Mae cwmnïau bwyd a diod o Gymru’n paratoi i fynychu sioe fwyd a lletygarwch flynyddol fwyaf y byd yn Dubai er mwyn dod o hyd i gwsmeriaid a phartneriaid newydd. Cynhelir Gulfood yng Nghanolfan Fasnach Dubai a’r disgwyl eleni, a hithau ar ei 20fed blwyddyn, yw y bydd yn denu dros 5,000 o arddangoswyr o 120 gwlad.
Gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, bydd 15 cynhyrchydd o Gymru yn bresennol o dan faner Bwyd a Diod Cymru, a phob un ohonynt yn gobeithio hyrwyddo eu cynnyrch a datblygu eu marchnad allforio.
Un cwmni sydd wedi gwneud cryn argraff ar y farchnad allforio yw Llanllyr Source o Geredigion, sy’n cael ei ystyried yn un o’r dyfroedd potel gorau yn y byd. Gan y buont yn Gulfood yn y gorffennol gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae’r Sylfaenydd a’r Rheolwr Cyfarwyddwr Patrick Gee yn cydnabod pwysigrwydd digwyddiadau o’r fath.
“Nid yn aml y cewch y cyfle i gyfarfod a thrafod wyneb yn wyneb gyda chymaint o ddosbarthwyr a phrynwyr allweddol, i gyd o dan yr un to, er ei fod yn do go fawr! Fel cymaint o gynhyrchwyr o Gymru erbyn hyn mae ein marchnad yn un fydeang ac mae’n rhaid inni fanteisio ar gyfleoedd o’r math yma. Mae Llanllyr Source yn cael ei ddosbarthu’n barod ar draws Ewrop, America a’r Dwyrain Pell a’n gobaith yn awr yw cynyddu ein presenoldeb yn y Dwyrain Canol.
“Mae pwyslais cryf y dyddiau yma ar darddiad a threftadaeth cynnyrch, ac o gofio y defnyddiwyd ein ffynonellau dŵr gyntaf dros 800 mlynedd yn ôl mae gennym stori wych i’w hadrodd a chynnyrch heb ei ail i’w hyrwyddo.”
Cefnogir pafiliwn Bwyd a Diod Cymru yn Gulfood gan Lywodraeth Cymru a dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Amaeth a Bwyd Rebecca Evans fod presenoldeb Cymru yn y digwyddiad yn gyfle pwysig arall i ehangu marchnad allforio gynyddol Cymru,
“Mae ein sector bwyd a diod yn un y gallwn fod yn falch iawn ohono ac mae angen inni sicrhau bod pawb yn gwybod amdano. Mae hefyd yn ffactor economaidd o bwys – yn ystod y pedwar chwarter diwethaf roedd allforion bwyd a diod o Gymru werth dros £300 miliwn, cynnydd o 3.4% ar y flwyddyn gynt, cynnydd uwch na’r ffigwr ar gyfer y DU yn yr un cyfnod.
“Mae’r targedau yn ein Cynllun Gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod yn adlewyrchu ein hyder yn y sector hwn ac yn pwysleisio pwysigrwydd y gefnogaeth a roddwn i’n cynhyrchwyr i allu arddangos mewn digwyddiadau fel hwn yn Dubai."
Un cwmni sy’n gobeithio ennill lle ym marchnad y Dwyrain Canol yw D Sidoli & Sons o Bowys sy’n gwneud pwdinau moethus i’r diwydiant gwasanaethau bwyd yma yng ngwledydd Prydain ac mewn sawl gwlad yn Ewrop. Mae Gilly Barber o D Sidoli & Sons yn gobeithio y bydd arddangos yn Gulfood yn creu posibiliadau newydd iddyn nhw,
“Buom mewn ffair fasnach debyg ym Mharis y llynedd gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a chawsom gymaint o ddiddordeb gan brynwyr o’r Dwyrain Canol fel ein bod erbyn hyn yn brysur yn archwilio pob cyfle posib. Bydd cael presenoldeb yn Gulfood yn ein galluogi i greu cysylltiad uniongyrchol gyda chwsmeriaid posib.
“Rydym wedi buddsoddi’n drwm yn ein safle yn y Trallwng dros y blynyddoedd diwethaf er mwyn diwallu’r galw gan archebion o Ewrop ac rydym yn cyflogi dros 350 o staff, sy’n cael effaith gadarnhaol ar yr economi leol. Os gallwn ddatblygu ein marchnad yn y Dwyrain Canol mae’n debyg y bydd rhaid inni feddwl am ehangu’r busnes fwy fyth, felly croeswn ein bysedd y cawn groeso cynnes yn Dubai.”
Cynhelir Gulfood 2015 yn Dubai rhwng 8-12 Chwefror a bydd 15 busnes o Gymru yn bresennol ar stondin Bwyd a Diod Cymru.