Mae gwobrau’r Great Taste, a gydnabyddir fel gwobrau bwyd a diod pwysicaf y byd, wedi cyhoeddi eu sêr yn 2020, ac mae llu o gynhyrchion bwyd a diod Cymreig blasus wedi cyrraedd y brig.

Cafodd 161 o gynhyrchion Cymreig eu cydnabod a rheiny yn amrywiol o gynhyrchwyr artisan annibynnol bach i ddosbarthwyr ar raddfa fawr. Llwyddodd 115 o gynhyrchion i sicrhau 1-seren, gyda 43 yn derbyn 2-seren a thri yn ennill y clod mwyaf a chael 3-seren.

Ymysg yr enillwyr 3-seren Great Taste o Gymru mae Cynhyrchion sydd â blasau ffrwythau yn ganolog iddynt gan gynnwys;

  • Finegr Mêl gyda mafon “hardd, cain ac yn fwrlwm o liw” gan Wenallt Hive yng Nghastell Newydd Emlyn, aeth â’r beirniaid ar “daith o flasau amrywiol - ffrwythlon a melys a sur a chyfoethog a hwyliog”
  • Sorbet Ceirios Coch Mario’s gan gwmni Hufen Iâ Moethus Mario’s yn Llanelli, a ddisgrifiwyd fel “sorbet clasurol gyda’r ffrwythau’n canu o gopaon y tai, yn eich galw yn ôl am fwy”
  • Sinsir organig Blighty Booch Kombucha o Conwy Kombucha, a ganmolwyd am fod yn “pefrio ar eich tafod, ac yna yn cynnig cyfuniad rhyfeddol o gytbwys o wres o’r sinsir, blas y te a ffrwythlondeb ysgafn”, gan arwain un beirniad i ddatgan, “Dyma enghraifft wych o’r hyn y dylai kombucha fod.”

Wrth ymateb i’w llwyddiant yn sicrhau gwobr 3-seren Great Taste, dywedodd Marion Dunn o Wenallt Hive,

“Rydyn ni'n arbennig o falch o'n Finegr Mêl. Mae’n cymryd dros 18 mis i'w greu gan ddefnyddio mêl Cymreig, dŵr Cymreig a'n rhiant finegr unigryw yn unig, mae’r eplesiad ysgafn yn creu finegr cynnil sy'n cael ei werthfawrogi nid yn unig am ei flas ond hefyd am ei ddaioni naturiol. Roedd yn hyfryd derbyn cydnabyddiaeth ar ffurf gwobr 3 seren Great Taste am y finegr mafon eleni.”

Ychwanegodd Rheolwr Gyfarwyddwr a pherchennog Mario’s Ice Cream, Mario Dallavalle,

“Mae’n wych i fod yr unig gynhyrchydd hufen iâ o Gymru sydd wedi ennill gwobr 3 seren ar gyfer 2020. Mae’n wobr haeddiannol o ystyried y gwaith caled rydyn ni wedi’i wneud i gynhyrchu ein cynnyrch. Mae'n golygu cymaint i gael gwobr Great Taste oherwydd caiff rhain eu beirniadu gan gogyddion, perchnogion bwytai a beirniaid bwyd – mae rhain wedi blasu llawer o gynhyrchion ac â chariad gwirioneddol at ansawdd a blas. "

Yn gyffredinol, mae nifer y cwmnïau o Gymru sydd wedi derbyn gwobr Great Taste 2020 yn fwy o gymharu â'r llynedd, gan brofi, er ein bod mewn hinsawdd heriol, bod y diwydiant bwyd a diod yn ffynnu yng Nghymru.

Wrth longyfarch y cynhyrchwyr buddugol, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

“Rwy’n falch iawn o weld cymaint o’n cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau Great Taste 2020. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i longyfarch holl enillwyr Cymru ar y llwyddiant anhygoel hwn.

”Mae beirniaid y Guild of Fine Foods wedi adnabod cynnyrch o'r ansawdd uchaf o bob rhan o Gymru, gan adlewyrchu'r gwaith caled a'r creadigrwydd sy'n nodweddiadol o'n diwydiant bwyd o'r radd flaenaf.”

Yn nod rhagoriaeth ymhlith cwsmeriaid a manwerthwyr fel ei gilydd, mae Great Taste, a drefnir gan y Guild of Fine Foods, yn cael ei gydnabod fel y cynllun achredu bwyd uchaf ei barch ar gyfer cynhyrchwyr bwyd crefftus ac arbenigol, ac fe'i disgrifir fel 'Oscars' y byd bwyd.

Dywedodd John Farrand, rheolwr gyfarwyddwr y Guild of Fine Foods,

“Mae nifer yr enillwyr Great Taste o Gymru eleni wedi bod yn rhyfeddol ac yn adlewyrchu’r safonau uchel y mae cynhyrchwyr ledled y wlad yn eu cyrraedd.

“Fel nod rhagoriaeth cydnabyddedig ymhlith cwsmeriaid a manwerthwyr fel ei gilydd, mae gwobrau’r Great Taste nid yn unig yn arwydd o lwyddiant, ond maent hefyd yn arwydd mesuradwy o ansawdd, all gynyddu gwerthiant ac agor drysau. Mae'r gyfran sylweddol o wobrau eleni i gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn dangos eu hymrwymiad cynyddol i ragoriaeth yn y diwydiant cystadleuol hwn, felly llongyfarchiadau i bawb a lwyddodd i sicrhau eu sêr. ”

Dewiswyd yr enillwyr eleni gan ddefnyddio cyfuniad o sesiynau beirniadu o bell a beirniadu o bellter cymdeithasol, wrth i'r cyfnod clo ddechrau wythnos yn unig wedi i’r beirniadu gychwyn. Roedd hyn yn golygu bod angen ailgynllunio'r broses yn gyflym i sicrhau bod safonau beirniadu cadarn yn cael eu cynnal ac nad oedd ansawdd yr adborth am gael ei gyfaddawdu, gyda’r nod parhaus o roi hwb angenrheidiol i gynhyrchwyr bwyd a diod dros gyfnod hollbwysig y Nadolig.

Y blas sydd yn bwysig i Great Taste yn anad dim arall, a does dim ystyriaeth i frandio na phecynnu. Caiff yr holl gynhyrchion eu tynnu o'u pecynnau cyn cael eu blasu. Yna bydd y beirniaid yn blasu, yn cyd-drafod ac yn ail-flasu i benderfynu pa gynhyrchion sy'n deilwng o wobr 1-, 2- neu 3 seren.

Tra bod cynhyrchwyr Cymru yn mwynhau eu llwyddiant ac yn dechrau arddangos y logo Great Taste aur a du adnabyddus, gyda 1-, 2- neu 3-seren, ar eu cynhyrchion buddugol, byddant yn aros yn eiddgar i weld a ydyn nhw hefyd yn cipio'r prif wobrau yn eu rhanbarth. Cyhoeddir yr anrhydeddau olaf hyn, gan gynnwys Prif Bencampwr Great Taste 2020, yn nigwyddiad gwobrwyo rhithwir Great Taste Golden Fork, a gaiff ei gynnal ym mis Hydref.

Gellir gweld manylion enillwyr eleni yn www.greattasteawards.co.uk ac mae ystod eang o gynhyrchion arobryn ar gael i'w prynu mewn delis, siopau fferm a siopau adwerthu annibynnol ledled y wlad.

 

Share this page

Print this page