Ymchwil yn galw am ddatblygu’r gallu i gynhyrchu bwydydd iach o’r radd flaenaf yng Nghymru
Yr wythnos hon, lansiwyd adroddiad newydd a phwysig sydd yn annog y diwydiant bwyd yng Nghymru i ddatblygu a gwerthu cynnyrch iachach.
Yn y gynhadledd Bwyd ar gyfer y Dyfodol gyntaf a gynhelir yn Venue Cymru, Llandudno (Ddydd Iau, 25 Chwefror), dengys yr adroddiad ‘Bwyd ar gyfer y Dyfodol’ fod yr holl fraster, siwgr a halen a fwyteir yng Nghymru heddiw yn fwy na’r hyn sy’n cael ei argymell. O’r herwydd, mae angen gweithredu ar frys i ddelio â’r sefyllfa a lleihau’r risgiau sy’n cael eu cysylltu â’r cymhlethdodau sy’n gallu codi o fwyta gormod o fathau penodol o fwyd.
Mae’r adroddiad yn cynnig dealltwriaeth werthfawr o ganfyddiadau prynwyr, ac yn ystyried materion mor amrywiol â rheoleiddio marchnata, gwella addysg maetheg, ac effaith tebygol cyflwyno ‘treth siwgr’, gan archwilio sut y byddai’r rhain yn effeithio’n gadarnhaol ar y dewisiadau a wna’r prynwr yn y pen draw. Daw i’r canlyniad fod yna gyfrifoldeb ar y prynwr, y sector bwyd a diod, Llywodraeth Cymru a’r gymdeithas yn ehangach, ac efallai fod angen ystyried datblygu Strategaeth Bwyd a Maeth Cymru er mwyn delio â rhai o’r elfennau uchod mewn modd cynhwysfawr.
Ceir 14 o argymhellion allweddol o fewn yr adroddiad, ac mae’r rhain yn cynnwys:
- Ymchwilio i’r posibiliad o sefydlu’r gallu i ailfformiwleiddio cynnyrch iachach o’r radd flaenaf yng Nghymru
- Archwilio’r potensial i gryfhau’r cysylltiadau rhwng ymchwil blaengar (e.e. maetheg, biocemeg a thechnoleg bwyd) a’r diwydiant er mwyn galluogi busnesau Cymru i fasnacheiddio ac arwain y ffordd o ran marchnata cynhyrchion iachach arloesol
- Darparu fframwaith hygyrch a fforddiadwy i gefnogi cwmnïau sy’n ailfformiwleiddio cynhyrchion i’w gwneud yn iachach
Wrth ymateb i gyhoeddi’r adroddiad, dywedodd Rebecca Evans AC, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd Llywodraeth Cymru: “Drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi ei hymrwymiad i greu Cymru iachach a mwy ffyniannus.
“Rwy’n falch iawn gweld fod yr adroddiad yn cynnig gweledigaeth eang ynglŷn â sut y gellir meithrin sector bwyd cryf ac arloesol yng Nghymru, sector all ddarparu bwyd iach, cynaliadwy, diogel a fforddiadwy o’r safon uchaf, fydd yn arwain at fuddion economaidd a chymdeithasol, yn ogystal ag effeithiau amgylcheddol isel.”
Paratowyd yr adroddiad gan dîm ymchwil Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, ar ran Adran Bwyd ac Iechyd Cyhoeddus Llywodraeth Cymru. Ynddo, dadansoddwyd polisi a strategaeth gyfredol tra’n edrych ar y rôl y gall y diwydiant bwyd yng Nghymru ei chwarae yn y broses o ailfformiwleiddio cynnyrch bwyd iachach. Rhagwelir y bydd yr adroddiad yn gymorth i fusnesau Cymreig weithio’n fentrus er mwyn gwella iechyd y genedl, tra ar yr un pryd yn hyrwyddo twf, cystadleuaeth a phroffidioldeb o fewn y sector bwyd a diod.
Yn ôl David Lloyd, Cyfarwyddwr y Ganolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE, “Gobeithiwn y bydd yr adroddiad yn gymorth i brynwyr, y diwydiant a’r llywodraeth i gydweithio er mwyn cynnig dewisiadau bwyd iachach i’r cyhoedd yng Nghymru. Mae darganfyddiadau’r adroddiad hwn yn hanfodol er mwyn i ni allu taclo’r pla o broblemau iechyd sy’n gysylltiedig â bwyd, ond bydd yn gymorth hefyd i gefnogi datblygiad y diwydiant bwyd a diod a’i helpu i werthu a marchnata cynnyrch iachach yng Nghymru a ledled y byd.”