Bydd cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn arddangos eu cynnyrch yn Dubai ym mis Chwefror yn Gulfood, un o arddangosfeydd masnach bwyd a diod mwyaf y byd. |
Mae'r digwyddiad yn nodi cyfle arwyddocaol i fusnesau Cymru yn y sector deithio i ddigwyddiad byd-eang mawr. Mae Gulfood yn ddigwyddiad pump diwrnod a gynhelir rhwng 13–17 Chwefror yng Nghanolfan Fasnach y Byd, Dubai. Bydd brandiau rhyngwladol yn arddangos eu cynnyrch a'u gwasanaethau bwyd a diod diweddaraf. Mae'r arddangosfa'n denu dros 5,000 o gyflenwyr, o 198 o wledydd ledled y byd, sy'n awyddus i ddarganfod cyfleoedd newydd yn y farchnad, cwrdd â chyflenwyr, samplu bwydydd newydd a dysgu am y ffasiynau coginio diweddaraf. Gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru, bydd wyth cwmni o bob rhan o'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru yn mynychu Gulfood 2022, gyda phob un ohonynt yn ceisio cyrraedd marchnadoedd allforio newydd. Mae gan Gymru gysylltiad hir â Gulfood, ac mae hyn wedi helpu i hyrwyddo amrywiaeth o gynnyrch o Gymru yn ardal y Gwlff. Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd, Lesley Griffiths: "Mae sector bwyd a diod Cymru yn un y gallwn ni fod yn falch ohono, ac mae angen inni sicrhau bod pawb yn gwybod amdano. Mae'n bwysig ein bod yn parhau i fod yn weledol ac yn arddangos y cynhyrchion arloesol sy’n cael eu gwneud yma yng Nghymru mewn digwyddiadau masnach byd-eang allweddol. "Mae Gulfood yn darparu platfform cryf ar gyfer gwerthu cynnyrch o Gymru ledled y byd. Mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn hyrwyddo cynhyrchion bwyd a diod o Gymru ac yn cefnogi busnesau ym mhob ffordd y gallwn ni. Byddwn ni’n parhau i helpu cwmnïau o Gymru i feithrin perthnasau gweithio cryf fel y gallant ddysgu am dechnolegau newydd, archwilio marchnadoedd tramor a bod yn gystadleuol o fewn eu diwydiant." Y cwmnïau o Gymru sy'n arddangos yn Gulfood yw Dairy Partners, Rachel's Dairy, Mario's Ice Cream, Calon Wen, Hilltop Honey, Old Coach House Distillery, Morning Foods a Thŷ Nant. Y cwmni o Sir Fynwy, Old Coach House Distillery, yw distyllfa ddi-alcohol gyntaf y byd, ac maent yn gobeithio y bydd Gulfood yn arwain at gyfleoedd newydd iddynt yn y Dwyrain Canol. Maent yn lansio eu brand 'Stillers' ar draws safleoedd masnach yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig, ac maent bellach yn teimlo bod eu busnes yn barod i gefnogi hyn drwy arddangos yn Gulfood. Dywedodd Cameron Mackay, y Cyfarwyddwr Gwerthu a Marchnata: “Mae arddangos ein dau frand di-alcohol, botanegol gerbron y farchnad yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig yn destun cryn gyffro inni. Rydyn ni’n credu y bydd y rhai sy'n bresennol yn Gulfood yn barod iawn i dderbyn ein brand ac yn gobeithio y gallwn ni gwrdd â llawer o gwsmeriaid newydd. "Rydyn ni am ehangu ein gorwelion ynghylch y potensial yn y farchnad ar gyfer diodydd di-alcohol/alcohol isel yng ngwledydd Cyngor Cydweithredol y Gwlff. Rydyn ni hefyd yn obeithiol y bydd ein brand yn cael ei groesawu gan ein cynulleidfa darged" Cwmni arall sy'n chwilio am gyfleoedd busnes newydd yn y farchnad ddomestig a’r farchnad ryngwladol ar gyfer eu cyfres sefydledig o rawnfwydydd, Mornflake Mighty Oats, yw prif Felinydd Ceirch Ewrop, Morning Foods ym Mwcle. Dywedodd Pennaeth Gwerthiannau’r cwmni, Richard Jones: "Byddwn ni’n lansio ein cynnyrch newydd ‘Oatmade’, ceirch sawrus microdon mewn pecynnau a photiau mewn blasau cyffrous newydd, sy’n cynnig opsiwn arall i reis. Ychwanegiad gwirioneddol arloesol a chyffrous i’r gyfres sy'n mynd â'r geirchen ddiymhongar mewn cyfeiriad hollol newydd. "Gulfood fydd un o arddangosfeydd mawr cyntaf 2022. Bydd yn rhoi cyfle perffaith inni arddangos ein cynnyrch i gynulleidfa fyd-eang a chyfle gwych i gwrdd â chwsmeriaid newydd." Hefyd yn Gulfood yn arddangos eu hamrediad amrywiol o fêl o bob cwr o'r byd bydd Hilltop Honey o'r Drenewydd. Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr, Scott Davies: "Rydyn ni wedi penderfynu mynychu digwyddiad Gulfood gan ein bod yn ceisio meithrin presenoldeb yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig a Saudi. Yn ogystal, mae'n dir canol gwych ar gyfer cwrdd â darpar gwsmeriaid ledled y byd. Rydyn ni’n gobeithio gwneud ein brand yn fwy amlwg, gan gynyddu ei ddosbarthiad yn y gwledydd rydyn ni eisoes yn gweithredu ynddyn nhw ond hefyd cael mynediad at farchnadoedd newydd." Mae Cymru wedi bod yn genedl fasnachu lwyddiannus ers cryn amser, gyda nwyddau a gwasanaethau’r wlad yn ennill gwobrau ac yn cael eu hallforio ledled y byd. Fel rhan o Raglen Lywodraethu a Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru, a’i Chynllun Gweithredu ar Allforio, yr uchelgais yw cynyddu gwerth allforion ymhellach byth, drwy gefnogi rhagor o gwmnïau o Gymru i allforio eu cynnyrch i farchnadoedd newydd ledled y byd. |