Tra bydd y rhan fwyaf ohonom yn dathlu diwrnod ein nawddsant yn weddol agos i gartref, mae rhai o gwmnïau bwyd a diod amlycaf Cymru yn mentro ychydig ymhellach i hybu cynnyrch Cymreig yn Siapan. Disgwylir i’r sioe Foodex flynyddol a gynhelir yn Tokyo ddenu 80,000 o bobl broffesiynol y fasnach o hyd at 80 o wledydd, i gyd yn chwilio am gynnyrch newydd i’w werthu a’i ddosbarthu.

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, bydd cynhyrchwyr o Gymru yn mynychu’r sioe dan faner Bwyd a Diod Cymru, gyda’r bwriad o hyrwyddo eu cynnyrch ac ehangu’r farchnad allforio.   

Mae’r Lobster Pot, busnes teuluol o Sir Fôn, wedi bod yn darparu bwyd môr ffres, safonol, o ffynhonnell gynaliadwy, ers dros 60 mlynedd, ac yn ôl Tristan Wood, eu gobaith nawr yw ehangu’r farchnad dramor,

“Ar hyn o bryd rydym yn dosbarthu’r cynnyrch a ddelir yma yn Sir Fôn i bob rhan o’r Deyrnas Gyfunol ac Ewrop. Fodd bynnag, credwn mai dyma’r amser i ni ystyried ehangu’r farchnad dramor wrth i’r galw am gynnyrch safonol, megis yr un sydd gennym ni, gynyddu. Bydd Foodex yn Tokyo yn gyfle gwych i ni arddangos ein cynnyrch a chyfarfod wyneb yn wyneb â rhai o’r prynwyr a’r dosbarthwyr allweddol. Gobeithio mai dyma fydd y cam cyntaf pwysig i ni i mewn i farchnad Asia.”

Nid oes unrhyw amser gwell i ddathlu a gwerthfawrogi bwyd a diod o Gymru nag o gwmpas Dydd Gŵyl Dewi, yn ôl y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans,

“Mae dathliadau Dydd Gŵyl Ddewi yn amlwg yn bwysig iawn i ni yng Nghymru, ond bydd yna ddathliadau hefyd ledled y byd. Mae yna gymdeithas Gymreig gryf yn Tokyo, cymdeithas sy’n falch iawn o’u llinach Gymreig, ac eleni, bydd rhai o gwmnïau bwyd a diod gorau Cymru yno i’w helpu i ddathlu.

“Mae cefnogi’r sector allweddol hon yn hanfodol i economi Cymru, gan fod allforion bwyd a diod yn werth dros £300 miliwn y flwyddyn, swm yr ydym yn gobeithio gallu ei gynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Mae digwyddiadau megis Foodex yn cynnig cyfleoedd i ni ddod i gysylltiad â dosbarthwyr a phrynwyr newydd sbon, a dymunaf y gorau i’n holl gynhyrchwyr yn Siapan.

“Yn ogystal â’r gobeithion allforio, bydd yr ymweliad hwn hefyd yn rhoi cyfle i ni hybu’r posibiliadau o ran buddsoddi’n fewnol yng Nghymru. Mae gennym draddodiad hir yng Nghymru o gydweithio gyda chwmnïau o Siapan, a byddai buddsoddiadau sylweddol o fudd mawr i’n heconomi ni.”

Mae Tan y Castell Food Ltd yn Sir Benfro yn gwmni arall sy’n gobeithio gweld ei gynnyrch ar y llwyfan rhyngwladol. Fel yr esbonia Gregory Summerly,

“Rydym yn arbenigo mewn bwydydd pob traddodiadol, bwydydd megis pice ar y maen a bara brith. Mae ein cynnyrch i’w weld eisoes yn y rhan fwyaf o siopau bwyd ar hyd a lled y Deyrnas Gyfunol, ond rydym bellach mewn safle i ystyried ehangu’r farchnad dramor. Mae’r cyfle i arddangos yn Foodex a thrafod gyda dosbarthwyr yn fodd i ni adnabod anghenion y prynwyr o fewn y marchnadoedd hynny ac ymateb yn ôl yr angen. Ni fyddai hyn yn bosibl i gwmni o’n maint ni heb gefnogaeth Llywodraeth Cymru, ac os bydd popeth yn mynd yn hwylus, gobeithio’n fawr y bydd ein pice bach yn cyrraedd meysydd newydd yn y dyfodol.”   

Cynhelir Foodex 2015 yn Tokyo rhwng 3-6 Mawrth a bydd 7 o fusnesau o Gymru yno ar stondin Bwyd a Diod Cymru.