natur i gwmni Cardigan Bay Fish, gyda’r perchnogion, Len a Mandy Walters yn ymwneud â nifer o fentrau i amlygu’r diwydiant bwyd môr yng Nghymru, ynghyd ag ansawdd ac amrywiaeth yr hyn sy’n cael ei ddal.
Mae Len a'i fab Aaron, yn pysgota drwy gydol y flwyddyn ar gyfer amrywiaeth o bysgod a physgod cregyn.
Mae eu menter arobryn yn Llandudoch hefyd yn ffigwr cyfarwydd mewn marchnadoedd cynnyrch lleol, lle mae cwsmeriaid yn heidio i brynu prydau sy’n cael eu creu gan Mandy, gan gynnwys cranc wedi’i baratoi a phate macrell.
Felly, pan ddaeth y cyfle i weithio gyda Vin Sullivan i gyrraedd cwsmeriaid newydd, cytunodd y cwpl i gymryd rhan.
Meddai Mandy, "Rydym wedi adnabod Chris yn Vin Sullivan ers tro, ond pan ddaeth y cyfnod clo, gofynnodd i ni ymuno â’u menter newydd. Nawr, maent wedi bod yn dod yma bob wythnos am fwy o'n cimychiaid a'n crancod byw, yn ogystal â'n crancod wedi’u paratoi a'n pate macrell."
Mae Cardigan Bay Fish yn angerddol dros annog pobl i fwynhau bwyd môr o Gymru, ac maent hefyd yn lledaenu’r neges drwy arddangos yr arwyddion ‘Bwyd Môr Cymru a Mwy i’r Drws’.
"Mae bod yn rhan o'r Clwstwr wedi helpu ein busnes ac wedi ein galluogi i adeiladu ein perthynas gyda Vin Sullivan. Mae'n dda hefyd bod mwy o fwyd môr Cymru yn aros yng Nghymru, a'i fod yn cael ei werthu yn y farchnad gartref."
Rhagor o wybodaeth: www.cardiganbayfish.co.uk