Gyda llygaid y byd ar Gymru wythnos hon wrth i’r wlad baratoi i groesawu arweinwyr byd i uwch-gynhadledd NATO, mae’r sylw hefyd ar fwyd a diod Cymru . Tra bydd cynnyrch Cymreig yn serennu ar y fwydlen yn yr uwch-gynhadledd bydd nifer o gynhyrchwyr bwyd adnabyddus Cymru yn symud wedyn i Lundain i arddangos eu cynnyrch yn y “Speciality and Fine Food Fair”, digwyddiad masnach mwyaf y sector yng ngwledydd Prydain.

Mae’r Ffair yn denu prynwyr o bell ac agos ac mae’n llwyfan hollbwysig i fusnesau Cymru arddangos eu cynnyrch. Bydd 25 o gynhyrchwyr o bob rhan o Gymru’n cael y cyfle i arddangos eu danteithion ar stondin Llywodraeth Cymru, cyfle gwerthfawr i roi Cymru ar y map bwyd.  

Un o’r cwmniau gaiff gyfle i arddangos yn y digwyddiad fydd y Pembrokeshire Beach Food Company ac mae nhw wedi datblygu cynnyrch newydd â chyswllt amserol yn ôl un o sylfaenwyr y cwmni Jonathan Williams,

“Mae arddangos mewn digwyddiadau fel y ffair Speciality yn rhoi’r cyfle i ni siarad yn uniongyrchol â phrynwyr ac i ehangu ein marchnad. Eleni ryn ni wedi ein hysbrydoli gan ddathliadau canmlwyddiant Dylan Thomas ac ryn ni wedi datblygu sesnin arbennig Capten Cat, cymysgfa newydd o sbeisys gaiff ei lansio yn Llundain. Fel gyda gweddill ein cynnyrch, maent wrth gwrs wedi eu creu gan ein tim o fôr-forynion Cymreig.”

Yn ystod y digwyddiad bydd enillwyr Great Taste Awards gwledydd Prydain hefyd yn cael eu cyhoeddi. A hwythau’n cael eu hystyried yn wobrau Oscar y byd bwyd, y wobr hon yw’r meincnod cydnabyddedig ar gyfer bwyd a diod arbenigol.

A hwythau wedi ennill tair seren yng ngwobrau’r Great Taste, mae gan y Patchwork Traditional Food Company o Sir Ddinbych gyfle i gystadlu am y brif wobr, anrhydedd fawr yn ôl Rufus Carter o’r cwmni,

“Allan o 10,000 o gynhyrchion a gyflwynwyd ar gyfer y Great Taste Awards, dim ond 153 gafodd dair seren, felly mae’r ffaith fod ganddon ni gyfle i ennill y brif wobr yn wych inni fel cwmni. Er ein bod wedi bod wrthi ers tro erbyn hyn, mae ein cynnyrch yn dal i gael ei wneud â llaw mewn sypynnau bychain ac rydw i’n meddwl mai dyna un o’r prif resymau am ein llwyddiant.

Mae arddangos mewn digwyddiadau fel y Ffair Arbenigol yn rhoi’r cyfle inni siarad yn bersonol â phrynwyr ac ehangu ein marchnad. Rydyn ni’n gwybod fod bwyd a diod o Gymru yn gynnyrch o’r safon uchaf ac mae’n rhaid inni ofalu fod pawb arall yn gwybod hynny hefyd!”

Cynhelir y Ffair Bwyd Arbenigol Gorau yn Llundain ar 7-9 Medi a chyhoeddir enillwyr y Great Taste Award ar noson yr 8fed Medi.