Bydd pafiliwn Bwyd a Diod Cymru yn Shanghai yn cael ei noddi gan Lywodraeth Cymru.  Dywedodd Rebecca Evans, y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, y bydd presenoldeb Cymru yn y digwyddiad yn gyfle i ehangu marchnad allforio Cymru ymhellach.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog:

“Heb amheuaeth, mae Cymru’n cynhyrchu bwyd a diod o’r radd flaenaf.  Mae Llywodraeth Cymru’n ystyried y sector bwyd a diod yn flaenoriaeth ac yn brif sector datblygu; rydym yn anelu at gynyddu ein gwerthiant blynyddol 30% erbyn 2020 i £7 biliwn.

“Rydym yn rhagweld y bydd ein marchnad allforio i wledydd gan gynnwys Tsieina yn tyfu’n sylweddol oherwydd ffactorau fel mwy o incwm gwario a blas cynyddol am fwydydd rhyngwladol.  Felly, mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru’n cefnogi ein cwmnïau bwyd a diod ac yn rhoi cyfle iddyn nhw arddangos eu cynnyrch yn Nigwyddiad Bwyd a Gwestai Tsieina 2014 er mwyn manteisio ar y cyfleoedd masnachu cynyddol y mae’r farchnad yn eu cynnig.”

Mae yna nifer o gwmnïau o Gymru eisoes yn gwneud enw i’w hunain yn Tsieina, yn eu plith y Good Carb Food Company o Gaerdydd a hufenfa Trioni Ltd o Sir Benfro. 

Mae FHC, a gynhelir yng Nghanolfan Expo Ryngwladol Newydd Shanghai yn un o’r digwyddiadau masnach bwyd a diod rhyngwladol pwysicaf yn Tsieina.  Yn 2013, daeth dros 1,800 o gwmnïau o 70 o wledydd i’r digwyddiad tridiau a thros 30,000 o brynwyr o Tsieina a gwledydd cyfagos. 

Dyma rai o’r cwmnïau o Gymru fydd yn arddangos yn nigwyddiad 2014:

•       Burts Biscuits and Cakes Ltd
•       Dailycer UK
•       Dansco Dairy / Dairy Partners
•       Gower Brewery Company Limited
•       The Good Carb Food Company (Lizi’s)
•       Trioni Ltd
•       Abergavenny Fine Foods
•       Caws Cenarth Cheese Ltd
•       Purple Moose Brewery Ltd
•       Welsh Lady Preserves
•       Welsh Whisky

Share this page

Print this page