Daeth hufen cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn ôl o Ffrainc yr wythnos ddiwethaf ar ôl bod yn hyrwyddo’r gorau sydd gan Gymru i’w gynnig yn un o ffeiriau bwyd mwyaf y byd. Roedd y Salon International de l'Agroalimentaire (SIAL) 2014, oedd eleni’n dathlu ei ben-blwydd yn 50, yn gartref i fwy na 6000 o arddangoswyr o 105 o wledydd ac mae’n cael ei hystyried yn llwyfan hollbwysig ar gyfer y sector bwyd a diod i hyrwyddo eu cynnyrch i brynwyr o bedwar ban byd.
Roedd 17 o gwmnïau bwyd a diod o Gymru yn SIAL, o dan faner Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru, a daeth llawer oddi yno ar ôl gwneud cysylltiadau pwysig newydd fydd gobeithio’n arwain at archebion gwerthfawr.
Yn dilyn ei hymweliad â SIAL, ailadroddodd y Dirprwy Weinidog Amaeth a Bwyd, Rebecca Evans AC, ei chefnogaeth i’r presenoldeb Cymreig mewn digwyddiadau pwysig o’r fath.
“Os ydym o ddifrif am godi proffil sector bwyd a diod Cymru ar lwyfan byd-eang mae’n hollbwysig ein bod yn darparu llwyfan fel hwn i’n cynhyrchwyr. Nid ydym wedi cuddio ein targedau uchelgeisiol ar gyfer y sector yng Nghymru, ond nid oes gennyf unrhyw amheuaeth, os oes gennym agwedd strategol, integredig, y gallwn gyrraedd ein targed o dyfu’r diwydiant 30% erbyn 2020. Mae fy ymweliad â SIAL wedi cadarnhau fy nghred am gryfder diwydiant bwyd a diod Cymru ac rwyf yn hyderus y bydd y cynhyrchwyr hynny oedd yn SIAL yn elwa’n uniongyrchol o’r profiad.”
Y cynhyrchwyr granola o Gaerdydd The Good Carb Food Company oedd un o’r cwmnïau ar stondin Bwyd a Diod Cymru ac roedd y Cyfarwyddwr Nigel Bryan yn teimlo ei fod yn ymweliad defnyddiol iawn,
“Mae’n gallu bod yn anodd mewn digwyddiad mor fawr i wneud yn siŵr eich bod yn cael eich gweld, a dyna pam ei bod mor dda fod Llywodraeth Cymru yn ein cefnogi i gael presenoldeb mewn ffair fasnach mor bwysig. Ers inni gychwyn ein cwmni 10 mlynedd yn ôl daethom yn un o’r prif gynhyrchwyr grawnfwydydd granola brecwast iachus, ac rydym yn gwerthu ein cynhyrchion ledled y byd. Mae’r math yma o ddigwyddiad yn rhoi cyfle inni geisio ehangu ein marchnad fwy fyth, ac mae’n rhoi cyswllt uniongyrchol inni gyda phrynwyr hen a newydd.”
Cwmni arall sy’n gobeithio codi archebion newydd yw’r cynhyrchwyr cacennau a phwdinau o’r Canolbarth Sidoli & Sons Ltd, fel y mae Gilly Barber yn esbonio,
“Mae digwyddiadau fel SIAL yn rhoi cyfle inni gynhyrchwyr arddangos ein harlwy i gynulleidfa fawr, ond mae’n gyfle hefyd i gyflwyno cynhyrchion newydd. Roedd ein Cacen Foron Ddi Glwten i’w gweld am y tro cyntaf eleni, ac rwyf yn falch o ddweud ei bod yn boblogaidd iawn. Y gamp yn awr yw adeiladu ar y diddordeb hwnnw a’i droi’n werthiannau.”
Denodd Hufenfa De Arfon gryn dipyn o ddiddordeb gyda’u caws cheddar a aeddfedwyd mewn ogofâu, fel y mae Nick Beadman yn esbonio,
“Mewn digwyddiad mor fawr mae’n dda cael cynnyrch â stori ynghlwm wrtho, a does dim amheuaeth fod ein caws cheddar, a aeddfedwyd 500 troedfedd o dan y ddaear yn Ogofâu Llechi Llechwedd, wedi denu diddordeb pobl. Mae’n gynnyrch sy’n sicr yn adlewyrchu ein treftadaeth Gymreig ac mae’n bartneriaeth werthfawr iawn gydag eicon Cymreig arall, yr ogofâu llechi. Yn bwysicaf oll, mae’n blasu’n wych a dyna, yn ffodus iawn, oedd yr ymateb llethol o SIAL.”
Cynhaliwyd Sial ym Mharis ar 19-23 Hydref ac roedd cynnyrch 17 busnes o Gymru yn cael eu harddangos ar stondin Bwyd a Diod Cymru.