Yn dilyn ymgyrch lwyddiannus lle gwelwyd cynnydd sylweddol mewn archebion dros gyfnod y Nadolig yn 2020, mae rhai o gynhyrchwyr diodydd gorau Cymru wedi dod ynghyd i lansio ymgyrch newydd i gynyddu gwerthiant drwy gydol y flwyddyn.
Bydd ymgyrch ‘Diodydd Cymru’, sy’n cael ei chefnogi gan Glwstwr Diodydd Cymru, yn galluogi prynwyr i ddarganfod yr amrywiaeth o gynhyrchwyr diodydd sydd gan Gymru, yn cynnwys cynhyrchwyr gwin, cwrw, seidr, gwirodydd, dŵr, diodydd meddal, diodydd iechyd, te a choffi.
Daw gwefan Diodydd Cymru yn dilyn llwyddiant y digwyddiad ‘Dathlwch y Nadolig gyda Diodydd Cymru’ – mis o arddangos ansawdd ac amrywiaeth diodydd Cymru – lle gwelwyd prynwyr yn gosod archebion gwerth hanner miliwn o bunnoedd dros yr Ŵyl wrth iddyn nhw ddangos eu cefnogaeth i gynhyrchwyr annibynnol Cymru.
Cyn 2020, dim ond cyfran fach o refeniw llawer o frandiau Cymru oedd yn dod o werthu cynnyrch yn uniongyrchol i gwsmeriaid. O ganlyniad, gydag effeithiau’r cyfnodau clo ar y diwydiant lletygarwch, bu’n rhaid i’r rhan fwyaf o gynhyrchwyr ailfeddwl am eu tactegau gwerthu.
Ar ôl un o’r blynyddoedd anoddaf i’r diwydiant diodydd, ac mewn ymgais i gefnogi diwydiant diodydd Cymru drwy gydol y flwyddyn, mae’r cynhyrchwyr sydd wrth galon y diwydiant wedi creu ‘Diodydd Cymru’ a fydd yn gweithredu fel ffenestr siop rithwir i’r diwydiant diodydd. Bwriad yr ymgyrch, sy’n cynnwys mapiau rhyngweithiol hefyd, yw helpu prynwyr i ddarganfod cynhyrchwyr ar garreg eu drws ac yn bellach i ffwrdd, a’u galluogi i brynu’n uniongyrchol gan gynhyrchwyr diodydd annibynnol.
Bydd modd i brynwyr gael mynediad at gystadlaethau unigryw a’r cynigion diweddaraf drwy Ddiodydd Cymru.
Un o’r busnesau oedd yn rhan o ymgyrch ‘Dathlwch y Nadolig gyda Diodydd Cymru’ ac sydd wedi parhau i fod yn rhan o’r fenter Diodydd Cymru newydd yw Gwinllan Conwy. Meddai Colin Bennett, perchennog y cwmni: “Rhwng y gostyngiad sylweddol mewn twristiaeth a llai o werthiant wrth ddrysau'r seler, a’r ffaith bod gwerthiant yn y diwydiant lletygarwch hefyd wedi cael ergyd, mae’n bosib mai 2020 fyddai wedi bod y flwyddyn anoddaf i ni fel busnes hyd yma. Ond, gyda chefnogaeth y Clwstwr Diodydd a’i ddigwyddiadau rhithiol drwy gydol y flwyddyn, fe welon ni dwf sylweddol yn y traffig i’n gwefan. Fe ysbrydolodd hyn ni i ddiweddaru ein gwefan ac i ddatblygu ein presenoldeb ar-lein – rhywbeth fydden ni ddim wedi’i wneud fel arall fwy na thebyg. Uchafbwynt y flwyddyn oedd gweld cynnydd sylweddol mewn gwerthiannau erbyn diwedd y flwyddyn, diolch i ymgyrch ‘Dathlwch y Nadolig gyda Diodydd Cymru’.
Nid yn unig mae grym cyfunol y Clwstwr wedi’i gwneud hi’n haws i bobl brynu ganddon ni’n uniongyrchol, ond mae’n rhoi cyfle iddyn nhw ddarganfod a phrofi cynhyrchwyr newydd hefyd.”
Cafodd yr ymgyrch i gefnogi ein cynhyrchwyr gweithgar ei chreu a’i chydlynu gan Glwstwr Diodydd Cymru, sefydliad a gafodd ei greu a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru yn 2017, sy’n gweithio mewn partneriaeth gyda busnesau diodydd, academyddion a’r diwydiant i greu a datblygu diwydiant diodydd ffyniannus.
Meddai Andy Richardson, cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru: “Cyn y pandemig, roedd ein diwydiant diodydd bywiog yn cynrychioli un o sectorau mwyaf amrywiol Cymru. Mae gwaith ein cynhyrchwyr angerddol wedi ennyn sylw a chanmoliaeth ryngwladol, ond fel llawer o fusnesau eraill, maen nhw wedi wynebu heriau na welwyd mo'u tebyg yn sgil y pandemig. Er gwaetha’r effeithiau a gafwyd wedi i’r sector lletygarwch gau dros dro, a llai o werthiant wrth ddrysau'r seler, mae’r cynhyrchwyr yma wedi gweithio’n galetach nag erioed.
Yn dilyn llwyddiant ymgyrch ‘Dathlwch y Nadolig gyda Diodydd Cymru’, bydd Diodydd Cymru yn caniatáu i gynhyrchwyr gyrraedd pobl mewn ffyrdd newydd a bydd pobl yn gallu profi ansawdd y cynnyrch maen nhw’n ei greu.”
Meddai Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Er gwaethaf blwyddyn anodd na allen ni fod wedi'i dychmygu, mae’r busnesau sy’n rhan o sector diodydd dynamig Cymru wedi dyfalbarhau, diolch i waith caled a phendantrwydd. Gan oresgyn yr heriau maen nhw wedi’u hwynebu, mae’r diwydiant uchelgeisiol yma wedi canfod ffyrdd newydd o gyrraedd cwsmeriaid. Mae’n hanfodol bod yr arloeswyr yma’n cael eu cefnogi.
“Mae llwyddiant ymgyrch ‘Dathlwch y Nadolig gyda Diodydd Cymru’ yn dangos bod galw mawr am yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig. Does dim amheuaeth y bydd Diodydd Cymru yn parhau â’r duedd yna er mwyn caniatáu i gwsmeriaid hen a newydd gefnogi’r diwydiant hollbwysig yma a mwynhau’r cynnyrch o safon maen ei gynhyrchu.”
Mae’r Clwstwr Diodydd yn cael ei hwyluso gan Levercliff ar ran Llywodraeth Cymru. Tîm o arbenigwyr bwyd a diod yw Levercliff sy’n defnyddio gwybodaeth, mewnwelediad a phrofiad sylweddol i helpu cleientiaid i ddatblygu eu brand a thrawsnewid eu busnes.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: https://drinkwelsh.co.uk/cy/