Bydd rhai o fwydydd a diodydd gorau’r wlad yn cael eu harddangos yn y Cynulliad Cenedlaethol heddiw (Dydd Mawrth, 20fed Ionawr) wedi llwyddiant ym mhrif wobrau’r diwydiant dros y DU.
Dyma gyfle i gynhyrchwyr bwyd enillodd sêr aur yng ngwobrau blynyddol y ‘Great Taste Awards’, ddisgrifir yn aml fel ‘Oscars’ y byd bwyd a diod, i arddangos eu cynnyrch buddugol. Bydd y dathliad ym Mae Caerdydd hefyd yn gyfle i’r cwmnïau gwrdd â phrynwyr o archfarchnadoedd mwyaf y DU yn ogystal â siopau moethus, ‘delis’ arbenigol a chynrychiolwyr o’r sector gyhoeddus.
Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans AC, sy’n cynnal y digwyddiad ac fe’i trefnir gan Bwyd a Diod Cymru – Food and Drink Wales, y grŵp ambarél newydd i hyrwyddo bwyd a diod Gymreig yma a thramor. Great Taste sy'n cefnogi’r dathliad lle bydd cyfle i Aelodau Cynulliad gyfarfod â chynhyrchwyr o bob cwr o Gymru.
Mae rhai o brif enillwyr eleni, gafodd eu gwobrwyo â thair seren aur, yn cynnwys bwyty Thai o Abersoch ddechreuodd gynhyrchu sawsiau a phastau ei hun, cwmni o Ruthun sy’n dal i wneud bwyd â llaw gan ddefnyddio cynnyrch lleol ond ar lefel masnachol ac un o gyflogwyr mwyaf y wlad yn y maes bwyd.
Mae Ffermio a Bwyd yn sector allweddol ar gyfer Llywodraeth Cymru. Bwriad y llywodraeth yw codi trosiant blynyddol y sector o 30%, o £5.2biliwn i £7biliwn erbyn 2020.
Dywed Rebecca Evans AC, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd:
“Mae’n wych gweld cymaint o wahanol gynhyrchion a busnesau bwyd o Gymru yn cael cydnabyddiaeth gan un o brif wobrau’r sector. Mae’r digwyddiad heddiw yn dathlu ystod o fusnesau sy’n creu rhai o’r bwydydd a’r diodydd gorau yng Nghymru. Dymuna’r llywodraeth ddathlu eu llwyddiant a rhoi cymorth iddynt ddatblygu ymhellach ac adeiladu ar y gydnabyddiaeth hon gan barhau i dyfu a chreu mwy o gyfleoedd swyddi.”
Mae 62 o gynhyrchwyr o Gymru wedi cael eu cydnabod am eu rhagoriaeth gan Great Taste am 121 o gynhyrchion gwahanol.
Derbyniodd tri chynnyrch y wobr uchaf o dair seren aur. Yn ôl Great Taste, mae un seren yn dynodi “Agos at Berffeithrwydd”, dwy seren yn gynnyrch “Difai”, a’r wobr uchaf o dair seren yn awgrymu “Anhygoel - mae’n rhaid i ti flasu hwn.”
Patchwork Traditional Food Company o Rhuthun enillodd prif wobr Cymru, Y Fforc Aur, yn ogystal â derbyn tair seren am eu Pâte Pesto Coch Llysieuol. Mae’r cwmni yn cyflogi 30 o staff yn Sir Ddinbych.
Dywed Jenny Whitham, Rheolwr Gyfarwyddwr Patchwork:
“Mae’r gwobrau yn un o’r rhai mwyaf hir-sefydlog yn sector fwyd y DU. Mae’n wobr eiconig sy’n cael ei chydnabod nid yn unig o fewn y sector fwyd arbenigol ond gan y cwsmer hefyd. Yn 2015 rydym yn gobeithio derbyn gwobr y ‘Golden Fork’ am y gorau o Gymru unwaith eto.”
Enillodd The Coconut Kitchen o Lanbedrog yng Ngwynedd dair seren aur am ei Phast Cyri Gwyrdd Thai yn ogystal â sêr eraill am Saws Mêl, Garlleg a Phupur ac am Bast Cyri Massaman.
Dyweda Paul Withington o Coconut Kitchen:
“Mae’r gwobrau yn dilysu bod ein cynnyrch wir yn blasu’n wych ac mae’n helpu cynulleidfa ehangach ddeall hynny. Mae angen pob help ar gwmni bach fel ni i gael sylw. Mae’r ‘ buzz' o fod wedi derbyn tair seren y flwyddyn yma am ein Past Cyri Gwyrdd a chael ein henwebu ar y rhestr 50 Uchaf y DU yn wych. Mae derbyn gwobr wedi rhoi hwb mawr i’n busnes ac ers hynny rydym wedi derbyn cytundebau dros y DU, yn Y Swistir, Sweden a Norwy a Dubai gobeithio.”
Y trydydd cwmni i dderbyn gwobr tair seren am eu Rac Cig Oen Nature’s Meadow ar y Gambren yw Dawn Meats, sy’n cyflogi dros 300 o weithwyr yn ei ffatri yn Cross Hands.
Yn ôl Alison Haselgrove o Dawn Meats, mae busnesau mawrion fel Dawn Meats yn gwerthfawrogi ennill gwobr Great Taste cymaint â chynhyrchwyr llai.
“Mae Great Taste yn wobr llawn bri sy’n cael ei chydnabod gan y cwsmer yn ogystal â’r diwydiant. Drwy dderbyn gwobr, rydym yn gallu gosod logo Great Taste ar ein pecynnau ac felly yn gallu dangos i’n cwsmeriaid bod ein bwyd wedi ei raddio i safon uchel gan y beirniaid. Mae’r gystadleuaeth yn frwd ac felly mae ennill yn gydnabyddiaeth wych.”
Y Guild of Fine Food sy’n trefnu Gwobrau Great Taste ac maent yn un o brofion bwyd mwyaf y byd sy’n cael eu beirniadu’n “ddall”. Mae’r sêr aur yn arwydd cydnabyddedig ar gyfer bwyd a diod arbenigol.
John Farrand yw Rheolwr Gyfarwyddwr Guild of Fine Food, trefnwyr Gwobrau Great Taste. Dyweda bod y digwyddiad hwn yn llwyfan pwysig ar gyfer cynhyrchwyr o Gymru.
“Mae’r arddangosiad yma, wedi ei drefnu gan Bwyd a Diod Cymru, yn dathlu llwyddiant o’r llu o gynhyrchwyr o Gymru sydd wedi derbyn gwobrau Great Taste. Rwyf yn cymeradwyo blaengaredd ac ansawdd y cynhyrchwyr yma. Hoffwn annog mwy o gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru i ymgeisio yn Great Taste 2015; i ddefnyddio’r cyfleon marchnata gwerthfawr sy’n dod yn sgil achrediad Great Taste, ac i adeiladu ar broffil bwydydd o Gymru i gynulleidfa dramor sydd, fel y gwyddom, yn awyddus iawn i ganfod bwydydd o restr sêr Great Taste.”
Rhaid i ymgeiswyr fynd drwy rowndiau profi llym gyda dros 400 o feirniaid o’r diwydiant cyn ennill 1, 2 neu 3 seren aur Great Taste. Mae beirniaid yn gorfod blasu’r cynnyrch yn ddall i sicrhau bod y gwobrau yn cael eu dyfarnu yn ôl blas yn unig.