Cig Oen Mynyddoedd Cambria PGI
Cig Oen Mynyddoedd Cambria (PGI) oedd yr ail gynnych Cymreig newydd i dderbyn Dyfarniad Statws Daearyddol y DU, sy’n hynod ddymunol, yn dilyn cyflwyno’r cynllun newydd yn 2021. Mae traddodiad a chymuned yn greiddiol i’r cig oen eiconig swn sy’n yn rhan annatod o fynyddoedd urddasol Cambria.
Mae Mynyddoedd Cambria yn ymestyn dros 10% o dir Cymru ac yn ardal anghysbell yng nghanol Cymru ac yn enwog am ei thirwedd ddiffaith, hanesyddol a’i chynefinoedd naturiol. Rhoddir cydnabyddiaeth o bwysigrwydd Ewropeaidd o ran gwarchodaeth natur i gyfran uchel o’r dirwedd, sy’n cynnwys gorgors, rhostir a glaswelltir lled-naturiol.
Yn wreiddiol, casglwyd Grŵp Cynhyrchu Cig Oen Mynyddoedd Cambria at ei gilydd trwy Fenter Mynyddoedd Cambria, prosiect a ysbrydolwyd gan Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru er mwyn helpu i gynnal ffermydd ucheldir Cymreig traddodiadol a chymunedau gwledig. Heddiw, mae cynhyrchu cig oen ym Mynyddoedd Cambria yn heriol ac mae’n gofyn am sgiliau, gwybodaeth a thraddodiadau sydd wedi cael eu trosglwyddo drwy’r cenedlaethau. Mae bugeilio yn waith caled, a wneir yn haws gyda chymorth cŵn defaid ufudd, wrth geisio cynnal eangderau mawr o dir garw.
Mae Cig Oen Mynyddoedd Cambria yn gynnyrch tymhorol o breiddiau cryfion o ddefaid cynefin traddodiadol sy’n defnyddio’r hen system ‘Hafod a Hendre’. Ar ôl gaeaf yn y dyffryn, mae’r ŵyn yn cael eu bugeilio i fyny i’r mynyddoedd i fwynhau porfa’r haf hir ar dir naturiol sy’n gyfoeth o wahanol laswelltir a pherlysiau. Mae hyn yn cyfrannu at flas Cig Oen Mynyddoedd Cambria ac yn cynhyrchu cig oen y bryniau, ysgafnach. Yn ogystal â diet naturiol yr ŵyn, maent yn cael eu cynhyrchu’n arbennig o famogiaid sydd fel arfer o fynydd Cymreig neu o fridiau traddodiadol eraill o dras Gymreig. Mae hyn yn sicrhau cig oen sy’n aeddfedu’n arafach gan roi mwy o amser i’w flas “ysgafn a melys” ddatblygu.
Mae Cig Oen Mynyddoedd Cambria wedi derbyn dyfarniad statws PGI er mwyn amddiffyn y cynnyrch Cymreig unigryw hwn ac i dynnu sylw at ei dreftadaeth a’i draddodiad gwirioneddol eiconig.