- Cynnydd o bron i un filiwn hectolitr yn y capasiti ar safle Magwyr, o ganlyniad i sefydlu Llinell Botelu Newydd
- Daw’r ymweliad yn dilyn buddsoddiad o £70 miliwn yn y Bragdy a gosod tyrbin gwynt ar ddiwedd 2020, sy'n golygu bod holl gwrw Grŵp Bragu Budweiser yn y DU yn cael ei fragu gan ddefnyddio trydan 100% adnewyddadwy
Magwyr, y DU, Gorffennaf 2021, mae Grŵp Bragu Budweiser y DU ac Iwerddon, sy'n rhan falch o AB InBev y DU Cyf., yn croesawu'r AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths, i'w Fragdy ym Magwyr, De Cymru ar 20 Gorffennaf. Yn ystod yr ymweliad, agorodd y Gweinidog Linell Botelu newydd ym Magwyr yn swyddogol, a chafodd hi daith o amgylch y bragdy i ddysgu mwy am arferion cynaliadwyedd Grŵp Bragu Budweiser.
Mae Bragdy Magwyr, sy'n bragu cwrw gan gynnwys Budweiser, Stella Artois a Bud Light, yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth, gyda 500 o bobl yn gweithio ar draws y safle sydd wedi bod yn bragu ers 1979. Mae'r bragwr yn chwarae rhan bwysig yng nghymuned ac economi De Cymru drwy ddarparu cyfleoedd swyddi a phrentisiaid i bobl leol.
Agorodd y Gweinidog Linell Botelu newydd y bragdy yn swyddogol. Bydd yn rhoi mwy o gwrw i'r genedl sy’n defnyddio haidd 100% Prydeinig a thrydan 100% adnewyddadwy. Ar ddiwedd 2020, gosodwyd tyrbin gwynt newydd yn y bragdy ym Magwyr i helpu i bweru'r safle gyda thrydan adnewyddadwy, ac mae’n cyflenwi bron i chwarter yr ynni a ddefnyddir yn y bragdy. Gweithiodd Grŵp Bragu Budweiser hefyd gyda phartneriaid logisteg ar safle Magwyr i wneud arbedion effeithlonrwydd ar draws cadwyn gyflenwi eu danfoniadau, gan ddefnyddio cynllun rhannu tryciau i gael gwared ar lorïau gwag ar lwybrau mawr a symleiddio nifer y teithiau sy'n cael eu gwneud. Bydd y fenter hon yn cael gwared ar 300 o lorïau o ffyrdd y DU bob blwyddyn, gan arbed dros 46 tunnell o Garbon Deuocsid fel rhan o ymrwymiad parhaus y cwmni i gyflawni nodau cynaliadwyedd a bodloni'r galw am ei gynhyrchion.
Roedd ymweliad y Gweinidog hefyd yn gyfle i brentisiaid Grŵp Bragu Budweiser drafod y sgiliau bragu a pheirianneg y maent wedi'u caffael yn ystod eu prentisiaeth. Dros y 12 mis diwethaf, mae 12 prentis newydd wedi cael eu cyflogi, a thros y chwe blynedd diwethaf, mae saith prentis wedi cwblhau'r rhaglen ac maent bellach yn gweithio fel aelodau o'r tîm peirianneg, gyda phedwar prentis ar hyn o bryd mewn gwahanol gamau o'r rhaglen pedair blynedd.
Yna ymunodd y Gweinidog â Rheolwr y Bragdy, Lloyd Manship, ar daith y tu ôl i'r llen o amgylch Bragdy Magwyr.
Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: "Mae gan fragdy Grŵp Bragu Budweiser ym Magwyr hanes hir a phwysig yn y gymuned leol, ac mae sefydlu llinell botelu newydd yn dangos hyder yn y gweithlu a'r ardal.
"Gwnaeth y camau a gymerwyd i wneud y bragdy'n fwy cynaliadwy greu argraff benodol arnaf, ac roeddwn i’n falch iawn o gael y cyfle i siarad â rhai o'r prentisiaid sy'n dysgu eu crefft ar y safle. Mae Bwyd a Diod yn hanfodol i economi Cymru ac mae sicrhau bod y twf hwn yn gynaliadwy yn hanfodol i'n ffyniant yn y dyfodol."
Dywedodd Lloyd Manship, Rheolwr y Bragdy: "Rydyn ni wrth ein bodd bod wedi croesawu'r Gweinidog i agor ein Llinell Botelu newydd. Roedd yn gyfle gwych iddi glywed am ein hymrwymiad i gynaliadwyedd a'r effaith y bydd ein buddsoddiad £70 miliwn yn ei chael ar brentisiaid, swyddi lleol a'r economi ehangach."