Ar ôl llwyddiant dathliadau Dydd Gŵyl Ddewi, mae cwmnïau bwyd a diod o Gymru wrthi erbyn hyn yn paratoi ar gyfer un o’r digwyddiadau pwysicaf yn y calendr, sef y digwyddiad Bwyd a Diod Rhyngwladol (IFE), a gynhelir yn Llundain tuag at ddiwedd y mis (22-25 Mawrth).

Bu’r flwyddyn ddiwethaf yn un eithriadol i’r diwydiant yng Nghymru wrth i werth allforion bwyd a diod fynd heibio £300 miliwn, ac mae’r dyfodol yn edrych yn arbennig o ddisglair.

Ymhlith yr uchafbwyntiau yn yr IFE eleni mae cyfres o ddyfroedd suddog newydd, hufen iâ diabetig iachus, marmaledau madarch newydd gan un o enillwyr medal aur Great Taste y llynedd a phâst siocled yfed blasus.

Eleni, bydd stondin Bwyd a Diod o Gymru, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, yn cynnwys 35 cwmni, un o’r dirprwyaethau mwyaf erioed yn y digwyddiad. Bydd y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd Rebecca Evans yn bresennol a bydd yn cynnal derbyniad yn yr IFE ar ddydd Llun 23 Mawrth. Meddai:

“Mae’r sector bwyd a diod yng Nghymru yn chwarae rôl allweddol yn datblygu economi Cymru, ac adlewyrchir hynny yn nhwf ein marchnad allforio dros y 12 mis diwethaf. Mae ein Cynllun Gweithredu Bwyd a Diod yn gosod sylfaen i’n dyheadau ar gyfer y diwydiant ac mae ein cefnogaeth gyson i gynhyrchwyr mewn digwyddiadau fel yr IFE yn brawf o’n hymrwymiad.

“Bydd y cyhoeddiad diweddar y cynhelir cam barnu ar gyfer y Great Taste Awards yng Nghymru yn cychwyn cyfnod cyffrous arall i’n diwydiant, a gobeithiaf y bydd ansawdd di-gwestiwn ein cynnyrch i’w weld yn amlwg iawn yn y gwobrau unwaith yn rhagor.”

Enillodd The Patchwork Traditional Food Company aur yn Great Taste Awards y llynedd gyda’u Pate Pesto Coch ac mae ganddynt fwy o gynhyrchion newydd eleni, fel y mae’r Rheolwr Gyfarwyddwr Rufus Carter yn esbonio,

“Eleni rydan ni’n gyffrous iawn am ein casgliad newydd o farmaledau madarch. Enllynnau hyfryd o felys yw’r rhain sy’n cynnwys cynhwysion arbennig fel madarch shiitake a nionod wedi’u carameleiddio, sy’n ychwanegiad gwych i unrhyw bryd neu gallech eu mwynhau ar eu pen eu hunain gyda thost.

“Roedd ennill Gwobr y Fforch Aur yn Great Taste Awards y llynedd yn hwb mawr inni, ac mae’r newyddion diweddar ein bod yn un o dri chwmni Cymreig, ynghyd â Halen Môn a Coconut Kitchen i gael ein henwi yn hanner cant uchaf Sêr Bwyd Prydain, yn tanlinellu’r ansawdd gwych sydd yn y sector. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n dod i’r IFE i alw heibio stondin Cymru i weld beth sydd ar y fwydlen.”

Cynhelir IFE 2015 yn Llundain rhwng 22-25 Mawrth a bydd 35 cwmni o Gymru’n bresennol ar stondin Bwyd a Diod o Gymru.